Gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol

URN: LANTw32
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol. Gallai hyn fod o fewn swyddfa cynllunio llywodraeth leol neu sefydliad arbenigol arall sydd â’r cyfrifoldeb hwn ac awdurdod i wneud penderfyniadau.

Mae’n rhaid i chi allu gweithio o fewn y fframwaith deddfwriaethol perthnasol ac ymgynghori â chydweithwyr ac arbenigwyr, fel bo angen, i gyflawni canlyniad.

Mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd fflora a ffawna i’r amgylchedd.

Mae’r safon hon yn ymwneud â gorchmynion cadw a gorchmynion cadwraeth, trwyddedau cwympo, gwarchod yr amgylchedd, amwynderau a chynefinoedd, ac ati, ynghyd â chyfyngiadau cynllunio yn gysylltiedig â gorchmynion cadwraeth.

Mae’r safon hon i’r rhai sydd ag awdurdod i weinyddu deddfwriaeth amgylcheddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dilyn proses osod i weinyddu’r ddeddfwriaeth amgylcheddol sy’n gysylltiedig â cheisiadau ac ymholiadau
  2. cadw cofnodion cywir a chyflawn i nodi a chofnodi’r camau yn y broses
  3. ceisio’r caniatâd priodol, lle bo angen, i archwilio safleoedd
  4. cadarnhau bod y broses yn dilyn yr amserlenni gweithredu gofynnol
  5. cydweithio ag adrannau, cydweithwyr ac awdurdodau eraill, yn ôl yr angen
  6. cadarnhau bod dogfennaeth yn bodloni’r gofynion statudol angenrheidiol
  7. delio ag unrhyw apeliadau yn unol â gofynion statudol
  8. delio â cheisiadau i gyflawni gwaith o fewn yr amserlenni gofynnol
  9. ceisio cyngor a chymorth, lle bo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr angen am gael system effeithiol i gofnodi prosesau gweinyddu deddfwriaeth amgylcheddol
  2. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir a chyflawn
  3. pwysigrwydd trefnu mynediad ar gyfer archwiliadau safle gyda’r bobl briodol
  4. yr angen am gynnwys yr awdurdodau perthnasol sy’n rhoi cydsyniad neu ganiatâd
  5. pwysigrwydd cwblhau dogfennaeth i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol
  6. y gofynion statudol a’r gweithdrefnau ar gyfer apeliadau
  7. yr amserlenni sy’n gysylltiedig â gweinyddu’r ddeddfwriaeth amgylcheddol
  8. ffynonellau gwybodaeth a chyngor pan fydd angen eglurhad
  9. goblygiadau a phwysigrwydd deddfwriaeth diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Awdurdodau perthnasol: Swyddogion Cynllunio, y Comisiwn Coedwigaeth ac adrannau’r llywodraeth, fel y bo’n briodol i’r ddeddfwriaeth, a sefydliadau cyfatebol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Prosesau cofnodi gwarchod coed: Gorchmynion Cadw Coed (TPOs) a choed mewn ardaloedd cadwraeth, trwyddedau cwympo, gwarchod amgylcheddol, gwarchod amwynderau, gwarchod cynefinoedd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw73

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coed; deddfwriaeth; amgylcheddol; gwarchod