Rigio coed o’r awyr

URN: LANTw24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rigio coed o’r awyr. Mae’n cynnwys gwaredu rhannau o gorun coeden o dan reolaeth offer rigio a chodi â rhaff. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni gan weithredwr â phrofiad helaeth o weithrediadau coedyddiaeth a gweithrediadau llif gadwyn mewn canopi.

Mae’n rhaid i’r gwaith hwn o’r awyr gael ei gefnogi gan weithwyr ar y tir sydd â phrofiad helaeth o waith coed a thechnegau rigio o’r awyr.

Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio rigio ar gyfer gwaredu rhannau bach o goed. Mae hyn yn ymwneud â gweithrediadau tocio, lle y gall targedau islaw beri risg sylweddol, ac mae’n cynnwys gwaredu rhannau o goed/coed cyfan, lle nad yw targedau yn caniatáu am dechnegau disgyn rhydd/taflu â llaw.

Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd a wneir, a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.

Mae’r safon hon yn addas dim ond i’r rhai sydd eisoes yn gymwys wrth gael at goed trwy ddringo.

Gall disgyn o goed neu gael eich taro gan goed, rhannau o goed neu ganghennau sy’n disgyn ladd neu anafu gweithwyr ar safle neu bobl sy’n mynd heibio, yn ddifrifol.

Cadarnhewch:

  • fod arferion diogel yn cael eu mabwysiadu ar gyfer cael at goed a gweithio mewn coed
  • bod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn pob parti rhag risg gwrthrychau sy’n disgyn
  • bod parthau risg yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parth
  • bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
  • bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr ar safle yn gadarn ac yn effeithiol

Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
  3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle, y goeden, gweithio ar uchder a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  5. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad ar y gwaith coed a chael cyngor proffesiynol lle nad ydych yn sicr
  6. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg a parthau gollwng wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
  7. dewis dull mynediad a chynllun achub priodol ar gyfer gweithio’n ddiogel ar uchder
  8. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
  9. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
  10. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  11. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  12. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  13. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  14. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  15. gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
  16. dewis a defnyddio dulliau mynediad a gosod sy’n briodol i’r risgiau a aseswyd a’r wybodaeth a ddarparwyd
  17. cyfrifo’r llwythi disgwyliedig y mae angen i’r rigio eu cymryd, o fewn ei ddyluniad/ffactorau diogelwch a dewis cydrannau cydnaws i lunio’r system rigio
  18. asesu’r safle a dewis pwyntiau angori ar gyfer cydrannu rigio, gan gyfrif am y llwyth disgwyliedig, gweithwyr ar y tir, pwyntiau angori eraill, safle’r cyfarpar mynediad, y parth gollwng arfaethedig a’r ardal brosesu
  19. torri rhannau o goed y gellir eu gostwng gan ddefnyddio toriadau addas, gan leihau llwytho sioc yn y system rigio
  20. cadarnhau bod sgil-gynhyrchion yn cael eu torri i ffwrdd a’ch bod yn delio â nhw yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  21. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
  22. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
  23. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  24. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi rhywogaethau a theuluoedd coed a sut bydd rhywogaethau, amodau ac amser y flwyddyn yn effeithio ar waith coed
  3. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  4. pwysigrwydd gwirio am arwyddion o glefyd, diffygion a dirywiad yn y goeden rydych chi’n gweithio arni a ble i gael cyngor proffesiynol pan fydd angen
  5. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  6. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd y parthau risg a’r rheolaeth ar barthau risg
  7. pwysigrwydd rheoli parthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
  8. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  9. gofynion cyfreithiol, rhai’r diwydiant a rhai sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  10. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
  11. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
  12. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a’r dystiolaeth ofynnol i ddangos bod hyn wedi cael ei wneud
  13. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
  14. pwysigrwydd defnyddio system amddiffyn personol rhag cwympo wrth ddringo a gweithio mewn coed
  15. pryd byddai angen rigio coed a’i gyfyngiadau
  16. sut, pryd a ble i ddefnyddio systemau rigio cyfansawdd neu gymhleth
  17. sut i osod a defnyddio llinell dynnu/tag i gynorthwyo â thorri rhannau
  18. sut i gyfrifo’r llwythi disgwyliedig sy’n cael eu cynhyrchu gan y weithred rigio
  19. sut i ddewis cydrannau cydnaws i greu system rigio sy’n briodol i’r llwyth disgwyliedig
  20. sut i ddewis pwyntiau angori addas ar gyfer y llwythi disgwyliedig heb beryglu safle mynediad y gweithwyr
  21. sut i ddewis y safle mynediad addas a’r parthau gollwng arfaethedig
  22. sut i gynllunio a gosod y safle rigio ar y ddaear i ddiogelu gweithwyr tir, cynorthwyo â’r llif gwaith, delio â’r sgil-gynhyrchion a lleoli’r parthau gollwng arfaethedig
  23. sut i dorri rhannau o goed all gael eu gostwng gan ddefnyddio toriadau addas, gan leihau llwytho sioc yn y system rigio
  24. y dulliau cywir o ddelio â sgil-gynhyrchion yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  25. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
  26. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
  27. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
  28. y problemau a all godi wrth rigio coed o’r awyr, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  29. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  30. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Mae gwahanol ddulliau o ddelio â sgil-gynhyrchion yn cynnwys: llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach a’u hailddefnyddio fel cynhyrchion eraill


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.

Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.

Systemau rigio cyfansawdd/cymhleth:

  • llinell ddrifft
  • trosglwyddo llwyth
  • balans
  • crud
  • “spider leg”
  • llinellau cyflym/llinellau o’r awyr
  • pwyntiau angori ffug
  • craenio a thechnegau codi
  • symud craen o’r safle

Parth gollwng – yr ardal ddynodedig y bydd gwrthrychau fel canghennau coed neu ddarnau o foncyffion yn cael eu gollwng iddi wrth docio coed o’r awyr.

Risgiau iechyd a diogelwch o ddefnyddio llif gadwyn:

  • cael eich torri gan y llif
  • cael eich taro neu’ch gwasgu gan bren sy’n symud
  • colli’ch clyw oherwydd sŵn
  • cryndod y llaw a’r fraich (HAV)
  • mygdarth gwacau o lifoedd cadwyn sy’n rhedeg ar betrol
  • amlygiad i olewau
  • effeithiau blinder/syched ar y gallu i weithio’n ddiogel
  • cyfarpar neu weithgareddau gwaith eraill ar y safle

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Amddiffyn Personol rhag Cwympo – casgliad o gydrannau sy’n cyfuno, o’u defnyddio’n gywir, i atal cwympo. Mae systemau amddiffyn personol rhag cwympo yn cynnwys prif system a system wrth gefn sy’n gysylltiedig ag angor annibynnol, lle bynnag y bo’n bosibl. Gall y system wrth gefn gael ei hepgor dim ond:

  • pan nad yw’n ymarferol ei chynnal ar gyfer tasg benodol, “ddisymud” a byr symud rhaff yn ei blaen/cyfnewid, gan ailosod y system wrth gefn cyn gynted â phosibl
  • achub rhywun sydd wedi’i anafu, pan fydd cyflymder yn hanfodol

Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw31

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth, Gweithredwyr llif gadwyn a pheiriannau coedwig

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

o’r awyr; rigio; coeden; llif gadwyn