Echdynnu pren
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i echdynnu pren, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.
Echdynnu yw’r broses o symud pren wedi’i dorri o’r man lle cafodd ei gwympo i ardal lle gellir ei symud o’r safle.
Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
- Cadwyno pren i’w echdynnu
- Echdynnu pren gyda winsh
- Echdynnu pren gan ddefnyddio cerbydau echdynnu
- Sortio a phentyrru pren
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol, eich bod yn gymwys i gyflawni’r gweithgaredd a gyflawnir, a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Mae’r safon hon i weithredwyr cynaeafu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
5. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg a llwybrau dianc wedi’u sefydlu wedi’u nodi, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
6. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
7. cynllunio gwaith i leihau difrod andwyol a llygredd gwasgaredig
8. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
9. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
10. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
11. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r cyfarpar a’r peiriannau sy’n ofynnol ar gyfer echdynnu yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
12. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
13. cynnal diogelwch a diogeledd offer, cyfarpar a thanwydd ar y safle
14. cynnal bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
15. gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
16. nodi a dewis y pren i’w echdynnu yn unol â manyleb y cynnyrch
17. lleihau difrod i’r safle, neu darfu arno, gan gynnwys unrhyw goed sydd o hyd yn sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau neu gyrsiau dŵr, osgoi llygredd wrth wneud y gwaith a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
18. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
19. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
20. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Cadwyno pren i’w echdynnu
1. dewis cebl/rhaff neu gadwyn cadwyno addas sydd â diamedr a chryfder digonol ar gyfer y llwyth sydd i’w ychwanegu
2. cynnal gwiriadau gweledol ar y cebl/rhaff neu’r gadwyn a’r gosodiadau cyn eu defnyddio, yn unol â gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r diwydiant
3. cadwyno pren i’w echdynnu yn ddiogel, yn unol â’r math o gyfarpar a ddefnyddir a’r pren sydd i’w echdynnu
4. symud rhag y parth risg cyn rhoi arwydd i weithredwr y winsh neu weithredu’r winsh
Echdynnu pren gyda winsh
1. sefydlu a pharatoi’r cyfarpar winsio ar gyfer echdynnu
2. cadarnhau bod capasiti a hyd cebl/rhaff y winsh a chydrannau eraill y system yn ddigonol ar gyfer y llwyth sydd i’w ychwanegu a’r pellter i’w dynnu
3. gosod y cebl/rhaff, gan osgoi rhwystrau i’r broses winsio
4. cynnal gwiriadau gweledol ar y cebl/rhaff a’r cyfarpar arall cyn eu defnyddio a thrwy gydol y broses winsio, yn unol â gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r diwydiant
5. cadarnhau bod y pren wedi’i gadwyno’n briodol ar gyfer winsio diogel ac effeithiol, a’i gysylltu â chebl/rhaff y winsh
6. gweithio’r winsh i echdynnu pren yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r diwydiant, ac atal winsio pan gewch arwydd i wneud hynny
7. cadarnhau bod y pren mewn safle diogel cyn ei ryddhau o’r winsh
Echdynnu pren gan ddefnyddio cerbydau echdynnu
1. paratoi’r peiriant a’r cyfarpar trwy gynnal gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, gan gynnwys pob nodwedd ddiogelwch
2. gwirio’r ardal weithio uniongyrchol am beryglon a rhwystrau, gan gynnwys cyfyngiadau uchder wrth ddefnyddio llwythwyr gafael, cyn gweithredu’r peiriant, a defnyddio’r arwyddion rhybudd cywir bob amser
3. gosod y peiriant a chysylltu/llwytho pren yn ddiogel, i gapasiti sy’n sicrhau echdynnu diogel ac effeithiol, fel y bo’n briodol i’r math o beiriant a chyfarpar
4. wrth ddefnyddio llwythwr gafael, sicrhau bod maint a phwysau’r pren sy’n cael ei lwytho yn gydnaws â’r bŵm a’r gafael
5. cyfyngu maint y llwyth ar y peiriant i osgoi difrod i’r cynnyrch, ansefydlogrwydd y peiriant, colli’r llwyth neu ddifrod i goed sy’n sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau a’r amgylchedd ehangach
6. gweithredu a symud y peiriant yn ddiogel, mewn ffordd sy’n gyson â’r math o beiriant, y tywydd, amodau’r ddaear, y mathau o dirwedd a chyfyngiadau’r safle
7. datgysylltu/dadlwytho’r pren o’r peiriant yn ddiogel, yn yr ardal gasglu ddynodedig
8. stopio ac ynysu’r peiriant ar ôl cwblhau’r gweithgaredd, gwneud unrhyw waith cynnal a chadw gofynnol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a’i adael mewn safle diogel
Sortio a phentyrru pren
1. sortio a phentyrru pren yn yr ardal ddynodedig yn ddiogel, yn unol â manylebau’r cynhyrchion a chanllawiau’r diwydiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
4. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, canllawiau’r diwydiant ar barthau risg a chliriadau diogel rhag dargludyddion trydan uwchben, a beth i’w wneud os bydd cysylltiad â llinellau pŵer
5. pwysigrwydd rheoli parthau risg a’r defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo
6. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
7. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
8. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
10. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
11. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
12. pwysigrwydd hylendid a mesurau bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
13. sut i ddehongli manylebau cynhyrchion, adnabod y math o bren a’i rywogaeth a dewis categorïau’r cynhyrchion i fodloni’r fanyleb ofynnol wrth echdynnu pren
14. gwahanol ddulliau echdynnu pren a sut i ddewis y dulliau mwyaf priodol
15. goblygiadau tirwedd, amodau’r tir, rhwystrau, y tymor, y tywydd, y llwyth, y math o bren a chyflwr y pren i’r dulliau echdynnu a ddefnyddir
16. y peryglon a’r risgiau y mae gweithio ar lethrau serth yn eu hachosi
17. effaith bosibl eich gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
18. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
19. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith gorffenedig yn bodloni’r gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd
20. y problemau a all godi wrth echdynnu pren, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
21. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
22. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cadwyno pren i’w echdynnu
1. y mathau o gadwynwyr a gosodiadau ar gyfer echdynnu pren a sut i ddewis cyfarpar a dulliau addas ar gyfer y math o bren sy’n cael ei symud
2. gwiriadau’r gweithredwr a’r gwaith cynnal a chadw sy’n ofynnol ar y cebl/rhaff neu’r gadwyn a’r gosodiadau cyn ac yn ystod eu defnyddio, gan gynnwys nodi capasiti cynnal llwyth y cyfarpar
3. y wybodaeth o’r Dystysgrif Cydymffurfio sy’n ofynnol i sicrhau straen torri datganedig y cebl, y rhaff neu’r gadwyn
4. sut i sefydlu’r parthau risg o gwmpas cebl/cadwyn/rhaff a phren sy’n symud, yn unol â’r dull echdynnu
Echdynnu pren gyda winsh
1. sut i osod a pharatoi cyfarpar winsio yn ddiogel ar gyfer echdynnu
2. egwyddorion gweithredu winsh a’r llwythi i’w hychwanegu
3. beth i gadw llygad amdano wrth gyfeirio’r cebl/rhaff, o ran y math o bren sy’n cael ei echdynnu a’r rhwystrau y gallech ddod ar eu traws wrth weithio’r winsh
4. effaith llwythi siâp chwithig neu lwythi sydd wedi’u cadwyno’n wael, ar echdynnu gan ddefnyddio winsh a sut i ddelio â pren sy’n dod ar draws rhwystr wrth iddo gael ei winsio
5. galluoedd a chyfyngiadau systemau craen cebl, gan gynnwys cyfyngiadau llethrau, hyd y pren sy’n cael ei lwytho a’r llwyth gweithio diogel mwyaf
Echdynnu pren gan ddefnyddio cerbydau echdynnu
1. sut i baratoi’r peiriant a’r cyfarpar
2. galluoedd a chyfyngiadau capasiti’r peiriant sy’n cael ei ddefnyddio, gan gynnwys cyfyngiadau llethrau, gofynion uchder clirio a’r llwyth gweithio diogel mwyaf
3. sut i gynnal sefydlogrwydd y pren a’r peiriant wrth gysylltu/llwytho a phwysigrwydd llwythi cytbwys
4. sut i weithredu llwythwr gafael, lle mae wedi’i osod, i godi, symud a llwytho pren yn ddiogel, a galluoedd codi a chyrhaeddiad y llwythwr gafael
5. sut i weithredu a symud y peiriant yn ddiogel ac yn effeithlon
6. sut i ddatgysylltu/dadlwytho’r pren o’r peiriant yn ddiogel yn yr ardal gasglu gytunedig a’r goblygiadau os bydd llwythi’n symud neu’n disgyn wrth eu datgysylltu/dadlwytho
7. sut a phryd i ddefnyddio cynalyddion, llafn torri coed neu blatiau bôn i gasglu pren sydd wedi’i echdynnu
Sortio a phentyrru pren
1. y gofynion o ran sortio a phentyrru i fodloni manylebau cynhyrchion, dulliau trin diogel, uchderau pentyrru diogel, sefydlogrwydd pentyrrau a gofynion am arwyddion
2. y camau diogelu sy’n ofynnol pan fydd pren yn cael ei gasglu wrth ymyl ffyrdd a llwybrau o ran sefydlogrwydd a gofynion am arwyddion rhybudd
Cwmpas/ystod
Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
• cadwyno pren i’w echdynnu
• echdynnu pren gyda winsh
• echdynnu pren gan ddefnyddio cerbydau echdynnu
• sortio a phentyrru pren
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Paratoi craen cebl:
- gosod safle’r peiriant yn ddiogel
- gosod a rigio craen y cebl
- codi ac angori’r tŵr
- rigio ac angori’r fraich ôl
- gosod y cludwr uchel
- newid neu atgyweirio ceblau/rhaffau sydd wedi’u difrodi
Paratoi’r sgidiwr a’r blaenyrrwr:
- gwiriadau cyffredin y gweithredwr
cynnal a chadw sylfaenol - addasu amgylchedd y gweithredwr
- gwiriadau strwythur amddiffynnol y gweithredu
- ymgyfarwyddo â phob rheolydd ac offeryn, gan gynnwys systemau cyfrifiadurol cynwysedig, lle mae’r rhain wedi’u gosod
- gweithdrefnau dechrau a stopio
Winsio:
- capasiti cludo amrywiol ffurfweddiadau strapiau angor y pwli
- lluosogi grymoedd pan fydd (cip)flociau pwli’n cael eu defnyddio
- dewis strapiau a phwyntiau angori wrth osod pwlïau sy’n cael eu defnyddio wrth dynnu yn erbyn neu wrth arwain yn uchel, gan gyfrif am y luosi’r grymoedd a ychwanegir
- y peryglon a’r risgiau ychwanegol sy’n gysylltiedig wrth ddefnyddio winshis ar gerbyd heb ddim yn eu hangori i’r ddaear, fel tractorau coedwigaeth neu sgidwyr
- sut dylai pwlïau tynnu yn erbyn gael eu gosod os ydych yn winsio i lawr llethr serth, i osgoi difrod i’r cyfarpar winsio neu anaf i’r gweithredwr
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.
Cadwyno pren – defnyddio cebl, rhaff neu gadwyn sy’n tynhau’n awtomatig ac na fydd yn datglymu
Cyfathrebu ag aelodau eraill y tîm:
- signalau llaw
- setiau radio dwyffordd
- ffonau symudol
- clustffonau
Ffurfweddiadau strapiau angor y pwli – “basged” neu “wedi’u cadwyno”
Gallai cyfarpar echdynnu gynnwys:
- winshis
- craeniau cebl
- cerbydau echdynnu:
- tractorau
- addasiadau i ATV
- sgidwyr
- "iron horse"
- llwythwyr gafael
- blaenyrwyr
- peiriannau eraill â thraciau
- trelars
Blaenyrwyr – uned tractor a threlar sydd wedi’i ffitio â llwythwr gafael neu flaenyrwr wedi’i adeiladu’n bwrpasol
Amodau’r tir:
- gwlyb
- sych
- rhew
- ia
- llaid
- tir chwâl
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gwiriadau’r gweithredwr ar gyfer winsio yn cynnwys:
- y cebl/rhaff a’i derfynell
- strapiau
- pwlïau
- cyplynnau
- bachau
- cadwywnwyr
- defnyddicanllawiau’r gwneuthurwr
- defnyddicebl weiar neu weolyn/rhaff
Gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio yn amgylchedd y gweithredwr:
- sedd
- rheolyddion llywia symud
- system frecio
- drychau a/neu gamerâu
- gwregys
- medryddion monitro
- paneli gwybodaeth
- sgriniau Technoleg Gwybodaeth
- rhybuddion gweledol a chlywedol
- system gyfathrebu
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Systemau amddiffyn:
- Strwythurau Amddiffynnol y Gweithredwr (OPS)
- Strwythurau Amddiffynnol rhag Rholi(ROPS)
- Strwythurau Amddiffynnol rhag Gwrthrychau sy’n Disgyn (FOPS)
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Sgidiwr – unrhyw fath o gerbyd trwm a ddefnyddir ar gyfer echdynnu coed trwy dynnu coed sydd wedi’u cwympo allan mewn proses o’r enw “sgidio”. Yn aml, mae’r rhain yn dractorau neu’n gerbydau ATV, ond gallant fod yn gerbydau a adeiladwyd yn bwrpasol.
Tirwedd:
- arwynebau caled
- arwynebau meddal
- arwynebau anwastad
- llethrau
Mae mathau o gynhyrchion pren yn cynnwys:
- coed cyfan
- hyd polyn
- boncyffion a phren bach arall