Derbyn dosbarthiad o blanhigion a deunydd plannu, a’u storio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i dderbyn dosbarthiad o blanhigion a deunydd plannu, a’u storio. Bydd hyn yn cynnwys gwirio eu bod yn cyfateb i’r fanyleb a’u trin a’u storio’n gywir.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ystyried defnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau bod hyfforddiant ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w wneud
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r cyfarpar a’r peiriannau sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- derbyn dosbarthiad o blanhigion a deunydd plannu a chadarnhau bod y disgrifiad a’r nifer yn cyfateb i’r nodyn trosglwyddo a’r archeb wreiddiol
- gwirio bod ansawdd y planhigion a’r deunydd plannu yn bodloni’r manylebau gofynnol
- gwirio bod planhigion yn bodloni gofynion cyfreithiol a gofynion bioddiogelwch, gan gynnwys pasbortau planhigion, lle bo’u hangen
- delio ag unrhyw anghysondebau, eitemau wedi’u difrodi neu eitemau o ansawdd gwael, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi dosbarthiadau i mewn i stoc, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- trin a chludo planhigion a deunydd plannu mewn ffordd sy’n lleihau difrod ac sy’n sicrhau eu diogelwch a’u diogeledd
- storio planhigion a deunydd plannu yn ddiogel mewn amgylchedd addas, yn unol ag argymhellion y cyflenwr/gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- monitro cyflwr planhigion sy’n cael eu storio a sicrhau nad ydynt yn sychu
- gwaredu pob gwastraff a phecynnu a delio â’r rhain yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- cyflawni’r gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w wneud, a phwysigrwydd asesu risg a mesurau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd gwirio bod unrhyw drwyddedau i weithredu cyfarpar a pheiriannau ar waith
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
- technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
- pam dylid gwirio dosbarthiadau yn unol â’r nodyn trosglwyddo a’r archeb wreiddiol a mynd ar drywydd unrhyw anghysondebau
- y ddogfennaeth a ddylai gyd-fynd â dosbarthiadau, fel tystysgrifau cydymffurfio neu basbortau planhigion
- pwysigrwydd gwirio cyflwr planhigion a deunydd plannu a’r camau i’w cymryd os bydd eitemau wedi’u difrodi neu eitemau o ansawdd gwael
- pwysigrwydd bioddiogelwch wrth dderbyn dosbarthiad planhigion
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi dosbarthiadau i mewn i stoc
- sut i drin, cludo a storio gwahanol fathau o blanhigion a deunydd plannu i’w cynnal mewn cyflwr da
- y rhagofalon i’w cymryd a’r PPE sy’n ofynnol wrth ddelio â phlanhigion wedi'u trin
- y gofynion storio ar gyfer gwahanol fathau o blanhigion a deunydd plannu a diben argymhellion y cyflenwr/gwneuthurwr o ran storio
- pryd dylid rhoi dosbarthiadau mewn cwarantin a’r gweithdrefnau at y diben hwn
- pwysigrwydd defnyddio gweithdrefnau cylchdroi stoc yn gysylltiedig ag oes silff
- ffyrdd o gynnal diogeledd a diogelwch cyfleusterau storio
- pwysigrwydd monitro planhigion sy’n cael eu storio a sut i gynnal eu cyflwr
- y camau i’w cymryd pan fydd stoc yn cyrraedd y lefel ailarchebu ofynnol
- y dulliau cywir o ddelio â gwastraff a phecynnu, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Manylebau:
- rhywogaethau planhigion
- math o blanhigion
- meintiau planhigion
- cyflwr planhigion
Sut i storio planhigion:
- storfa oer
- plannu dros dro (heeling in)
- byrnau gwellt
- bagiau cyd-allwthiedig
- Storfa ganopi
Sut i ddelio â’r mathau canlynol o stoc:
- gwreiddiau noeth
- pêl-wreiddyn
- planhigion a gyflenwir mewn potiau
- planhigion sy’n tyfu mewn potiau
- planhigion wedi’u tyfu mewn cell
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Deunyddiau plannu: e.e. tybiau, polion, bagiau, plygiau gwreiddiau plastig
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.