Cwympo a phrosesu coed yn fecanyddol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i gwympo a phrosesu coed yn fecanyddol mewn coedwigoedd a choetiroedd.
Gall cwympo a phrosesu gael eu cyflawni ar ffurf dwy broses ar wahân neu eu cyflawni gyda’i gilydd gan ddefnyddio teclyn cynaeafu a phrosesu ar y cyd.
Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:
- cwympo coed yn fecanyddol
- datgymalu coed yn fecanyddol
- torri canghennau coed yn fecanyddol
- trawstorri coed yn fecanyddol
- pentyrru pren wedi’i brosesu i’w echdynnu neu ei brosesu ymhellach
Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.
Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol lle bo’r angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Cadarnhewch:
- fod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn gweithwyr ac aelodau’r cyhoedd rhag risg
- gwrthrychau sy’n disgyn
- bod parthau risg yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parthau
- bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
- bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr yn gadarn ac yn effeithiol
Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio.
Mae’r safon hon i weithredwyr peiriannau cynaeafu neu waith coed.
Cysylltiadau â NOS eraill:
LANTw79 Paratoi a gweithredu peiriant sylfaen ag atodion
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
5. paratoi Cynllun Codi ar gyfer datgymalu coed, lle bo angen
6. cadarnhau bod pob gwasanaeth tanddaearol ac uwchben fel nwy, dŵr, carthffosiaeth, trydan a chyfathrebu wedi’u nodi cyn bod unrhyw waith yn dechrau
7. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg wedi’u nodi, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
8. cadarnhau bod llwybrau mynediad ac ymadael wedi’u sefydlu a’u marcio
9. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
10. cynllunio gwaith i leihau difrod andwyol a llygredd gwasgaredig
11. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
12. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
13. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
14. dadlwytho’r peiriant o’r lori gludo yn ddiogel, lle bo’i angen
15. paratoi’r peiriannau gofynnol trwy wneud gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, gan gynnwys pob nodwedd ddiogelwch
16. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo’r angen a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
17. cynnal diogelwch a diogeledd cyfarpar, peiriannau a thanwydd ar y safle
18. cynnal bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
19. gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
20. stopio ac ynysu’r peiriant ar ôl cwblhau’r gweithgaredd, gwneud unrhyw waith cynnal a chadw gofynnol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a’i adael mewn safle diogel
21. lleihau difrod i’r safle, neu darfu arno, gan gynnwys unrhyw goed sydd o hyd yn sefyll, llwybrau, ffyrdd, draeniau neu gyrsiau dŵr, osgoi llygredd wrth wneud y gwaith a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
22. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
23. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
24. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Cwympo coed yn fecanyddol
1. nodi’r coed i’w cwympo a gosod y peiriant mewn safle addas i gwympo’r coed yn y cyfeiriad gofynnol, ar gyfer gweithrediadau llwyr gwympo a theneuo, yn unol â manylebau’r cynnyrch a ddarparwyd
2. dewis dull cwympo sy’n berthnasol i faint a chyflwr y goeden yn unol â manylebau’r cynnyrch a ddarparwyd
3. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad yn y coed sydd i’w cwympo a chael cyngor lle nad ydych yn sicr
4. gosod a gweithredu peiriannau a chyfarpar i gwympo coed yn fecanyddol yn unol â’r risgiau a aseswyd a manylebau’r cynhyrchion a ddarparwyd
5. ailraddnodi peiriannau lle bo’r angen, i fodloni gofynion cwympo
6. gosod y pren yn briodol i’w echdynnu neu ar gyfer prosesu dilynol
7. bodloni manylebau a roddwyd ar gyfer uchder y bonyn, a thriniaeth y bonyn, lle bo angen
Datgymalu coed ar uchder yn fecanyddol
1. nodi’r coed i’w datgymalu a gosod y peiriant mewn safle gweithio diogel i gyflawni’r broses ofynnol
2. wrth weithredu peiriannau trwy ddull rheoli o bell, sefyll y tu allan i’r parth risg
3. asesu pwysau’r goeden, y gangen neu’r rhan o’r goeden cyn dechrau’r broses a gwirio ei fod o fewn terfynau’r peiriant, gan gymryd rhannau llai, lle bo hynny’n fwy diogel
4. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad yn y coed sydd i’w datgymalu a chael cyngor lle nad ydych yn sicr
5. gosod a gweithredu peiriannau yn unol â’r risgiau a aseswyd a symud a rhyddhau’r llwyth yn ddiogel yn y parth gollwng dynodedig
Prosesu coed yn fecanyddol
1. dewis y dulliau prosesu sy’n briodol i faint a chyflwr y goeden, yn unol â’r risgiau a aseswyd a manylebau’r cynhyrchion a ddarparwyd
2. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad yn y coed sydd i’w prosesu a chael cyngor lle nad ydych yn sicr
3. torri canghennau coed gan ddefnyddio dulliau priodol a diogel i sicrhau bod yr ansawdd o fewn manylebau’r cynhyrchion a ddarparwyd
4. trawstorri coed yn ddiogel ac yn effeithiol, yn unol â manylebau’r cynhyrchion a ddarparwyd
5. gwahanu a phentyrru pren i hwyluso echdynnu neu brosesu pellach, gan gynnwys gosod tocion oddi wrth barthau pren, yn unol â gweithdrefnau gweithredu’r safle
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
3. pwysigrwydd gwirio am bresenoldeb gwasanaethau tanddaearol ac uwchben, fel nwy, dŵr, carthffosiaeth, trydan a chyfathrebu cyn bod y cwympo, y datgymalu neu’r prosesu yn dechrau, sut gellir gwneud hyn a’r camau i’w cymryd os byddant yn cael eu darganfod
4. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
5. pryd bydd angen Cynllun Codi ar gyfer datgymalu coed a beth ddylai ei gynnwys
6. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, canllawiau’r diwydiant ar barthau risg a chliriadau diogel rhag dargludyddion trydan uwchben, a beth i’w wneud os bydd cysylltiad â llinellau pŵer
7. pwysigrwydd rheoli parthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
8. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
9. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
10. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
11. y peiriannau cwympo, datgymalu a phrosesu sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio a gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
12. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
13. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
14. pwysigrwydd mesurau bioddiogelwch a sut i gymhwyso’r rhain
15. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
16. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
17. y problemau a all godi wrth gwympo, datgymalu a phrosesu coed yn fecanyddol, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
18. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
19. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwympo coed yn fecanyddol
1. sut i nodi a dewis rhywogaethau a meintiau coed i fodloni manylebau’r cynnyrch a ddarparwyd
2. swyddogaeth pob rheolydd gweithredu ar beiriannau cwympo, bŵm peiriant a’r teclyn cwympo, gan gynnwys y system rheoli rhag tân
3. sut i ddefnyddio peiriannau cwympo i gwympo coed yn ddiogel
4. galluoedd a chyfyngiadau’r peiriannau a ddefnyddir, gan gynnwys cyfyngiadau ar lethrau
5. goblygiadau tirwedd, amodau’r tir, y tymor, y tywydd a chyflwr coed i gwympo coed yn fecanyddol
6. goblygiadau cwympo coed dwbl, coed sydd wedi chwalu, coed pydredig, coed marw a choed eraill sydd wedi camffurfio
7. sut i ddelio â choed sydd wedi cael eu chwythu gan y gwynt ac sydd â bonion anarferol o fawr, claddedig ac anhygyrch
8. sut i wirio, cynnal a chadw a hogi’r mecanwaith cwympo a’r gweithdrefnau i sicrhau bod y gweithredwr yn cael ei ddiogelu
Datgymalu coed ar uchder yn fecanyddol
1. swyddogaeth holl reolyddion gweithredu’r peiriannau sy’n cael eu defnyddio, gan gynnwys dull rheoli o bell, lle caiff ei ddefnyddio
2. galluoedd a chyfyngiadau’r peiriannau a ddefnyddir, gan gynnwys cyfyngiadau ar lethrau
3. pwysigrwydd gwirio pwysau’r goeden, y gangen neu’r rhan o goeden yn erbyn cyfyngiadau’r peiriant, a beth ddylid ei ystyried
4. sut i weithredu’r peiriant i dorri canghennau neu dorri rhannau o goeden i ffwrdd a’u symud yn ddiogel i’r parth gollwng dynodedig
Prosesu coed yn fecanyddol
1. swyddogaeth a rheolyddion gweithredu’r peiriannau prosesu sy’n cael eu defnyddio, a sut i ddefnyddio’r rhain i brosesu coed yn ddiogel
2. galluoedd a chyfyngiadau’r peiriannau a ddefnyddir, gan gynnwys cyfyngiadau ar lethrau
3. sut i dorri canghennau oddi ar goed, gan gynnwys y rhai sydd wedi camffurfio
4. goblygiadau prosesu coed sydd wedi chwalu, coed pydredig, coed claf a choed eraill sydd wedi camffurfio
5. sut i ddelio â choed na allwch gael at eu bonion
6. y gweithdrefnau ar gyfer gosod hyd boncyffion, goddefiannau a lleiafswm diamedr y brig, yn briodol i’r cyfarpar prosesu a ddefnyddir
7. sut i wirio a hogi cyllyll torri canghennau a pham mae angen gosod proffil y cyllyll
8. sut i wirio a hogi mecanwaith trawstorri a’r gweithdrefnau i sicrhau bod y gweithredwr yn cael ei ddiogelu
9. sut i adalw gwybodaeth am gynhyrchion unigol a chronnus
10. pwysigrwydd gwiriadau rheolaidd i sicrhau bod y pren wedi’i brosesu’n bodloni manylebau’r cynhyrchion
11. sut i adnabod camweithio mewn cyfarpar cyn ac yn ystod gweithrediadau
12. y dulliau cywir o ddelio â sgil-gynhyrchion, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Delio â’r canlynol:
- coed â bonion anhygyrch
- coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt neu goed sy’n cael eu cwympo i’r cyfeiriad croes
- coed claf, marw neu ansefydlog.
Mae gwahanol ddulliau o ddelio â sgil-gynhyrchion yn cynnwys: llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach a’u hailddefnyddio fel cynhyrchion eraill
Cwympo:
- coed conwydd a llydanddail
- cwympo a thoriadau cwympo niferus
Gosodiadau peiriannau:
- addasiadau yn ôl y dasg
- graddnodi’r system fesur yn sylfaenol
- cael data am y safle a data cynhyrchu
Paratoi’r tir trwy greu matiau tocion i leihau difrod i’r tir ac i helpu gyda rhyddhau.
Paratoi’r safle:
- sut i baratoi ar gyfer croesi cyrsiau dŵr
- defnyddio rampiau ac ati
Defnyddio un o’r mathau canlynol o beiriannau:
- cynaeafwyr gafael
- teclynnau cwympo
- peiriannau clystyru a chwympo neu wellau mecanyddol
- gilotîn/teclyn gwelleifio
- llifiau crwn
- proseswyr gwely
- proesewyr gafael
- proseswyr bŵm strôc/cilyddol
- gwellau coed
- llifiau gafael
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.
Coed sydd wedi camffurfio: coed â changhennau garw, fforchog, â llawer o gyffion a/neu sydd wedi plygu
Parth gollwng – yr ardal ddynodedig y bydd gwrthrychau, fel canghennau neu rannau o goed, yn cael eu gollwng iddi wrth ddatgymalu coed ar uchder
Amodau’r tir:
- gwlyb
- sych
- rhew
- ia
- llaid
- tir chwâl
Cynhyrchion unigol a chronnus: nifer y darnau a chyfaint pob manyleb
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Gwiriadau ac addasiadau cyn defnyddio yn amgylchedd y gweithredwr:
- sedd
- rheolyddion llywio a symud
- system frecio
- drychau a/neu gamerâu
- gwregys
- medryddion monitro
- paneli gwybodaeth
- sgriniau Technoleg Gwybodaeth
- rhybuddion gweledol a chlywedol
- system gyfathrebu
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Systemau amddiffyn:
- Strwythurau Amddiffynnol y Gweithredwr (OPS)
- Strwythurau Amddiffynnol rhag Rholio (ROPS)
- Strwythurau Amddiffynnol rhag Gwrthrychau sy’n Disgyn (FOPS)
- System amddiffyn rhag saeth cadwyn
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed. Fel arfer, bydd y parth yn cyfateb i ddwywaith uchder y goeden sydd i’w chwympo, er bod angen ystyried ffactorau eraill, hefyd.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Tirwedd:
- arwynebau caled
- arwynebau meddal
- arwynebau anwastad
- llethrau
Coed â bonion anhygyrch: coed sydd wedi cael eu chwythu gan y gwynt neu goed sy’n cael eu cwympo i’r cyfeiriad croes