Cyflawni arolygon ac archwiliadau coed
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau a all fod yn ofynnol i gynnal arolygon, asesiadau, archwiliadau ac ymchwiliadau i iechyd a risg coed, mewn coedwig, coetir neu gyd-destun amwynder/coedyddiaeth, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.
DS Mae termau arolygon ac archwiliadau coed yn disgrifio prosesau gwahanol (gweler Geirfa am ddiffiniadau) er eu bod yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol yn aml. At ddiben y safon hon, bydd y term arolwg/archwiliad yn cael ei ddefnyddio.
Mae’r safon hon i’r rhai sy’n cyflawni arolygon/archwiliadau galwedigaethol o goed fel rhan o’u gwaith.
Mae sawl math o arolwg ac archwiliad galwedigaethol o goed yn angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion y statudau a’r rheoliadau sy’n ymwneud â rheoli coed, pren a rhywogaethau gwarchodedig cysylltiedig. Mae prif ffocws y safon hon yn ymwneud ag iechyd coed, risg a rheolaeth goedyddol ar goed, ac mae’n cwmpasu casglu data ar goed unigol a lluosog. Nid yw’n ymwneud â chasglu data stocrestri coed coedwigaeth a choetir, sy’n cael sylw yn LANTw35, Llunio stocrestr coedwig neu goetir.
Mae gan dirfeddianwyr ddyletswydd gofal am y coed sy’n tyfu ar eu heiddo i sicrhau nad ydynt yn achosi anaf. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cyd-destunau trefol. At ddibenion risg, mae arolygon/archwiliadau’n cael eu cyflawni fel arfer gan gyfeirio at risg benodol y gall coeden ei hachosi (mae hyn weithiau’n cael ei alw’n barth neu’n darged risg) e.e. priffyrdd, rheilffyrdd, llinellau pŵer, strwythurau adeiledig, llwybrau cyhoeddus neu ardaloedd hamdden. Yn dilyn archwiliad gweledol, gall fod angen ymchwiliad pellach i ganfod y risg.
Gall fod angen i chi ddod i gasgliadau a gwneud argymhellion am weithredu i ymateb i’r canfyddiadau, yn dibynnu ar y math o arolwg/archwiliad sy’n cael ei gyflawni. Gall fod ar gyfer rheoli un goeden neu goed niferus. Dylai canlyniadau’r data a gesglir gael eu dadansoddi er mwyn gwneud penderfyniad priodol. Dylid mynd ati i reoli diogelwch coed yn gytbwys ac yn gymesur ac, yn ddelfrydol, nid dim ond un eitem o ddata ddylai fod yn unig sylfaen ar gyfer penderfyniad, yn enwedig pan ystyrir gwaredu coeden. Gall ymateb anghymesur i’r risgiau y mae coed yn eu peri mewn gwirionedd arwain at ymyrraeth ddiangen a cholli coed. Mae ymateb o’r fath yn arwain at golli buddion y coed, er enghraifft i amwynder safle, i’r amgylchedd, i’r dirwedd gyffredinol ac i gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Nid yw’r ymagwedd hon yn eithrio’r angen am ddelio â choed yn briodol i osgoi difrod y gellir ei ragweld yn rhesymol.
Mathau o arolwg/archwiliad galwedigaethol:
Archwiliadau ffurfiol neu weledol o goed
Mae archwiliadau ffurfiol yn cael eu cynllunio, eu pennu ac maent yn rhagweithiol, gan ddilyn proses systematig fel asesiad gweledol o goeden (VTA) (gweler y diffiniad o dan Geirfa). Gall y rhain fod yn archwiliadau wrth yrru heibio neu’n archwiliadau ar droed (gweler y diffiniadau o dan Geirfa).
Dylai archwiliadau ffurfiol gael eu cyflawni gan berson hyfforddedig a chymwys, sydd â gwybodaeth ymarferol gadarn am goed ac opsiynau rheoli coed, ar lefel cymhwysedd sy’n briodol i’r cyd-destun. Mae’n cynnwys edrych ar goed er mwyn ystyried iechyd a nodweddion strwythurol, a’r gallu i ddod i gasgliad ynghylch p’un a yw coeden yn peri risg niwed y gellir ei ragweld yn rhesymol ai peidio, neu a oes amheuaeth ei bod yn peri risg.
Os nodir pryderon yn gysylltiedig â chyflwr coeden, gall hyn ofyn am archwiliad neu ymchwiliad manwl.
Archwiliadau neu ymchwiliadau manwl o goed
Mae archwiliad neu ymchwiliad manwl yn asesiad mwy arbenigol ac mae’n cael ei ysgogi’n gyffredin gan bryderon sy’n cael eu codi yn ystod archwiliad gweledol. Gall hyn gynnwys asesu cyflwr pridd a gwreiddiau, asesiad o symudiad coed, archwiliadau o’r awyr o ran uchaf y boncyff a’r corun am unrhyw nodweddion na ellir eu gweld o archwilio ar lefel y tir, gweithdrefnau eraill sy’n gwerthuso natur y peryglon arwyddocaol sy’n cael eu hamau, a gwirio a chasglu gwybodaeth am iechyd, plâu a chlefydau coed. Yn aml, mae angen defnyddio offer diagnostig arbenigol.
Mae archwiliadau ac ymchwiliadau manwl yn gofyn am ymarferwr cymwys a phrofiadol sydd wedi cael hyfforddiant ar y math o ymchwiliad i’w gyflawni a’r cyfarpar diagnostig sy’n ofynnol. Hefyd, dylent fod yn ddigon cymwys i wneud penderfyniadau ac argymell unrhyw gamau gweithredu sy’n ofynnol o ganlyniad i’r archwiliad.
Archwiliadau o’r Awyr
Gall y math hwn o archwiliad gael ei gyflawni gyda drôn neu ddefnyddio camera ar bolyn. Fodd bynnag, os oes angen i’r arolygydd gael at y goeden, dim ond y rhai sydd eisoes yn gymwys i gael at goed trwy ddringo a/neu ddefnyddio Platfform Gweithio Symudol sy’n Codi (MEWP), gyda darpariaeth addas achub o’r awyr, ddylai ymgymryd â hyn.
Nodiadau cyffredinol
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith arolwg/archwilio, e.e. perchnogaeth ar safle, mesurau bioddiogelwch, presenoldeb rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid estron goresgynnol neu warchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, y safle a’r ardal gyfagos, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol, a mabwysiadu arferion gweithio diogel wrth gyflawni arolygon ac archwiliadau o goed.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- cadarnhau diben, gofynion a’r math o arolwg/archwiliad i’w gyflawni
- cael a defnyddio’r wybodaeth a’r cyfarpar perthnasol i gyflawni’r gwaith yn unol â diben a gofynion yr arolwg/archwiliad
- gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
- cadarnhau trefniadau mynediad ar gyfer yr arolwg/archwiliad gyda’r partïon perthnasol
- cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r math o arolwg/archwiliad sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol, gan gynnwys gweithio ar uchder lle bo angen cynnal archwiliadau coed o’r awyr, a rhoi mesurau rheoli ar waith
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol y diwydiant
- dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE) pan fydd ei angen i gynnal arolwg/archwiliad o goed, yn enwedig gerllaw priffyrdd
- cynnal bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- defnyddio dulliau priodol o gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- lleihau difrod i’r safle, i fywyd gwyllt, i gynefinoedd ac i’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn
- gweithredu lle bo angen os bydd problemau â chyflawni’r arolwg/archwiliad yn cael eu nodi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Cyflawni arolygon/archwiliadau o goed ar lefel y ddaear
- defnyddio mapiau, cynlluniau, GPS, nodweddion sefydlog neu ddulliau eraill i leoli a chadarnhau pa goed fydd yn destun arolwg/archwiliad, yn unol â diben a gofynion yr arolwg/archwiliad
- nodi rhywogaethau coed gan ddefnyddio cymhorthion nodi priodol, yn unol â gofynion yr arolwg/archwiliad
- nodi dulliau perthnasol i’w defnyddio i fodloni diben a gofynion yr arolwg/archwiliad
- dewis technegau a chyfarpar addas a mabwysiadu methodoleg systematig a chyson o gasglu data, yn unol â diben a gofynion yr arolwg/archwiliad
- nodi pryd mae’n briodol defnyddio cyfarpar canfod neu fesur dirywiad
- nodi nodweddion biomecanyddol a biolegol coed sy’n codi pryder am ddiogelwch, yn unol â gofynion yr arolwg/ymchwiliad
- nodi presenoldeb plâu a chlefydau yn unol â gofynion yr arolwg/ymchwiliad
- nodi ardaloedd lle y mae dirywiad a ffwng yn tyfu, a’r math o ffwng sy’n gyfrifol, lle bo’n bosibl
- wrth ddefnyddio drôn, cadarnhau bod yr holl ofynion cyfreithiol wedi cael eu bodloni
- cofnodi gwybodaeth a gesglir o arolygon/archwiliadau coed yn unol â deddfwriaeth, gofynion yr arolwg/ymchwiliad a gweithdrefnau sefydliadol
- cymryd y camau gofynnol lle y nodir plâu a chlefydau hysbysadwy
- asesu’r holl wybodaeth a gesglir o arolygon/archwiliadau coed er mwyn gwneud argymhellion am gamau gweithredu, lle bo angen, yn amserol, yn unol â deddfwriaeth, gofynion yr arolwg/archwiliad a gweithdrefnau sefydliadol
- cynhyrchu adroddiad o ganfyddiadau ac argymhellion, yn ôl gofyn y math o arolwg/archwiliad a gyflawnwyd
Cyflawni arolygon/archwiliadau coed o’r awyr
- cyflawni archwiliadau coed o’r awyr yn ddiogel, gan ddefnyddio dulliau a chyfarpar mynediad priodol, yn unol ag asesiadau o berygl y goeden a gweithio ar uchder, gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r diwydiant
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a bod tystiolaeth o hyn ar gael
- cadarnhau bod darpariaeth a threfniadau achub o’r awyr ar waith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- y math penodol o arolwg/archwiliad sy’n berthnasol i fodloni diben a gofynion y dasg
- y wybodaeth a’r cyfarpar perthnasol sy’n ofynnol i gyflawni’r gwaith yn unol â diben yr arolwg/archwiliad
- sut i ddefnyddio’r wybodaeth a’r cyfarpar perthnasol i gyflawni diben a gofynion yr arolwg/archwiliad
- y gofynion statudol, gan gynnwys asesiad risg, sydd ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith sydd i’w gyflawni
- y caniatâd a’r trwyddedau a all fod yn ofynnol a sut i gael y rhain
- sut i gytuno ar drefniadau mynediad gyda’r partïon perthnasol a pham mae hyn yn hanfodol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud, a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i’r safle a mesurau rheoli perthnasol
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol, gan gynnwys gweithio ar eich pen eich hun, lle bo hynny’n briodol
- pam mae dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol (PPE) yn bwysig a’r angen am ddillad llachar wrth gynnal arolwg/archwiliad o goed gerllaw priffyrdd
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
- y mathau o ymddygiad anodd y gallai aelodau’r cyhoedd eu dangos a sut i ymateb yn briodol i dawelu unrhyw sefyllfa
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, gofynion y diwydiant a gofynion sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd a phryd mae angen cymorth ychwanegol
- pwysigrwydd mesurau bioddiogelwch a sut i’w cymhwyso
- y problemau a all godi wrth wneud arolwg/archwiliad o goed, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- y ddyletswydd gofal i’r rhai sydd wedi cyfarwyddo’r gwaith
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cyflawni arolygon/archwiliadau o goed ar lefel y ddaear
- sut mae gwahanol rywogaethau coed yn tyfu ac yn ymddwyn yn ystod camau bywyd gwahanol
- sut i flaenoriaethu arolygon/archwiliadau ar sail y risg i bobl, eiddo a seilwaith, ac i oedran y coed a’r math o goeden e.e. gan ddefnyddio parthau
- sut i ddehongli mapiau, cynlluniau, systemau GPS a nodweddion sefydlog i leoli a phlotio coed
- y technegau a’r cyfarpar sydd ar gael wrth wneud arolygon/archwiliadau o goed a phwysigrwydd mabwysiadu methodoleg systematig a chyson
- sut i ddefnyddio templedi papur a systemau casglu data digidol, er enghraifft ar ddyfeisiau llaw
- buddion a chyfyngiadau dulliau perchenogol ar gyfer asesiadau risg coed a dulliau sy’n ceisio meintioli neu gymhwyso risg
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau’r diwydiant ac o ble y gallwch ei gael
- sut i nodi genera a rhywogaethau coed trwy ddefnyddio eu nodweddion/ffurf fel y bo’n briodol, ac allweddi botanegol syml
- pam mae egwyddorion dosbarthiad a dull enwi botanegol coed yn bwysig wrth enwi coed
- sut i fesur a chofnodi dimensiynau coed a pham y gall gofynion mesur coedwigaeth fod yn wahanol i fesuriadau amwynder/coedyddiaeth
- sut i asesu nodweddion biomecanyddol a biolegol coed a sut i nodi, cofnodi a rhoi gwybod am unrhyw bryderon
- sut i nodi ffyngau, plâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed, goblygiadau eu presenoldeb, beth mae’n rhaid ei hysbysu, pwy mae angen eu hysbysu a pham mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei wneud
- buddion a chyfyngiadau defnyddio drônau ar gyfer arolygon/archwiliadau coed
- pam y gellir defnyddio dulliau ymchwilio mewnwthiol neu ddulliau nad ydynt yn fewnwthiol i helpu i wneud penderfyniadau, a beth yw goblygiadau defnyddio’r dulliau hyn e.e. buddion, cyfyngiadau a goblygiadau i iechyd y goeden
- y gweithdrefnau i’w dilyn wrth drin/storio/pecynnu sbesimenau i’w nodi yn y dyfodol
- pam mae’n bwysig cael a chofnodi digon o ddata i fodloni gofynion yr arolwg/archwiliad
- sut i ddadansoddi’r data a gynhyrchwyd gan y prosesau a chyfarpar arbenigol
- sut i gyflwyno data a chynhyrchu adroddiadau sy’n darparu gwybodaeth gyson, glir ac addysgiadol i helpu gyda gwneud penderfyniadau
- sail asesu risg coeden, sut caiff y risg ei chyfrifo a defnyddio dulliau perchenogol sydd ar gael
- pam mae’n bwysig cyflwyno casgliadau ac argymhellion yn amserol, ar sail y canfyddiadau ac wedi’u hategu gan y canfyddiadau, a phryd mae angen gweithredu
- pam mae’n bwysig cydbwyso gwerth y coed â risgiau a nodwyd i bobl, eiddo a seilwaith, a sut mae dull cymesur yn cael ei gyflawni
- sut mae system goed yn gweithio a beth yw goblygiadau unrhyw argymhellion gwaith a nodir i iechyd y goeden
- pam mae’n bwysig blaenoriaethu gwaith a sut gellir gwneud hyn
Cyflawni arolygon/archwiliadau coed o’r awyr
- sut i gael at goed yn ddiogel, gan ddefnyddio dulliau a chyfarpar priodol, yn unol ag asesiadau perygl y goeden a risg gweithio ar uchder
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer cael at goed, a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, codau ymarfer, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer archwilio pob cyfarpar dringo a gostwng a’r dystiolaeth sy’n ofynnol i ddangos bod hyn wedi cael ei wneud
- y darpariaethau achub o’r awyr y mae angen iddynt fod ar waith
Cwmpas/ystod
Cyflawni arolwg/archwiliad o:
- goed unigol
- niferoedd lluosog o goed
- ardaloedd/parthau coed
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Data y gallai fod ei angen:
- nifer y coed/lleoliad/lleoliad daearyddol coed
- rhywogaeth – enw gwyddonol neu enw cyffredin
- uchder
- diamedr y cyff neu ddiamedr ar uchder y frest
- rhychwant y corun e.e. 4 pwynt cwmpawd
- dosbarth oedran neu gam bywyd
- ffurf y goeden
- canfyddiadau/arsylwadau
- cyflwr ffisiolegol
- cyflwr strwythurol
- graddio parth a ddefnyddir yn fynych (targed) – pobl, eiddo, seilwaith
- argymhellion rheolwyr
- graddio perygl
- graddio risg
- blaenoriaeth gwaith
- amlder archwilio/archwiliad nesaf
- hanes tocio
- statws gwarchodedig e.e. gorchymyn diogelu coed (TPO) neu ddynodiad cadwraeth
- perchnogaeth
- nodweddion y safle/dodrefn stryd
- gwerth y goeden – amwynder, Helliwell, CAVAT ac ati
- statws y goeden
- gwerth posibl o ran bywyd gwyllt
Sut i fesur dimensiynau’r goeden a’r safle:
- uchder y goeden
- rhychwant y corun ac i 4 cyfeiriad y cwmpawd
- diamedr y cyff ar uchder y frest 1.3m (coedwigaeth)
- diamedr y cyrff ar 1.5m (coedyddiaeth)
- pellter o barth a ddefnyddir yn fynych (targed) – pobl, eiddo, seilwaith
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gall cyfarpar ychwanegol gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i'r canlynol:
- rhaw neu drywel
- dyfeisiau canfod a mesur dirywiad, digreiddiwr cynyddrannau, ffractomedr
- cyfarpar tagio
- cit profi pridd
- ebill pridd, mesurydd cywasgiad pridd
- ysgol
- cyfarpar dringo
- bagiau casglu samplau
Cymhorthion adnabod coed:
- allweddi adnabod e.e. darluniadol neu ddwyrannol
- nodweddion coeden e.e. siâp, lliw a threfniant blagur, maint a siâp y dail, patrymau a lliw’r rhisgl, blodau, ffrwythau, hadau a ffurf, ac ati
Cofnodi data: (gweler Stocrestr) – rhaid cofnodi digon o ddata coed i fodloni diben a gofynion yr archwiliad/arolwg. Gall ofyn am gyflawni arolwg/archwiliad o’r holl goed o fewn parth arolwg coed (e.e. arolwg lleoliadau coed stryd neu arolwg coedardd) a’u cofnodi, neu gall fod yn arolwg/archwiliad targedig o goed neu fathau o goed penodol, a dylai enwi pa goed fydd yn cael eu cofnodi yn y stocrestr (e.e. dim ond y coed hynny y mae angen camau rheoli risg arnynt).
Diffyg: yn y cyd-destun hwn, mae diffyg mewn coeden yn gyflwr strwythurol, iechyd neu amgylcheddol sy’n peri risg niwed y gellir ei ragweld yn rhesymol
Archwiliad wrth yrru heibio – mae’n cynnwys gyrrwr gydag arsyllwr sy’n gwirio coed o fewn pellter cwympo i briffordd, gan edrych ar goed a all fod yn destun pryder. Yna, bydd angen barnu a oes gofyn am archwiliad manylach.
Cyfarpar sy’n ofynnol, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:
- cyfarpar recordio digidol â llaw
- cynlluniau, mapiau
- system bapur, teclyn ysgrifennu, clipfwrdd
- ysbienddrych
- gordd seindio
- stiliwr
- cwmpawd
- dyfeisiau mesur
- camera/polyn camera
- llyfrau adnabod coed, ffwng
- menig
Archwiliad Ffurfiol: asesu a chofnodi iechyd, cyflwr a statws coed yn weledol, yn ffurfiol, a gwneud argymhellion am ofal coedyddol coed.
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol:
- manylion y safle
- manylion mynediad
- lluniadau
- cynlluniau
- llyfrau/Apiau adnabod
- casgliad data blaenorol
- hanes y safle
- hanes tocio
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion/cyfarwyddiadau’r cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA, NTSG)
- methodolegau asesu risg perchenogol
Stocrestr: (gweler Cofnodi data) – atodlen sy’n rhestru’r holl ddata sy’n ofynnol i fodloni diben a gofynion yr arolwg/archwiliad e.e. ffeithiau rhywogaethau a maint coed i helpu i’w hadnabod, cyfesurynnau mapio a GPS lleoliadau coed, a barn sy’n cynnwys casgliadau, argymhellion a blaenoriaethau. Yn aml, mae taenlenni’n cael eu defnyddio i gynorthwyo â didoli a hidlo data.
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Plâu a chlefydau
Mae rhestr lawn o blâu a chlefydau coed y Deyrnas Unedig i’w gweld yn https://www.gov.uk/guidance/find-a-specific-tree-pest-or-disease
Mae rhestr lawn o blâu a chlefydau coed hysbysadwy i’w gweld yn
https://planthealthportal.defra.gov.uk/pests-and-diseases/pest-and-disease-alerts/notifiable-diseases/#
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Arolwg: cofnodi (a, lle bo’n briodol, mapio) presenoldeb, safle a chyflwr coed o fewn ardal ddiffiniedig
Parth arolwg coed: (gweler Cofnodi data) – ardal sydd wedi’i diffinio’n glir lle bydd archwiliadau coed yn cael eu cynnal, ac sy’n cyfyngu graddfa’r arolwg. Gellir ei disgrifio mewn manyleb ysgrifenedig ar gyfer ychydig goed dros ardal fechan (e.e. gardd breswyl), neu trwy gyfeirio at ardal wedi’i diffinio’n weledol ar fap (e.e. o fewn y llinell goch ar fap â chyfeirnodau arno).
Gwerth coed fel gwerth amwynder, bywyd gwyllt, cynefin, hanesyddol, hynafol, hynod, prin neu ariannol
Asesiad gweledol o goeden (VTA) – mae’n darparu dull systematig a chyson o asesu risg coeden.
Mae tri cham i’r broses, gan ddechrau gydag archwiliad gweledol o iechyd a ffurf biomecanyddol y goeden i nodi symptomau abnormaleddau arwyddocaol. Lle nodir y rhain, bydd ymchwiliad pellach yn cael ei gyflawni, gan ddefnyddio cyfarpar llai mewnwthiol fel arfer, fel tonnau sain, micro-ddrilio, casglu ffyngau, plâu a chlefydau heb eu hadnabod neu gyfarpar bywiogrwydd dail. Os bydd yr annormaledd yn cael ei gadarnhau, gall ofyn am ymchwiliad mwy mewnwthiol trwy gymryd samplau i benderfynu faint o gryfder sydd wedi’i golli, er enghraifft trwy ddefnyddio digreiddwyr cynyddrannau. Neu, gall gynnwys dadansoddiad dilynol oddi ar y safle i gadarnhau math o bla, ffwng neu glefyd coeden, a’i arwyddocâd.
Yn ogystal, dylai’r asesiad fynd i’r afael â’r amgylchedd cyfagos lle y mae’r coed yn tyfu er mwyn cynnwys hanes y coed a’r safle.
Archwiliad ar droed – gwirio coed dros ardal eang, fel coed ar ochr y briffordd, ar droed. Efallai na fydd hi’n bosibl gweld pob coeden o bob safbwynt oherwydd ffiniau ac isdyfiant. Yna, bydd angen barnu a oes gofyn am archwiliad manylach.