Gwerthuso hyfywedd a chynllunio ar gyfer rheoli coedlan

URN: LANTw39
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth, Gwaith coed, Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso hyfywedd rheoli coedlan yn erbyn amcanion penodol a chynllunio cynhyrchu.

Gallai’r amcanion gynnwys hyfywedd ariannol, marchnadoedd posibl ar gyfer cynhyrchion, lleoliad, rheoli cynefin a chynaliadwyedd.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gweithgarwch arfaethedig
  4. nodi’r cymysgedd o rywogaethau ac oedran tybiedig y goedlan
  5. nodi nodweddion, cyfyngiadau a pharamedrau’r safle
  6. nodi marchnadoedd a/neu ddefnydd ar gyfer deunyddiau wedi’u prysgoedio
  7. nodi nodweddion y goedlan
  8. penderfynu ar amcanion y safle a chytuno arnynt
  9. nodi a chofnodi’r cnwd cynaliadwy y mae ei angen i fodloni’r amcanion
  10. gwerthuso hyfywedd bodloni’r amcanion y cytunwyd arnynt
  11. dewis telerau ac amodau priodol ar gyfer cytundebau rheoli’r goedlan
  12. llunio cynlluniau a rhagolygon cynhyrchu yn erbyn data sydd ar gael
  13. cynllunio a gwerthuso amserlen waith effeithiol yn ôl amcanion y cytunwyd arnynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau chi o dan y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau’r safle a’r gweithgaredd arfaethedig
  3. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  4. sut i nodi rhywogaethau sy’n cael eu prysgoedio’n gyffredin yn yr haf a’r gaeaf
  5. arfer da o ran prysgoedio bôn
  6. y ffactorau sy’n effeithio ar adfywio coedlan
  7. gwahanol ddulliau o fesur cyfaint pren/coedlan pan fydd y cnwd yn sefyll a phan fydd wedi’i gwympo
  8. y dulliau o gyflawni cnwd cynaliadwy
  9. effeithiau cadw coed canopi safonol a’u heffaith ar y goedlan
  10. effeithiau cymysgeddau o rywogaethau ar gnydau
  11. sut i amddiffyn coedlan rhag difrod gan anifeiliaid
  12. y dyfeisiau a all helpu i gynhyrchu cynnyrch coedlan, neu gyflymu hynny
  13. y meini prawf ar gyfer trwydded cwympo
  14. pwysigrwydd rheoli coedlan i fioamrywiaeth
  15. cyfarwyddebau cynefin sy’n rheoli gweithrediadau coetir
  16. sut i lunio cynlluniau cynhyrchu ac amserlenni gweithio
  17. pwysigrwydd cynllunio a gwerthuso amserlenni gweithio effeithiol yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt
  18. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon

Cwmpas/ystod

Gallai amcanion gynnwys:

  • hyfywedd ariannol
  • marchnadoedd posibl ar gyfer cynhyrchion
  • lleoliad
  • bioamrywiaeth
  • rheoli cynefin
  • cynaliadwyedd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw51

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Cadwraeth, Gweithiwr Ystâd, Ceidwad, Garddwriaeth, Prysgoedio

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coedlan; prysgoedio