Gwneud gwaith tocio coed o’r awyr
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i wneud gwaith tocio coed o’r awyr, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.
Gallai gwaith tocio coed o’r awyr gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
- gostyngiadau
- codi’r corun
- ail fôn-docio
- teneuo
- glanhau’r corun
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’r holl waith cwympo coed, torri canghennau i ffwrdd neu ddatgymalu gael ei wneud gan berson cymwys sydd â phrofiad o’r dasg gwympo a wneir ac sy’n cael ei oruchwylio’n ddigonol, lle bo’r angen.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon yn addas dim ond i’r rhai sydd eisoes yn gymwys wrth gael at goed trwy ddringo a/neu ddefnyddio Platfformau Gweithio Symudol sy’n Codi (MEWP).
Gall disgyn o goed neu gael eich taro gan goed, rhannau o goed neu ganghennau sy’n disgyn ladd neu anafu gweithwyr ar safle neu bobl sy’n mynd heibio, yn ddifrifol.
Cadarnhewch:
- fod arferion diogel yn cael eu mabwysiadu ar gyfer cael at goed a gweithio mewn coed
- bod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn pob parti rhag risg gwrthrychau sy’n disgyn
- bod parthau risg yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parth
- bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
- bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr ar safle yn gadarn ac yn effeithiol
Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a gweithio ar uchder, y peryglon sy’n cael eu peri gan y goeden a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
5. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad ar y gwaith coed a chael cyngor proffesiynol lle nad ydych yn sicr
6. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg a pharthau gollwng wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
7. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
8. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
9. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
10. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
11. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
12. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
13. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
14. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
15. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
16. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
17. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwneud gwaith tocio coed o’r awyr
18. cael at goed yn ddiogel, gan ddefnyddio’r dulliau a’r cyfarpar priodol, yn unol ag asesiadau perygl y goeden a gweithio ar uchder
19. defnyddio dulliau, offer a chyfarpar priodol i wneud gwaith tocio coed o’r awyr yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd ac asesiadau risg
20. gollwng pob sgil-gynnyrch o waith tocio coed i’r parthau gollwng a gynlluniwyd, gan ddefnyddio’r dulliau perthnasol, heb beryglu cyfarpar mynediad na difrodi seilwaith, yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd ac asesiadau risg
21. ailasesu pwyntiau angori neu safle’r Platfform Gweithio Symudol sy’n Codi (MEWP), trwy gydol y gweithgareddau gwaith yn unol ag unrhyw risgiau a nodwyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
3. pwysigrwydd gwirio am arwyddion o glefyd a dirywiad yn y goeden rydych chi’n gweithio arni a ble i gael cyngor proffesiynol
4. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
5. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, y rheolaeth ar barthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
6. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
7. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
8. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
10. y gofynion cyfreithiol am archwilio pob cyfarpar dringo a gostwng a’r dystiolaeth ofynnol i ddangos bod hyn wedi cael ei wneud
11. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
12. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
13. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
14. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
15. y problemau a all godi wrth wneud gwaith tocio coed o’r awyr, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
16. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
17. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Gwneud gwaith tocio coed o’r awyr
18. sut i nodi rhywogaethau a theuluoedd coed a sut bydd rhywogaethau, amodau ac amser y flwyddyn yn effeithio ar docio coed
19. egwyddorion sylfaenol bioleg coed a sut maent yn effeithio ar waith tocio coed
20. sut i gael at goed yn ddiogel gan ddefnyddio ysgolion, cyfarpar dringo a Phlatfform Gweithio Symudol sy’n Codi (MEWP)
21. pwysigrwydd dewis pwynt angori priodol i’r cyfarpar mynediad fel na fydd y goeden nac unrhyw ran o’r gwaith a gyflawnir yn peryglu’r pwynt/safle angori
22. pwysigrwydd defnyddio system amddiffyn personol rhag cwympo wrth ddringo a gweithio mewn coed
23. dulliau a thechnegau tocio a’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol i wneud gwaith tocio coed
24. termau tocio a mesur a sut i’w cymhwyso
25. adnabod tyniant a chywasgedd yn y canghennau, a’r ffyrdd o dynnu llif sy’n cael ei dal mewn toriad
26. y dulliau o leihau a thocio canghennau trwm a/neu hir a’r cyfarpar sy’n ofynnol i helpu i waredu rhannau o goeden
27. pwysigrwydd toriadau cywir a phriodol wrth dorri rhannau a deunydd canghennau o’r coed, a’r effaith bosibl y gall torri rhannau o goed ei chael ar y rhannau o’r goeden sy’n cael eu cadw
28. y camau diogelu ychwanegol sy’n ofynnol yn ystod ail fôn-docio coed
29. y dulliau cywir o ddelio â sgil-gynhyrchion yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
30. sut i ddod i lawr o goed a thynnu cyfarpar ohonynt yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Gwneud gwaith tocio coed trwy ddringo neu ddefnyddio MEWP, neu’r ddau i gyflawni’r canlynol:
- gostyngiadau
- codi’r corun
- ail fôn-docio
- teneuo
- glanhau’r corun
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Mae gwahanol ddulliau o ddelio â sgil-gynhyrchion yn cynnwys: llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach a’u hailddefnyddio fel cynhyrchion eraill
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.
Parth gollwng – yr ardal ddynodedig y bydd gwrthrychau fel canghennau coed neu ddarnau o foncyffion yn cael eu gollwng iddi wrth docio coed o’r awyr.
Risgiau iechyd a diogelwch o ddefnyddio llif gadwyn:
- cael eich torri gan y llif
- cael eich taro neu’ch gwasgu gan bren sy’n symud
- colli’ch clyw oherwydd sŵn
- cryndod y llaw a’r fraich (HAV)
- mygdarth gwacau o lifoedd cadwyn sy’n rhedeg ar betrol
- amlygiad i olewau
- amlygiad i lwch
- effeithiau blinder/syched ar y gallu i weithio’n ddiogel
- cyfarpar neu weithgareddau gwaith eraill ar y safle
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Amddiffyn Personol rhag Cwympo – casgliad o gydrannau sy’n cyfuno, o’u defnyddio’n gywir, i atal cwympo. Mae systemau amddiffyn personol rhag cwympo yn cynnwys prif system a system wrth gefn sy’n gysylltiedig ag angor annibynnol, lle bynnag y bo’n bosibl. Gall y system wrth gefn gael ei hepgor dim ond:
- pan nad yw’n ymarferol ei chynnal ar gyfer tasg benodol, “ddisymud” a byr symud rhaff yn ei blaen/cyfnewid, gan ailosod y system wrth gefn cyn gynted â phosibl
- achub rhywun sydd wedi’i anafu, pan fydd cyflymder yn hanfodol
Dulliau tocio:
- Tocio targedig yw torri’n ôl i gangen neu foncyff, gan ddefnyddio proses tri thoriad, fel arfer. Dylai pob toriad gael ei wneud fymryn y tu hwnt i linell gwrym rhisgl a/neu goler cangen y gangen a gedwir neu’r boncyff.
- Tocio ffurfiannol yw torri prif flagur eilaidd a ffyrchau gwan posibl, er enghraifft, a allai gwympo mewn tywydd gwael, fel gwynt cryf neu eira.
- Mae teneuo’r corun yn cynnwys torri rhan o’r twf canghennau byw bach ac eilaidd ar draws y corun a chynhyrchu dwysedd gwastad o ddail o gwmpas strwythur canghennau cytbwys, gyda gofod da rhyngddynt.
- Bôn-docio yw torri’r holl ganghennau oddi ar goeden.
- Gostwng y corun yw torri’n ôl i flagur ochr neu gangen er mwyn cadw llif llinell cangen heb adael bonion “rhyngnodol” yn benodol.
- Mae ailffurfio’r corun yn gyfuniad o docio ffurfiannol a gostwng y corun.
- Mae codi’r corun yn cynnwys torri canghennau is coeden i ffwrdd hyd at uchder penodol uwchlaw lefel y tir, naill ai trwy dorri canghennau cyfan neu dorri’r rhannau sy’n estyn islaw’r uchder clirio a ddymunir.
- Mae twf sylfaenol yn arwain o docio llawer o rywogaethau, pan fydd llawer o flagur newydd yn tyfu’n gyflym iawn o ganlyniad, yn enwedig pan fyddant yn dod i gysylltiad â golau llawn.
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.