Clirio coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt, gan ddefnyddio llif gadwyn
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i glirio coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt, gan ddefnyddio llif gadwyn. Yn y cyd-destun hwn, cytunir y bydd y broses hon yn ddull diogel yn dilyn asesiad risg a lle nad yw clirio mecanyddol yn bosibl.
Mae’n cynnwys coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt neu eu dadwreiddio gan storm, symudiad y tir neu gyfrwng ffisegol arall. Ni fydd y coed mewn safle sy’n gofyn am gymorth gan y gwasanaethau brys na chwmnïau cyfleustodau.
Mae angen cynllunio dull i gwblhau’r gwaith ar safleoedd lle mae nifer o goed wedi’u chwythu gan y gwynt, a gall hyn gynnwys torri a thynnu coed sydd wedi’u chwythu a’u torri’n rhannol gan y gwynt, cyn torri platiau gwreiddiau o gyffion wedi’u chwythu’n llwyr.
Gall diamedr y coed fod yn fwy ac yn llai na diamedr y bar llithro, ac wedi’u dadwreiddio’n llawn ac yn rhannol. Gall y broses hefyd gynnwys torri platiau gwreiddiau sy’n hongian dros safle torri gweithredwr y llif gadwyn, gan ddefnyddio peiriannau mecanyddol neu beiriannau priodol eraill i’w hatal.
Mae’r safon hefyd yn cynnwys torri coed sydd wedi’u chwythu’n rhannol (sy’n gwyro) a chwympo coed sydd wedi’u torri gan y gwynt, gyda’r brig ynghlwm ai peidio.
Gall fod angen winshis neu beiriannau priodol eraill i atal coed â thensiwn ar yr ochr neu lle mae’r cyff yn debygol o rolio.
Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i waith clirio coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt gael ei gyflawni gan berson hyfforddedig a chymwys, sydd â phrofiad perthnasol o’r dasg a gyflawnir. Dylai gweithredwr arall sydd wedi cymhwyso a’i gyfarparu’n addas fod yn bresennol ar y safle hefyd wrth ddelio â choed sydd wedi cael eu chwythu gan y gwynt.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.
Gall disgyn o goed neu gael eich taro gan goed, rhannau o goed, canghennau sy’n disgyn neu wrthrychau eraill sy’n disgyn ladd neu anafu gweithwyr ar safle neu aelodau’r cyhoedd yn ddifrifol.
Cadarnhewch:
• fod arferion diogel yn cael eu mabwysiadu ar gyfer cael at goed a gweithio gyda nhw
• bod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn gweithwyr ac aelodau’r cyhoedd rhag risg gwrthrychau sy’n disgyn
• bod parthau gollwng yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parth
• bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
• bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr ar safle yn gadarn ac yn effeithiol
Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r coed y byddwch yn gweithio arnynt, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
- cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys yn berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
- paratoi’r safle trwy waredu malurion a rhwystrau yn ffordd yr ardal weithio a sefydlu llwybrau dianc
- dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
- cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sy’n ofynnol yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo angen, a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a chyfarpar ar y safle
- gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
- lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
- gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
Clirio coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt
- cynllunio dull systematig ar gyfer y gwaith o glirio coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt i sicrhau diogelwch gweithwyr
- paratoi’r cyffion trwy waredu canghennau, llystyfiant dringo, prysg a rhwystrau eraill, lle bo angen, yn unol â chanllawiau presennol y diwydiant
- nodi tyniant a chywasgedd mewn cyffion ac addasu dulliau gweithio i gyfrif am hyn, yn unol â chanllawiau presennol y diwydiant, gan ddefnyddio cyfarpar atal addas, lle bo angen
- dewis a defnyddio cyfarpar i atal y goeden sy’n briodol i faint a chyflwr y goeden a phlât y gwreiddyn
- nodi pren marw, canghennau rhydd a brigau tor mewn coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt ac sydd i’w torri, ac mewn coed cyfagos sy’n sefyll
- ystyried effaith clefyd ar y broses a chael cyngor lle nad ydych yn sicr
- dewis y dull tynnu coed sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr, yn berthnasol i faint, ffurf a chyflwr y goeden
- paratoi coed sydd wedi disgyn i goed eraill trwy waredu rhan o’r colfach neu’r cyfan ohono, fel y bo’n briodol i faint a chyflwr y goeden, a’r dull tynnu i lawr
- tynnu coed sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr gan ddefnyddio offer neu gyfarpar priodol i faint a chyflwr y goeden a’r dull tynnu i lawr
- torri platiau’r gwreiddiau o gyffion sydd yn fwy ac yn llai na diamedr y bar llithro gan ddefnyddio’r toriadau cywasgedd a thyniant priodol, yn unol â chanllawiau presennol y diwydiant, gan ddefnyddio cyfarpar atal addas, lle bo angen
- gwirio bod y coed a phlatiau’r gwreiddio mewn safle a chyflwr diogel a phriodol i alluogi’r gweithredoedd dilynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion a chyfrifoldebau craidd
- sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r coed y byddwch yn gweithio arnynt, a phwysigrwydd asesiad risg penodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, pellteroedd parthau risg a llwybrau dianc
- beth ddylid ei ystyried wrth sefydlu parthau risg a dewis a chlirio llwybrau dianc addas
- pwysigrwydd rheoli parthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
- gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
- yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
- technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
- pwysigrwydd gwirio am arwyddion o glefydau, diffygion a dirywiad mewn coed rydych chi’n gweithio arnynt a ble i gael cyngor proffesiynol pan fydd angen
- pwysigrwydd mesurau bioddiogelwch a sut i’w cymhwyso
- effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
- y problemau a all godi wrth glirio coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt gan ddefnyddio llif gadwyn, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
- cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Clirio coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt
- sut i gynllunio dull systematig ar gyfer y gwaith o glirio coed sydd wedi’u dadwreiddio a’u chwythu gan y gwynt i sicrhau diogelwch gweithwyr ar y safle a’r ffactorau y mae angen eu hystyried
- sut i adnabod sefyllfaoedd lle nad yw cwympo â llif gadwyn yn briodol ac y byddai’n fwy diogel defnyddio dull mecanyddol o glirio coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt
- peryglon gweithio ar goed sydd wedi’u difrodi, wedi dirywio neu sydd â chlefyd, a’r rhagofalon y mae’n rhaid eu cymryd
- pwysigrwydd dilyn canllawiau presennol y diwydiant wrth glirio coed sydd wedi’u chwythu gan y gwynt
- sut i gyflawni’r gweithgareddau sy’n ofynnol i glirio coed sydd wedi’u dadwreiddio ac wedi’u chwythu gan y gwynt
- sut i nodi tyniant a chywasgedd ar y brig, y gwaelod a’r ochr mewn pren
- y risgiau sydd ynghlwm a’r rhagofalon i’w cymryd gan weithredwr y llif gadwyn wrth dorri pren o dan dyniant uchel
- y technegau a ddefnyddir i dynnu coed o wahanol bwysau a diamedrau sydd wedi disgyn ar goed eraill i lawr
- sut i adnabod pan fydd angen winsh neu gyfarpar atal arall ac effaith hyn ar y broses gwympo
- y gwahanol fathau o winsh a chyfarpar atal arall a sut i ddewis, gosod a defnyddio winshis a chyfarpar atodol i gyflawni gwahanol dasgau yn ddiogel
- y peryglon a allai ddigwydd wrth ddefnyddio cyfarpar atal
- y sefyllfaoedd pan allai arolygwr gael ei ddefnyddio a dulliau cyfathrebu â gweithredwr y llif gadwyn
- dulliau torri coed sydd wedi’u dadwreiddio, y mae eu diamedr yn fwy ac yn llai na diamedr hyd y bar llithro
- sut i wneud platiau gwreiddiau yn ddiogel ar ôl iddynt dorri
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Sut i gyflawni’r canlynol:
- torri pren o dan dyniant uchel
- defnyddio winsh neu gyfarpar atal arall ar gyfer tyniant ochr neu i atal pren rhag rholio/symud ar lethr
- defnyddio winshis i atal platiau gwreiddiau sy’n hongian dros safle torri
- dewis a defnyddio pwyntiau angori sy’n ddigonol i’r llwyth a ychwanegir
- torri “boncyff hir” wrth dorri cyffion claddedig neu blatiau gwreiddiau ansefydlog
- defnyddio toriadau “V” neu ddulliau eraill i dorri pren o dan dyniant uchel iawn
- torri coed sydd wedi’u dadwreiddio neu eu chwythu gan y gwynt yn rhannol
- cwympo coed sydd wedi torri sydd â’r brig ynghlwm neu goed sydd wedi torri sydd heb frig
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar atodol sy’n gydnaws â winshis:
- ceblau
- strapiau
- ceblau dolen
- cyplynnau
- cipflociau pwli
- dyfeisiau eraill fel clampiau estyniadau cebl
Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.
Mae offer llaw yn cynnwys:
- gefelau codi
- polion bachog
- bachau troi
- strapiau troi
- polion tynnu i lawr
- winshis llaw bach
Risgiau iechyd a diogelwch o ddefnyddio llif gadwyn:
- cael eich torri gan y llif
- cael eich taro neu’ch gwasgu gan bren sy’n symud
- colli’ch clyw oherwydd sŵn
- cryndod y llaw a’r fraich (HAV)
- mygdarth gwacau o lifoedd cadwyn sy’n rhedeg ar betrol
- amlygiad i olewau
- amlygiad i lwch
- effeithiau blinder/syched ar y gallu i weithio’n ddiogel
- cyfarpar neu weithgareddau gwaith eraill ar y safle
Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:
- lluniadau
- cynlluniau
- amserlenni
- manylebau
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
- canllawiau’r gwneuthurwr
- gofynion y cwsmer
- gofynion sicrhau ansawdd
- safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
- cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
- canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed. Fel arfer, bydd y parth yn cyfateb i ddwywaith uchder y goeden sydd i’w chwympo, er bod angen ystyried ffactorau eraill hefyd.
System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.