Trin neu waredu bonion coed
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i drin neu waredu bonion coed sy’n cael eu gadael yn dilyn gwaith coed.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio triniaethau cemegol a/neu fiolegol ar gyfer bonion a defnyddio cyfarpar modur â llaw neu fecanyddol i waredu bonion. Gall hyn gynnwys defnyddio winshis (sy’n cael eu gweithio â llaw neu â modur) a pheiriannau prosesu bonion.
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, ac i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a chyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
- nodi’r bonion coed a’r gwreiddiau i’w trin neu eu gwaredu, ac asesu eu cyflwr
- lleoli ac osgoi neu ddiogelu gwasanaethau ac eiddo cyfleustodau
- paratoi bonion coed a gwreiddiau yn unol â’ch asesiad o’u cyflwr ac yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd
- defnyddio dulliau triniaeth sy’n briodol i gyflwr bonion y coed a’r gwreiddiau a’r lleoliad, ac yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau’r diwydiant a’r wybodaeth a ddarparwyd
- defnyddio dulliau gwaredu sy’n briodol i gyflwr bonion y coed a’r gwreiddiau a’r lleoliad, ac yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau’r diwydiant a’r wybodaeth a ddarparwyd
- llenwi’r twll ar ôl gwaredu gan ddefnyddio’r deunydd priodol
- gwaredu pob deunydd gwastraff a deunydd dros ben a delio â nhw yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd y parthau risg a’r rheolaeth ar barthau risg
- y ddeddfwriaeth, canllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, rhai’r diwydiant a rhai sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
- technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
- y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn cael ei gyflawni
- sut i nodi ac osgoi neu ddiogelu gwasanaethau ac eiddo cyfleustodau a pham mae hyn yn bwysig
- sut i ddewis y dull triniaeth neu waredu priodol, ar sail cyflwr presennol bonyn y coed a’r lleoliad
- dulliau biolegol a chemegol o drin bonyn coeden a sut i nodi pryd ddylai’r dulliau hyn gael eu defnyddio
- dulliau â llaw neu ddulliau mecanyddol o waredu bonion coed a sut i nodi pryd dylai’r dulliau hyn gael eu defnyddio
- pryd dylid defnyddio winsh i waredu bonion coed, angori’r winsh yn gywir ac a yw cydrannau’r winsh yn gydnaws
- y deunyddiau y gellir eu defnyddio i lenwi’r twll yn dilyn gwaredu a pham na ddylid defnyddio blawd llif
- y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- y problemau a all godi wrth drin neu waredu bonion coed, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Mae dulliau gwaredu bonion yn cynnwys:
- cloddio’r bonyn o’r ddaear – â llaw neu yn fecanyddol
- malu’r bonyn yn fân
- llosgi’r bonyn (lle bo’n ddiogel ac yn gyfreithlon gwneud hynny)
- defnyddio triniaeth gemegol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- canllawiau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.