Atal digwyddiadau llygredd a’u rheoli

URN: LANTw4
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth, Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i atal digwyddiadau llygredd ar safle a’u rheoli. Gallai llygredd gynnwys olew, tanwydd, cemegion a llygredd gwasgaredig wedi’i achosi gan weithrediadau gwaith coed.

Mae atal llygredd a’i reoli yn ofyniad cyfreithiol a dylai gael ei gynllunio cyn bod gwaith yn dechrau.

Gall amrywiaeth o gamau gael eu rheoli ar waith i atal llygredd rhag digwydd ac i reoli effaith digwyddiadau damweiniol.

Wrth weithio gyda chyfarpar, peiriannau a chemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol, gan gynnwys y gofyniad eich bod yn cysylltu ag awdurdodau rheoleiddio dŵr ynghylch digwyddiadau llygredd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  2. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r mathau o ddigwyddiadau llygredd a allai ddigwydd
  3. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  4. nodi natur, graddau ac effaith bosibl digwyddiadau llygredd
  5. cadarnhau eich bod wedi cael hyfforddiant perthnasol ar atal digwyddiadau llygredd a’u rheoli a bod ardystiad yn ei le i weithredu peiriannau, lle bo angen
  6. rhoi mesurau atal ar waith yn unol â’r math o lygredd a gwybodaeth berthnasol
  7. monitro a chynnal mesurau atal i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol a rhoi gwybod am unrhyw broblemau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. rhoi gwybod i’r asiantaethau perthnasol am ddigwyddiadau llygredd yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol
  9. dewis mesurau rheoli priodol yn unol â’r risgiau a aseswyd a’r math o ddigwyddiad llygredd
  10. ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis mesurau rheoli
  11. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, asiantaethau eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r digwyddiad llygredd, neu y mae’r digwyddiad llygredd yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  12. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r cyfarpar a’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio i reoli’r llygredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. delio â’r digwyddiad llygredd gan ddefnyddio’r mesurau rheoli mwyaf priodol, gan ddilyn y gweithdrefnau rheoli llygredd cytunedig
  14. delio â sylweddau peryglus yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  15. nodi unrhyw newidiadau i raddfa neu natur y digwyddiad a rhoi gwybod i'r person dynodedig am y newidiadau hyn
  16. cadarnhau bod y gofynion amgylcheddol deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol yn cael eu bodloni
  17. gwaredu deunyddiau rheoli llygredd a ddefnyddiwyd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  18. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  19. cwblhau a storio cofnodion o’r digwyddiad llygredd yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau’n gysylltiedig â’r safle a’r math o ddigwyddiad llygredd a allai ddigwydd
  2. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  3. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  4. effaith tanwyddau, olewau, cemegion a llygredd gwasgaredig a’r camau y gellir eu cymryd i atal digwyddiadau llygredd
  5. y cosbau y gellid eu hwynebu am achosi llygredd
  6. goblygiadau tirwedd, amodau’r ddaear, math o lystyfiant, y tymor a’r tywydd i ddigwyddiadau llygredd
  7. pwy sydd angen cael gwybod am ddigwyddiad llygredd a sut dylai hyn gael ei wneud
  8. y gadwyn reoli a rolau personél mewn digwyddiad llygredd
  9. y camau y gellir eu cymryd i reoli digwyddiadau llygredd
  10. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol
  11. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, asiantaethau eraill ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad llygredd, neu y mae’r digwyddiad llygredd yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu ddylai gael eu defnyddio
  12. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE), a gofalu amdano
  13. y cyfarpar a’r peiriannau y gellir eu defnyddio i helpu rheoli digwyddiadau llygredd
  14. y gofynion ar gyfer trin sylweddau peryglus yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  15. y dulliau cywir ar gyfer gwaredu deunyddiau rheoli llygredd
  16. pwysigrwydd gwirio pa mor dda mae’r camau rheoli llygredd wedi gweithio
  17. y problemau a all godi wrth reoli digwyddiadau llygredd, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  18. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  19. pwysigrwydd cwblhau cofnodion o’r digwyddiad a’r camau rheoli a gymerwyd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Atal a rheoli’r mathau canlynol o lygryddion:

  • olewau a thanwyddau
  • cemegion
  • llygredd gwasgaredig

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae llygredd gwasgaredig mewn gwaith coed yn cynnwys: baw a silt, tameidiau bach o danwydd, olew neu lygryddion eraill a ollyngwyd sy’n cael eu rhyddhau i gwrs dŵr naturiol

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • canllawiau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Gall camau atal llygredd gynnwys:

  • lleiniau clustogi
  • ffosydd rhwystr
  • trapiau silt
  • ffensys silt
  • parthau hidlo
  • pibellau draenio ddŵr
  • matiau tocion
  • ffyrdd boncyffion
  • pontydd boncyff
  • storio tanwydd, olew a chemegion yn gywir
  • ardaloedd dynodedig ar gyfer ailgyflenwi tanwydd a chynnal a chadw
  • archwilio a chynnal a chadw peiriannau yn rheolaidd i atal olew a hylif hydrolig rhag gollwng

Gall camau rheoli llygredd gynnwys:

  • trawstiau rhwystro
  • deunyddiau amsugnol ar gyfer llygryddion sy’n cael eu cludo ar arwyneb
  • chwistrelli dŵr cyfaint isel, pwysedd uchel

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw2

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwriaeth, Gweithredwyr llif gadwyn a pheiriannau coedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

llygredd; tanwydd; rheoli; amgylchedd; gollyngiad