Paratoi a chynnal safle gweithio diogel ar gyfer gweithrediadau gwaith coed
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i baratoi a chynnal safle gweithio diogel ar gyfer gweithrediadau gwaith coed.
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
O dan y ddeddfwriaeth berthnasol, mae angen i berson cymwysedig oruchwylio unrhyw un sy’n cymryd rhan mewn gosod arwyddion rhybudd ar ffyrdd cyhoeddus.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon i bobl sy’n gyfrifol am baratoi a chynnal safle gweithio diogel ar gyfer gweithrediadau gwaith coed.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod asesiad amgylcheddol o’r safle wedi’i gyflawni cyn dechrau gweithio ac ystyried ei ganfyddiadau
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- paratoi a gosod y safle gwaith er gweithrediadau gwaith coed diogel
- cadarnhau bod parthau risg wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- cadarnhau bod cymorth cyntaf wedi’i ddarparu yn unol â gofynion cyfreithiol
- cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith i gynnal gweithrediadau gwaith coed diogel
- cadarnhau bod gan holl aelodau’r gweithlu yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ardystiad perthnasol i gyflawni’r gwaith, yn unol â gofynion cyfreithiol
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â’r gweithlu a chadarnhau eu bod yn deall eu rôl a’u cyfrifoldebau o ran cynnal gweithrediadau gwaith coed diogel
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gweithredu mesurau i gynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar, peiriannau a deunyddiau ar y safle
- gweithredu mesurau hylendid a bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod pob sylwedd peryglus yn cael ei drin, ei ddefnyddio a’i storio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau eich bod yn delio â phob deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- rhoi rheoliadau amgylcheddol ar waith, gan gyfrif am yr asesiad o’r effeithiau a’r agweddau amgylcheddol
- rhoi agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd ar waith, sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg penodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion y gwahanol rolau sy’n gysylltiedig â rheoli iechyd a diogelwch gweithrediadau gwaith coed
- sut mae rhywogaethau a chyflwr coed yn effeithio ar weithrediadau
- sut i baratoi a gosod safleoedd ac ardaloedd gwaith er gweithrediadau gwaith coed diogel ac effeithiol
- y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd parhau risg a rheoli parthau risg
- lleoliad a safle cywir arwyddion rhybudd a rheoliadau mynediad, a’r gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer y diwydiant sy’n rheoli’r rhain
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- elfennau allweddol datganiad dull yn gysylltiedig â gweithrediadau gwaith coed diogel
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a, a pham mae’r rhain yn bwysig
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â’r gweithlu ac unrhyw un arall sy’n cymryd rhan yn y gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu ddylai gael eu defnyddio
- y cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
- pwysigrwydd mesurau hylendid a bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
- y gofynion o ran trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- y problemau a all godi wrth baratoi a chynnal safle gweithio diogel, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cynnal diogelwch a diogeledd y canlynol ar y safle:
- offer a chyfarpar
- tanwydd
- cerbydau a pheiriannau
- deunyddiau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- canllawiau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Asesiad, effeithiau ac agweddau amgylcheddol – e.e. ar ystlumod, moch daear, cyrsiau dŵr, ffawna, fflora, neu effaith sŵn
Gallai gosod y safle gynnwys:
- llwybrau mynediad
- ardal cyflenwi tanwydd
- codi pyst
- parthau risg
- llwybrau dianc
- parthau gollwng
- ardal cronni nwyddau
- ardal wastraff
- ardal storio deunyddiau
- ardal storio peiriannau a chyfarpar
- ardal cyfleusterau’r gweithlu
- ardaloedd eraill yn ôl y gofyn
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed. Fel arfer, bydd y parth yn cyfateb i ddwywaith uchder y goeden sydd i’w chwympo, er bod angen ystyried ffactorau eraill, hefyd.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.