Cael at goed trwy ddringo er mwyn cyflawni gwaith coed

URN: LANTw23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i ddringo coed yn ddiogel, gan ddefnyddio ysgolion a chyfarpar dringo.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd a wneir, a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a gweithio ar uchder, y peryglon sy’n cael eu peri gan y goeden a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  4. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad ar y gwaith dringo coed
  5. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
  6. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
  7. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr tir a chydweithwyr eraill, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
  8. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  9. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  10. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  11. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
  12. dewis a gweithredu’r dulliau mynediad a gosod mwyaf diogel, gan baru’r cyfarpar â’r llwythi gwaith arfaethedig, yn unol â’r risgiau a aseswyd
  13. clymu, paratoi a gosod amrywiaeth o glymau dringo coed, yn unol â chanllawiau’r diwydiant
  14. dewis pwyntiau angori perthnasol ar gyfer dringo, yn unol â’r gweithrediadau gwaith coed gofynnol
  15. dringo coed yn ddiogel, gan ddefnyddio ysgolion a chyfarpar dringo, yn unol â pherygl y goeden ac asesiadau gweithio ar uchder
  16. defnyddio systemau amddiffyn personol rhag cwympo sy’n cynnwys prif system a system wrth gefn, yn unol â chanllawiau presennol y diwydiant
  17. dod i lawr o goed a thynnu cyfarpar ohonynt yn unol ag asesiadau gweithio ar uchder
  18. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  19. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
  2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar uchder, y peryglon sy’n cael eu peri gan y goeden a’r gwaith i’w gyflawni, a phwysigrwydd asesiad risg penodol i safle a chamau rheoli
  3. pwysigrwydd gwirio am arwyddion o glefyd, diffygion a dirywiad yn y goeden rydych chi’n gweithio arni a sut mae hyn yn effeithio ar y broses dringo coed
  4. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  5. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd y parthau risg a’r rheolaeth ar barthau risg
  6. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
  7. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
  8. pam mae’n bwysig cyfathrebu â gweithwyr ar y tir a chydweithwyr eraill bob amser, gan gynnwys yn ystod gwaith coed o’r awyr
  9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r gweithle, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  10. y gofynion cyfreithiol am archwilio pob cyfarpar dringo a gostwng a’r dystiolaeth ofynnol i ddangos bod hyn wedi cael ei wneud
  11. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar ddefnyddio gwahanol fathau o harnais
  12. sut i glymu, paratoi a gosod gwahanol fathau o glymau dringo coed
  13. sut bydd rhywogaethau coed, amodau ac amser y flwyddyn yn effeithio ar waith
  14. sut i ddewis pwyntiau a safle angori priodol ar gyfer cyfarpar mynediad fel na fydd gweithrediadau gwaith coed yn peryglu’r pwyntiau angori
  15. pwysigrwydd defnyddio system amddiffyn personol rhag cwympo wrth ddringo coed a gweithio ynddynt
  16. sut i gael at goed yn ddiogel gan ddefnyddio ysgolion a chyfarpar dringo
  17. sut i ddod i lawr o goed a thynnu cyfarpar ohonynt yn ddiogel
  18. y problemau a all godi wrth ddringo coed, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
  19. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
  20. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

System Amddiffyn Personol rhag Cwympo – casgliad o gydrannau sy’n cyfuno, o’u defnyddio’n gywir, i atal cwympo. Mae systemau amddiffyn personol rhag cwympo yn cynnwys prif system a system wrth gefn sy’n gysylltiedig ag angor annibynnol, lle bynnag y bo’n bosibl. Gall y system wrth gefn gael ei hepgor dim ond:

  • pan nad yw’n ymarferol ei chynnal ar gyfer tasg benodol, “ddisymud” a byr symud rhaff yn ei blaen/cyfnewid, gan ailosod y system wrth gefn cyn gynted â phosibl
  • achub rhywun sydd wedi’i anafu, pan fydd cyflymder yn hanfodol

Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw77

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coed; dringo