Gosod a chynnal a chadw cyneilyddion strwythurol ar gyfer coed
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod a chynnal a chadw cyneilyddion strwythurol ar gyfer coed. Mae’r rhain yn gyneilyddion i helpu gyda sefydlogrwydd coed. Mae angori neu gynnal coeden yn golygu gosod, o dan yr amgylchiadau priodol, system hyblyg neu anhyblyg yn y goeden i gynnal ei boncyff a neu ei changhennau, gan felly leihau risg methiant.
Gellir cael at gorun coeden naill ai trwy Blatfform Gweithio Symudol sy’n Codi (MEWP) neu dechnegau rhaff a harnais.
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd a wneir, a dylech ddal ardystiad cyfredol lle bo’r angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon yn addas dim ond i’r rhai sydd eisoes yn gymwys wrth gael at goed trwy ddringo neu ddefnyddio MEWP.
Gall disgyn o goed neu gael eich taro gan goed, rhannau o goed neu ganghennau sy’n disgyn ladd neu anafu gweithwyr ar safle neu bobl sy’n mynd heibio, yn ddifrifol.
Cadarnhewch:
- fod arferion diogel yn cael eu mabwysiadu ar gyfer cael at goed a gweithio mewn coed
- bod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn pob parti rhag risg gwrthrychau sy’n disgyn
- bod parthau risg yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parth
- bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
- bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr ar safle yn gadarn ac yn effeithiol
Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- dewis dull mynediad a chynllun achub priodol ar gyfer gweithio’n ddiogel ar uchder
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
- dewis system y cynheilydd strwythurol mwyaf addas i’r sefyllfa ac i les y goeden
- cael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cyfrifo’r llwyth disgwyliedig a dewis cydrannau cydnaws o ran eu dyluniad/ffactorau diogelwch
- penderfynu ar y safle gosod priodol, yn ôl y sefyllfa
- gosod system y cynheilydd strwythurol a ddewiswyd yn y goeden, gan ddilyn canllawiau Safonau Diogelwch Prydeinig priodol a lleihau difrod i’r goeden ac i’r amgylchedd
- cynllunio a gweithredu cyfundrefn archwilio ar gyfer cynnal a chadw cyneilyddion strwythurol ar gyfer coed
- gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle a phwysigrwydd dilyn y rhain
- pwysigrwydd rheoli parthau risg a’r defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr a staff ar y ddaear yn ystod gwaith coed o’r awyr a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
- sut i gael y deunyddiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i sicrhau bod deunyddiau ar gael, pryd a lle y bo angen
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a’r dystiolaeth ofynnol i ddangos bod hyn wedi cael ei wneud
- pwysigrwydd defnyddio system amddiffyn personol rhag cwympo wrth ddringo a gweithio mewn coed
- technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
- sut i nodi pan fydd angen cynhaliaeth strwythurol ar goed
- y gwahanol fathau o systemau cynhaliaeth strwythurol a’u defnydd
- sut i nodi rhywogaethau coed a’u nodweddion yn gysylltiedig â dewis a gosod system cynhaliaeth strwythurol
- egwyddorion sylfaenol bioleg coed a sut maent yn effeithio ar eich gwaith
- pwysigrwydd gwirio am arwyddion o glefyd, diffygion a dirywiad yn y goeden rydych chi’n gweithio arni a ble i gael cyngor pan fydd angen
- sut i nodi’r safle cywir ar gyfer gosod system cynheilydd strwythurol a pham mae hyn yn bwysig
- sut i gyfrifo’r llwyth a pharu’r deunyddiau a ddefnyddir â’r llwythi y mae disgwyl eu gosod arnynt
- sut i gymhwyso unrhyw ofynion tocio i ategu system y cynheilydd strwythurol
- sut i osod pob system strwythurol yn ddiogel ac yn gywir
- gofynion cynnal a chadw a chyfnod cynnal a chadw pob math o system cynheilydd strwythurol
- goblygiadau ac atebolrwydd gosod system cynheilydd mewn strwythur dynamig
- goblygiadau’r ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a Safonau Diogelwch Prydeinig presennol i’ch gwaith
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
- y problemau a all godi wrth wneud gwaith coed o’r awyr, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i osod y mathau canlynol o systemau cyneilyddion strwythurol:
- angor rhoden
- angor hyblyg mewnwthiol
- angor hyblyg nad yw’n fewnwthiol
- ateg
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Amddiffyn Personol rhag Cwympo – casgliad o gydrannau sy’n cyfuno, o’u defnyddio’n gywir, i atal cwympo. Mae systemau amddiffyn personol rhag cwympo yn cynnwys prif system a system wrth gefn sy’n gysylltiedig ag angor annibynnol, lle bynnag y bo’n bosibl. Gall y system wrth gefn gael ei hepgor dim ond:
- Pan nad yw’n ymarferol ei chynnal ar gyfer tasg benodol, “ddisymud” a byr symud rhaff yn ei blaen/cyfnewid, gan ailosod y system wrth gefn cyn gynted â phosibl
- Achub rhywun sydd wedi’i anafu, pan fydd cyflymder yn hanfodol
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel