Dylunio a chynllunio coedwig neu goetir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i ddylunio a chynllunio coedwig neu goetir. Gall hyn fod trwy ddiwygio neu edrych eto ar gynlluniau presennol, creu ardal goedwig neu goetir newydd neu ddylunio rhan o brosiect datblygu cymunedol.
Mae’r safon yn ymwneud â dylunio a chynllunio sefydlu coed ar ddarn o dir penodol, gan gyfrif am ofynion a chyfyngiadau daearyddol, ariannol, cyfreithiol ac ymarferol.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle wrth gynnal arolwg o safle yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau diben, cwmpas ac amcanion datblygiad y goedwig neu’r coetir
- gwirio unrhyw ddynodiadau neu ofynion statudol sydd ar waith a allai atal neu osod amodau ar y gwaith i'w gyflawni a chysylltu â’r corff statudol perthnasol i gael cydsyniad ffurfiol
- gwirio a oes angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
- dod o hyd i wybodaeth cynllunio a gofynion rheoleiddiol yn gysylltiedig â datblygu coedwig neu goetir
- cynnal arolwg o’r safle i ddarparu gwybodaeth allweddol i gynllun y goedwig neu’r coetir
- casglu a choladu data’r safle ynghylch unrhyw nodweddion arwyddocaol
- dehongli mapiau a dadansoddi data’r safle
- nodi ac ymgysylltu â’r rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned leol
- ystyried effaith amgylcheddol datblygiad arfaethedig y goedwig neu’r coetir
- asesu addasrwydd ffisegol y safle i ddatblygu coedwig neu goetir
- datblygu dyluniad ar gyfer y goedwig neu’r coetir ar sail amcanion rheoli a gwybodaeth am y safle
- cadarnhau bod y dyluniad yn cyfrif am yr ystyriaethau cyfreithiol perthnasol, canfyddiadau arolwg y safle a’r asesiad o’r effaith amgylcheddol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyfyngiadau ariannol, y defnydd cynaliadwy o’r safle a goblygiadau rheoli yn y dyfodol
- cadarnhau ei fod yn cydymffurfio â fersiwn cyfredol Safon Coedwig y DU (UKFS)
- datblygu cynlluniau ar gyfer y gweithgareddau sy’n ofynnol i roi’r dyluniad ar waith
- cynhyrchu costiadau ar gyfer y cynlluniau, gan gynnwys costau cychwynnol a chostau gweithredu parhaus, ffrydiau incwm, grantiau neu ffynonellau cyllid posibl
- cyflwyno’r dyluniad a’r cynlluniau i’r person neu’r awdurdod perthnasol a chytuno ar unrhyw ddiwygiadau sy’n ofynnol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwneud arolwg o’r safle a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol – gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun, lle y bo’n briodol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- diben, cwmpas ac amcanion datblygu’r goedwig neu’r coetir
- y system dynodiadau statudol bresennol, gan gynnwys dynodiadau bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth, a sut maent yn effeithio ar gynllunio dylunio coedwig neu goetir
- sut i ddod o hyd i wybodaeth cynllunio a rheoleiddio yn gysylltiedig â datblygu coedwig neu goetir
- amrywiaeth o dechnegau arolwg a dulliau casglu data a sut i ddefnyddio’r rhain, gan gynnwys ffynonellau data sylfaenol ac eilaidd
- sut i ddehongli mapiau a defnyddio System Gwybodaeth Fyd-eang (GIS) i gynorthwyo â chynllunio
- pwysigrwydd nodi ac ymgynghori â’r holl randdeiliaid a’r gymuned leol, a sut gellir gwneud hyn
- egwyddorion dylunio tirwedd yng nghyd-destun coedwig neu goetir
- elfennau dyluniad coedwig neu goetir sy’n gydnaws mewn tirwedd hanesyddol
- effaith plannu’r goedwig neu’r coetir ar yr ecoleg bresennol a’r tir cyfagos
- egwyddorion adfywio a dad-ddofi tir
- ystyriaethau mynediad i’r cyhoedd
- sut i bennu nodweddion safle a all effeithio ar ddewisiadau rheoli wrth ddylunio a chynllunio coedwig neu goetir
- pwysigrwydd ystyried effaith amgylcheddol y goedwig neu’r coetir arfaethedig
- sut i annog cynaliadwyedd y safle
- sut i ddatblygu cynlluniau ac amserlenni i weithredu’r dyluniadau
- y costau sy’n gysylltiedig â sefydlu’r goedwig neu’r coetir
- y ffynonellau gwybodaeth am grantiau neu gymhellion ariannol eraill
- dulliau cyflwyno a chyfleu’r dyluniad a’r cynlluniau
- sut mae eich cynigion yn cydymffurfio â gofynion Safon Coedwig y DU (UKFS)
- sut i drafod a chael cytundeb ar gyfer y dyluniad a’r cynlluniau a’r prosesau sy’n gysylltiedig
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Mathau o safle:
- safle iseldir
- safle ucheldir
- safle diwydiannol
- safle coedwig neu goetir hynafol
- safle amaethyddol
- safle trefol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Nodweddion arwyddocaol:
- math o gynefin
- mynediad i’r safle
- priddoedd, draenio
- ffynonellau dŵr
- agweddau hanesyddol, gan gynnwys defnydd yn y gorffennol
- fflora ar lawr, rhywogaethau trechol ac unrhyw rywogaethau a warchodir neu rywogaethau
- goresgynnol
- ffawna, yn enwedig unrhyw rywogaethau prin neu nodedig
- gofyniad am reoli ceirw
- nodweddion archaeolegol
- unrhyw nodweddion arwyddocaol eraill
- gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y safle
Gallai rhanddeiliaid gynnwys:
- cymdogion
- awdurdod lleol
- cyrff statudol
- defnyddwyr hamdden y safle
- partïon eraill â budd
Dolenni I NOS Eraill
LANCS39 Cynnal asesiadau safle yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol
LANEnC5 Dadansoddi data o arolygon maes ac adrodd ar y canfyddiadau
LANCS40 Gwerthuso opsiynau ar gyfer datblygu safleoedd yn y sector diwydiannau’r tir ac amgylcheddol
LANTw63 Datblygu cynllun rheoli coetir