Rheoli gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu pren

URN: LANTw20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i reoli gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu pren.

Gallai gweithgareddau gynnwys rheoli rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • datblygu cynlluniau cynaeafu ac echdynnu
  • gweithredu a monitro cynlluniau cynaeafu ac echdynnu
  • marchnata a rheoli stoc

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Mae’n rhaid bod unrhyw un sy’n gweithio gyda chyfarpar a pheiriannau fod wedi’u hyfforddi’n briodol, yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd a wneir, a dal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol wrth reoli’r gwaith hwn.

Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gyfrifol am reoli gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu pren.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i reoli gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
3. cadarnhau bod asesiad amgylcheddol o’r safle yn cael ei gyflawni cyn dechrau gweithio a chyfrif am y canfyddiadau
4. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
5. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, gan gynnwys peryglon tanddaearol ac uwchben, a chynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull, fel y bo angen
6. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
7. monitro bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
8. cadarnhau bod gweithdrefnau ar gyfer symud a gwaredu pob gwastraff a sgil-gynnyrch ar waith, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol, a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn
9. cydlynu gwasanaethau a gweithgareddau ar safle a defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â’r gweithlu ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
10. cadarnhau bod difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, yn cael eu lleihau wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
11. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
12. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
13. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol

Datblygu a gweithredu cynlluniau cynaeafu ac echdynnu
1. cadarnhau faint o bren sydd ar gael
2. datblygu pecynnau gwerthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
3. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad ar y broses cynaeafu pren a chael cyngor proffesiynol lle nad ydych yn sicr
4. datblygu cynlluniau cynaeafu ac echdynnu ar sail amcangyfrifon cynnyrch o ddata sefyll a gofynion prynwr y pren
5. dewis y dulliau cynaeafu ac echdynnu mwyaf diogel yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol
6. cynllunio gosodiad y safle gweithio i gynnwys llwybrau mynediad ac ymadael, ardaloedd troi, ardaloedd gwasanaeth ar gyfer cyfarpar a pheiriannau, ardaloedd storio tanwydd ac ardaloedd storio eraill, darpariaeth lles i’r gweithlu, ac ati
7. cynllunio sut i leihau difrod a risg amgylcheddol i’r safle a sut i reoli dŵr ar y safle
8. penderfynu ar gamau i atal a rheoli llygredd gwasgaredig a mathau eraill o lygredd, yn ystod gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu, yn unol â gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r diwydiant, a chyfrif am amodau tir y safle a’r potensial am dywydd gwael
9. cadarnhau bod camau’n cael eu rhoi ar waith, monitro eu heffeithiolrwydd ac addasu’r camau i ymateb i newidiadau mewn amodau
10. cadarnhau bod unrhyw wasanaethau tanddaearol neu uwchben wedi’u diogelu
11. cadarnhau bod modd cynnal parthau risg rhwng y gweithlu a chyfarpar
12. cadarnhau bod ardaloedd wedi’u diffinio, eu marcio a’u cyfleu yn glir
13. nodi a chasglu’r adnoddau sy’n ofynnol i gyflawni deilliannau’r gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu yn unol â chynlluniau
14. neilltuo cyfrifoldebau i’r gweithlu am eu rhan yn y gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu
15. cadarnhau bod gan holl aelodau’r gweithlu’r hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ardystiad perthnasol i gyflawni’r gwaith yn unol â gofynion cyfreithiol
16. wrth ddefnyddio contractwyr, cadarnhau bod yr yswiriant perthnasol yn ei le
17. cyfleu’r wybodaeth a’r cyfrifoldeb perthnasol am ddiogelwch a gwybodaeth gysylltiedig â gwaith i’r gweithlu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a monitro bod gweithdrefnau diogelwch yn cael eu dilyn
18. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
19. cadarnhau bod y cyfarpar a’r peiriannau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith ar gael ac yn addas at eu diben
20. cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar a pheiriannau ar y safle
21. monitro’r gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu yn erbyn y cynlluniau, o ran maint, amserlenni, ansawdd, cost a’r safon a gyflawnir
22. gweithredu i atal gwaith pan fydd amodau’r tywydd yn cynyddu tebygolrwydd llygredd gwasgaredig
23. rheoli unrhyw wyriadau o’r cynlluniau cynaeafu ac echdynnu
24. cyflawni gweithgareddau trosglwyddo pan gwblheir y gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu
2. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gweithio a’r canfyddiadau y mae’n rhaid eu hystyried
3. sut i nodi rhywogaethau coed mewn pren sy’n sefyll a phren sydd wedi’i gwympo
4. eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a diogelwch perthnasol
5. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, a sut i gynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull ar gyfer gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu
6. y camau rheoli iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol, a’r cynllunio a gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle
7. y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn cael ei gyflawni
8. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
9. pwysigrwydd mesurau bioddiogelwch a sut i sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso
10. y gofynion cyfreithiol a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer symud a gwaredu pob math o wastraff
11. sut i gydlynu gwasanaethau a gweithgareddau’r safle a chyfathrebu’n effeithiol â’r gweithlu ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
12. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut i reoli a lleihau effaith y gweithrediadau cynaeafu ac echdynnu ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth
13. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
14. y problemau a all godi wrth reoli cynaeafu ac echdynnu pren, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
15. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
16. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Datblygu a gweithredu cynlluniau cynaeafu ac echdynnu
1. y gofynion cyfreithiol a’r caniatâd statudol ar gyfer cynaeafu ac echdynnu pren
2. sut i gadarnhau faint o bren sydd ar gael
3. pwysigrwydd gwirio iechyd coed, effeithiau clefydau, diffygion a dirywiad ar weithrediadau cynaeafu ac echdynnu, a lle i gael cyngor proffesiynol pan fydd angen
4. yr angen i gydweithio â phrynwr y pren i gytuno ar y stoc sydd ar gael a’i symud
5. egwyddorion datblygu cynlluniau cynaeafu ac echdynnu pren a beth dylent ei gynnwys
6. pwysigrwydd pecynnau gwerthu a sut i’w datblygu
7. sut dylid cynllunio gosodiad y safle gweithio a beth mae angen ei ystyried
8. pwysigrwydd atal a rheoli llygredd gwasgaredig a mathau eraill o lygredd ar y safle, a’r camau y gellir eu rhoi ar waith
9. sut i ddewis cyfarpar a pheiriannau addas ar gyfer y broses gynaeafu ac echdynnu a galluoedd a chyfyngiadau gwahanol gyfarpar a pheiriannau
10. y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer symud a gwaredu pob gwastraff a sgil-gynnyrch
11. yr adnoddau sy’n ofynnol i roi cynlluniau cynaeafu ac echdynnu pren ar waith a sut i’w casglu
12. sut i neilltuo cyfrifoldebau i’r gweithlu a beth dylid ei ystyried
13. pwysigrwydd gwirio bod gan holl aelodau’r gweithlu, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r ardystiad perthnasol i gyflawni’r gwaith
14. sut i sicrhau bod cyfarpar a pheiriannau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn addas at eu diben ac ar gael, ble a phan y bydd angen
15. y dulliau a’r technegau rheoli ar gyfer gweithredu a monitro cynlluniau cynaeafu ac echdynnu pren i fodloni gofynion a sut i reoli unrhyw wyriadau
16. dulliau a thechnegau ar gyfer cyflawni trosglwyddiadau effeithiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae llygredd gwasgaredig mewn gwaith coed yn cynnwys: baw a silt, tameidiau bach o danwydd, olew neu lygryddion eraill a ollyngwyd sy’n cael eu rhyddhau i gwrs dŵr naturiol.

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig, Safon Coedwigaeth y DU)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Gall camau atal llygredd gynnwys:

  • lleiniau clustogi
  • ffosydd rhwystr
  • trapiau silt
  • ffensys silt
  • parthau hidlo
  • pibellau draenio dŵr
  • matiau tocion
  • ffyrdd boncyffion
  • pontydd boncyff
  • storio tanwydd, olew a chemegion yn gywir
  • ardal ddynodedig ar gyfer ailgyflenwi tanwydd a chynnal a chadw
  • archwilio a chynnal a chadw peiriannau yn rheolaidd i atal olew a hylif hydrolig rhag gollwng

Gall camau rheoli llygredd gynnwys:

  • trawstiau rhwystro
  • deunyddiau amsugnol ar gyfer llygryddion sy’n cael eu cludo ar arwyneb
  • chwistrelli dŵr cyfaint isel, pwysedd uchel

Caniatâd statudol e.e. cau ffyrdd cyhoeddus, cyfyngiadau ar drenau, cau llinellau pŵer i lawr, pyst, caniatâd cwympo, gorchmynion symud, trwydded ar gyfer deunydd heintiedig ac ati

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Clwstwr – cymuned gyffiniol o goed sydd â chyfres gyffredin o nodweddion.

Gallai’r gweithlu gynnwys:

  • aelodau tîm
  • gweithwyr dros dro
  • staff asiantaeth
  • gwirfoddolwyr
  • contractwyr
  • unrhyw gyfuniad o’r rhain

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw50

Galwedigaethau Perthnasol

Coedwigaeth

Cod SOC

9112

Geiriau Allweddol

cynaeafu; echdynnu; coed; pren