Gwneud gwaith coed brys
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i wneud gwaith coed brys, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.
Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol: ymateb i alwadau brys i ddod allan, cydweithio â’r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill, asesu’r sefyllfa a phenderfynu ar y camau gweithredu a’r cyfarpar sy’n ofynnol, defnyddio offer a chyfarpar priodol i wneud gwaith coed brys.
Gallech fod yn gweithio yn unol â chyfarwyddiadau a roddwyd sy’n diffinio’r gweithgareddau gofynnol, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r gweithgareddau hyn ar y safle.
Bydd angen i chi gyfrif am y sefyllfa ac asesu’r risgiau sydd ynghlwm wrth wneud gwaith coed brys a chydweithio â chydlynydd yr ymateb brys.
Mae’n rhaid bod staff tîm gwaith coed brys wedi’u hyfforddi’n briodol, gyda phrofiad priodol o weithredu’r cyfarpar y mae ei angen, a dal ardystiad cyfredol, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Gall disgyn o goed neu gael eich taro gan goed, rhannau o goed, canghennau sy’n disgyn neu wrthrychau eraill sy’n disgyn ladd neu anafu gweithwyr ar safle neu aelodau’r cyhoedd yn ddifrifol.
Cadarnhewch:
- fod arferion diogel yn cael eu mabwysiadu ar gyfer cael at goed a gweithio gyda nhw
- bod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn pob parti rhag risg gwrthrychau sy’n disgyn
- bod parthau risg yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parthau
- bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
- bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr ar safle yn gadarn ac yn effeithiol
Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio, gan gynnwys y cyhoedd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
3. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r sefyllfa frys, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd
4. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu
5. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol, lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
6. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
7. paratoi’r offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith coed brys, cyn galwadau brys i ddod allan, yn unol â gofynion cyfreithiol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
9. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
10. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
11. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
12. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gweithredu gwaith coed brys
1. cydweithio â chydlynydd yr ymateb brys i sefydlu gofynion ac i ddiogelu’r safle i amddiffyn aelodau tîm y gwaith coed brys, defnyddwyr eraill y safle a’r cyhoedd
2. sefydlu trefniadau ar gyfer cyfathrebu a gwaith tîm gyda’r bobl sy’n ymwneud â’r argyfwng
3. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith coed brys sydd i’w gyflawni
4. gwirio am bresenoldeb cyfleustodau tanddaearol ac uwchben a chymryd y camau gofynnol os byddant yn bresennol, yn unol â gofynion diogelwch
5. nodi coed marw ac afiach, canghennau rhydd a brigau tor yn y coed sydd i’w torri ac yn y coed gerllaw sy’n sefyll
6. asesu a phenderfynu ar y gwaith coed brys sy’n ofynnol a chynllunio dulliau gweithio yn unol â’r sefyllfa a gofynion diogelwch
7. penderfynu pa weithgareddau sy’n ddiogel ac yn briodol i’w cyflawni adeg yr argyfwng, a pha rai all gael eu cyflawni yn ddiweddarach
8. nodi tyniant a chywasgedd mewn coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt ac sydd wedi dadwreiddio ac addasu dulliau gweithio i gyfrif am hyn, yn unol â chanllawiau presennol y diwydiant, gan ddefnyddio cyfarpar atal addas, lle bo angen
9. gwneud gwaith coed brys yn unol â gofynion diogelwch a chanllawiau presennol y diwydiant, yn enwedig wrth weithio gyda chraeniau a phlatfformau gweithio symudol sy’n codi (MEWPs)
10. delio â phren a sgil-gynhyrchion sy’n cael eu creu gan y gwaith coed brys, yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg sy’n benodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
3. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
4. y ddeddfwriaeth, canllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
5. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd peidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
6. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer gwaith coed brys a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r gweithle, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
7. y gofynion cyfreithiol am wirio cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
8. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
9. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
10. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
11. y problemau a all godi wrth wneud gwaith coed brys, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
12. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
13. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth yn ddiogel
Gweithredu gwaith coed brys
1. gwahanol lefelau gwaith coed brys, sut i flaenoriaethu argyfyngau a’r sefyllfaoedd pan na fyddai’n bosibl nac yn briodol ymateb i argyfwng gwaith coed
2. sut i nodi rhywogaethau coed a theuluoedd coed
3. pwysigrwydd paratoi citiau a cherbydau ymateb cyn galwadau brys i ddod allan
4. pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol â chydlynydd yr ymateb a gweithio gyda’r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill wrth wneud gwaith coed brys
5. pwysigrwydd rheoli parthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
6. sut i nodi presenoldeb cyfleustodau ac effaith hyn ar y gwaith sy’n ofynnol
7. sut i asesu a blaenoriaethu’r gwaith sy’n ofynnol a sefydlu cynlluniau a dulliau gweithio, gan gyfrif am y math o argyfwng, y sefyllfa ar y safle ac unrhyw ofynion statudol sydd ar waith
8. sut i nodi tyniant a chywasgedd ar y brig, y gwaelod a’r ochr mewn coed sydd wedi cael eu chwythu gan y gwynt a’u dadwreiddio, y risgiau cysylltiedig a phryd bydd angen winsh neu gyfarpar atal arall
9. peryglon gweithio ar goed sydd wedi’u difrodi neu sy’n afiach a’r rhagofalon y mae’n rhaid eu cymryd
10. pryd mae angen symud coed ar lawr i ardal weithio fwy diogel a sut gellir gwneud hyn
11. pwysigrwydd asesu risgiau ac addasu gweithredoedd yn barhaus wrth wneud gwaith coed brys
12. sut dylid delio â phren a sgil-gynhyrchion o’r gweithrediadau gwaith coed brys
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Mae gwahanol ddulliau o ddelio â sgil-gynhyrchion yn cynnwys: llosgi, pentyrru, claddu, lledaenu, prosesu ymhellach a’u hailddefnyddio fel cynhyrchion eraill
Sut i weithio yn y sefyllfaoedd canlynol:
- gerllaw adeiladau neu gyfleustodau uwchben
- gerllaw’r briffordd neu reilffordd
- gerllaw dŵr
- gyda choed sydd wedi disgyn
- gyda choed sydd wedi’u difrodi neu sy’n afiach
- gydag adeiladau wedi’u difrodi
- mewn tywydd gwael
- gyda llinellau pŵer uwchben wedi’u difrodi, a all fod yn fyw
- gyda cheblau uwchben wedi’u difrodi
- gyda chyfleustodau tanddaearol wedi’u difrodi
- gyda draeniau sydd wedi byrstio
- gyda thrychinebau amgylcheddol: carthion heb eu trin ac ati
- o dan oleuadau artiffisial
Sut i wneud y gweithrediadau gwaith coed brys canlynol:
- coed sydd wedi’u dadwreiddio’n rhannol ac wedi disgyn ar goed eraill
- coed sydd wedi torri neu dorri’n rhannol, ond heb ddadwreiddio
- methiant rhannol coeden
- methiant cyfan coeden
- torri platiau gwreiddiau
- winsio, cynnal a chodi
- defnyddiwinsh neu gyfarpar atal arall ar gyfer tyniant ochr neu i atal pren rhag rholio/symud ar lethr
- defnyddiwinshis i atal platiau gwreiddiau sy’n hongian dros safle torri
- dewis a defnyddipwyntiau angori sy’n ddigonol i’r llwyth a ychwanegir
- cwympâ chymorth
- corun sydd wedi torri
- cael at goed sydd wedi methu gan ddefnyddiPlatfform GweithiSymudol sy’n Codi (MEWP), craen neu dechnegau dringo
- torri pren dan dyniant uchel
- defnydditoriadau “V” neu ddulliau eraill i dorri pren dan dyniant uchel iawn
- torri “boncyff hir” wrth dorri cyffion claddedig neu blatiau gwreiddiau ansefydlog
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.
Risgiau iechyd a diogelwch o ddefnyddio llif gadwyn:
- cael eich torri gan y llif
- cael eich taro neu’ch gwasgu gan bren sy’n symud
- colli’ch clyw oherwydd sŵn
- cryndod y llaw a’r fraich (HAV)
- mygdarth gwacau o lifoedd cadwyn sy’n rhedeg ar betrol
- amlygiad i olewau
- effeithiau blinder/syched ar y gallu i weithio’n ddiogel
- cyfarpar neu weithgareddau gwaith eraill ar y safle
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- canllawiau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Cydlynydd yr ymateb e.e.
- y frigâd dân
- yr heddlu
- cynrychiolydd cyfleustod
- awdurdod lleol
- sefydliad cyfrifol arall
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.
Gallai gofynion statudol gynnwys:
- Gorchmynion cadw coed
- Ardaloedd cadwraeth
- Deddfwriaeth amgylcheddol
- Trwyddedau cwympo
- Ardaloedd dynodedig e.e. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
- Nodweddion archaeolegol neu hanesyddol
- Cyrsiau dŵr a chanllawiau sydd ar waith i’w diogelu/gwarchod
- Ystyriaethau hamdden a thirwedd