Cwympo coed canolig gan ddefnyddio cyfarpar wedi’i reoli â llaw

URN: LANTw10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r holl weithgareddau a all fod yn ofynnol i gwympo coed canolig, gan ddefnyddio cyfarpar wedi’i reoli â llaw i fodloni gofynion cwympo, ynghyd â’r gofynion a’r cyfrifoldebau craidd.

Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • cwympo coed canolig gan ddefnyddio llif gadwyn – diffinnir bod coeden ganolig rhwng 380mm (15in) a 760mm (30in) ar uchder cwympo.
  • tynnu coed canolig sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr
  • cwympo coed canolig â chymorth

Gallech fod yn gweithio yn unol â manyleb a roddwyd sy’n diffinio’r dulliau i’w defnyddio, ond bydd disgwyl i chi benderfynu sut i gyflawni’r dulliau hyn ar y safle.

Bydd y dechneg a’r cyfarpar cwympo sy’n ofynnol yn briodol i rywogaeth y goeden, ei maint, ei phwysau, ei chyflwr, sut mae’n gwyro a’i safle, ynghyd â chyfrif am amodau’r dirwedd a’r tywydd.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyfyngiadau sy’n effeithio ar y gwaith, e.e. safleoedd dynodedig, presenoldeb strwythurau rhestredig, bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol neu rywogaethau gwarchodedig, ac ati.

Mae’r safon hon yn ymwneud â choed conifferaidd a llydanddail, coed sy’n unionsyth, coed sydd â’u pwysau am ymlaen, coed sydd â’u pwysau am yn ôl, cyfeiriad cwympo a roddwyd, ynghyd â choed sydd wedi disgyn i goed eraill.

Mae’n ofynnol i chi osgoi neu leihau difrod i, neu darfu ar, yr ardal gyfagos, gan gynnwys coed, llystyfiant arall, bywyd gwyllt a chynefinoedd, neu i unrhyw strwythurau, ffensys, llwybrau, arwyddion, ffosydd/dyfrffyrdd neu ddraeniau, ac i sicrhau nad yw eich gwaith yn peri risg i ddefnyddwyr eraill y safle.

Wrth weithio gyda chyfarpar a pheiriannau, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a dylech ddal ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i bob gwaith coed gael ei gyflawni gan berson hyfforddedig a chymwys, sydd â phrofiad perthnasol o’r dasg gwympo a gyflawnir ac sy’n cael ei oruchwylio’n briodol, lle bo angen. Dylid caniatáu amser i atgyfnerthu dysgu ac ennill profiad rhwng defnyddio gwahanol dechnegau cwympo a rhwng cwympo coed o wahanol faint.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, codau ymarfer, safonau’r diwydiant a chanllawiau perthnasol.

Gall disgyn o goed neu gael eich taro gan goed, rhannau o goed, canghennau sy’n disgyn neu wrthrychau eraill sy’n disgyn ladd neu anafu gweithwyr ar safle neu aelodau’r cyhoedd yn ddifrifol.

Cadarnhewch:

  • fod gosodiad a threfn yr ardal weithio yn amddiffyn gweithwyr ac aelodau’r cyhoedd rhag risg gwrthrychau sy’n disgyn
  • bod parthau risg yn cael eu sefydlu a bod pobl yn cael eu hatal rhag mynediad i’r parthau
  • bod parthau risg wedi’u marcio, eu harwyddo a’u gwarchod yn glir, lle y bo’n ymarferol yn rhesymol
  • bod dulliau cyfathrebu rhwng yr holl weithwyr ar safle yn gadarn ac yn effeithiol

Gall fod angen adnoddau ychwanegol ar safle, fel arolygwyr, i helpu rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig petai rhywun o bosibl yn cael mynediad i’r safle gweithio.

Mae canllawiau’r diwydiant ar gwympo coed a’r gofynion am atgyfnerthu dysgu ar gael ar wefan FISA. https://ukfisa.com/.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. cael y wybodaeth berthnasol i gyflawni’r gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
2. gwirio unrhyw ofynion statudol a allai fod ar waith a all atal neu osod amodau ar y gwaith i’w gyflawni a chadarnhau bod pob caniatâd a thrwydded ofynnol wedi’i sicrhau
3. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
4. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni, cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
5. cadarnhau bod pob gwasanaeth tanddaearol ac uwchben fel nwy, dŵr, carthffosiaeth, trydan a chyfathrebu wedi’u nodi cyn bod y cwympo’n dechrau
6. cadarnhau bod camau rheoli digonol wedi’u rhoi ar waith, bod parthau risg a llwybrau dianc wedi’u sefydlu a’u marcio, a bod cynllunio a gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle wedi’u sefydlu a’u cofnodi
7. dewis y dulliau gweithio mwyaf diogel, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol lle bo hynny’n fwy diogel, yn unol â’r risgiau a aseswyd a gweithdrefnau sefydliadol, a chynllunio gwaith yn unol â hynny
8. cynllunio gwaith i leihau difrod andwyol a llygredd gwasgaredig
9. cadarnhau bod hyfforddiant, profiad ac ardystiad perthnasol yn eu lle i ymgymryd â’r gwaith sydd i’w gyflawni, a chydnabod y cyfyngiadau ar eich cymhwysedd chi
10. defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, yn unol â chanllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol
11. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
12. dewis, paratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r llifoedd cadwyn a’r offer a chyfarpar arall sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
13. cadarnhau bod yr holl gyfarpar wedi cael ei wirio, ei brofi, lle bo’r angen a’i fod yn addas at ei ddiben, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
14. cynnal diogelwch a diogeledd offer, cyfarpar a thanwydd (lle bo’r angen) ar y safle
15. gwneud y gwaith gofynnol yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd a gweithdrefnau sefydliadol
16. lleihau difrod i’r safle a’r ardal gyfagos, neu darfu arnynt, wrth wneud y gwaith hwn a chadarnhau bod y safle’n cael ei adael mewn cyflwr diogel a thaclus
17. gweithredu agweddau arfer gorau at gynaliadwyedd sy’n briodol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
18. delio’n effeithiol â phroblemau sy’n codi o fewn cwmpas a chyfyngiadau eich cyfrifoldebau eich hun a rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
19. cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Cwympo coed canolig
1. nodi coed i’w cwympo i benderfynu ar y gofynion cwympo yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarparwyd
2. dewis dull cwympo cydnabyddedig a phenderfynu ar y cyfeiriad cwympo yn briodol i rywogaeth y goeden, ei maint, ei huchder, ei phwysau, ei chyflwr, ei gogwydd a’i safle ac yn unol â chanfyddiadau’r asesiad risg, ynghyd â chyfrif am y dirwedd ac amodau’r tywydd
3. ystyried effaith clefydau, diffygion a dirywiad ar y broses gwympo a chael cyngor lle nad ydych yn sicr
4. nodi coed y gallai eu cwympo fod yn anodd neu’n beryglus a’r tu hwnt i gyfyngiadau eich gallu, a rhoi gwybod am y rhain yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
5. paratoi’r safle ar gyfer cwympo trwy wirio bod yr ardal weithio uniongyrchol wrth fôn y goeden yn glir, gan waredu rhwystrau yng nghyfeiriad y cwympo a gwirio bod y llwybr dianc yn glir
6. paratoi’r goeden i’w chwympo, yn briodol i faint y goeden, ei chyflwr a chanfyddiadau’r asesiad risg
7. cymryd y rhagofalon priodol wrth gwympo mewn ardaloedd gerllaw rheilffyrdd, ffyrdd, llwybrau ac ardaloedd â mynediad i’r cyhoedd, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
8. gwneud gwiriadau cyn-cychwyn a gosodiad y llif gadwyn i’w defnyddio
9. cwympo coed canolig yn ddiogel mewn cyfeiriad y penderfynwyd arno ymlaen llaw, gan ddefnyddio dulliau cwympo cydnabyddedig, a chymhorthion cwympo, lle bo angen, fel y bo’n briodol i faint, ffurf, wynebwedd a chyflwr y goeden, a’r dechneg gwympo a ddewiswyd, yn unol â gofynion cwympo a gweithdrefnau sefydliadol
10. gwirio bod safle a chyflwr y goeden sydd wedi’i chwympo yn ddiogel ac yn addas ar gyfer gweithrediadau dilynol

Tynnu coed canolig sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr
1. dewis y dull tynnu i lawr sy’n berthnasol i faint, ffurf a chyflwr y goeden
2. paratoi coed trwy dynnu rhan neu’r cyfan o’r colfach, fel y bo’n briodol i faint y goeden, ei chyflwr a’r dull tynnu i lawr
3. ffurfweddu cyfarpar tynnu i lawr yn ddiogel ac yn effeithiol, lle bo gofyn
4. tynnu coed canolig sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr gan ddefnyddio offer neu gyfarpar sy’n briodol i faint y goeden, ei chyflwr a’r dull tynnu i lawr

Cwympo coed canolig â chymorth
1. amcangyfrif y llwyth a dewis cyfarpar tynnu priodol ar gyfer y llwyth
2. dewis cyfeiriad cwympo yn briodol i ffurf y goeden ac amodau’r safle
3. gosod y cyfarpar tynnu yn unol â’r asesiad risg penodol i sicrhau diogelwch yr holl weithredwyr sy’n ymwneud â’r gwaith, yn unol â chanllawiau’r diwydiant
4. dewis a defnyddio pwyntiau angori addas, sy’n ddigonol i’r llwyth disgwyliedig, fel y bo angen
5. dewis a gosod pwyntiau clymu digonol o fewn y goeden i’w chwympo i roi digon o sicrwydd a phwysau addas i’r system dynnu
6. sefydlu system gyfathrebu glir rhwng gweithredwr y llif gadwyn a gweithredwr y system dynnu a chadarnhau eu bod wedi cytuno ar signalau cyn dechrau’r broses gwympo a winsio
7. lle y defnyddir arolygwr/arwyddwr, cadarnhau eu bod wedi’u hyfforddi a’u bod yn gymwys i gyflawni’r dasg a’u bod y tu allan i’r parth risg diffiniedig
8. sicrhau tensiwn y system dynnu ymlaen llaw i sicrhau bod pob rhan yn gweithio
9. gwneud toriadau cwympo fel y bo’n briodol i’r goeden a’r bar llithro, gan ddefnyddio offer cymorth (lletemau), fel y bo’n briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion a chyfrifoldebau craidd
1. sut i nodi a chael at wybodaeth sy’n berthnasol i’r gwaith gofynnol
2. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith i’w wneud a phwysigrwydd asesiad risg penodol i safle a chamau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
3. pwysigrwydd gwirio am bresenoldeb gwasanaethau tanddaearol ac uwchben, fel nwy, dŵr, carthffosiaeth, trydan a chyfathrebu cyn bod y cwympo’n dechrau, sut gellir gwneud hyn a’r camau i’w cymryd os byddant yn cael eu darganfod
4. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
5. y cynllunio a’r gweithdrefnau brys sy’n berthnasol i’r safle, canllawiau’r diwydiant ar barthau risg a chliriadau diogel rhag dargludyddion trydan uwchben, a beth i’w wneud os bydd cysylltiad â llinellau pŵer
6. pwysigrwydd rheoli parthau risg, y defnydd cywir o arwyddion rhybudd a rhwystrau i hysbysu ac amddiffyn pobl eraill tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo, a’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli traffig dros dro, lle bydd angen
7. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer, safonau a chanllawiau’r diwydiant, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sefydliadol, moeseg busnes a moeseg proffesiynol presennol sy’n berthnasol i’ch maes gwaith ac y mae’n rhaid i chi gadw atynt
8. gofynion cyfreithiol, y diwydiant a sefydliadol am hyfforddiant, profiad ac ardystiad i wneud y gweithgareddau gwaith gofynnol a phwysigrwydd cydnabod eich cyfyngiadau a pheidio ag ymgymryd â gwaith sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
9. yr offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i baratoi, defnyddio, gwneud gwaith cynnal a chadw’r gweithredwr a storio’r rhain yn ddiogel, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gweithdrefnau sefydliadol
10. y gofynion cyfreithiol am wirio a phrofi cyfarpar a pham mae’n bwysig cynnal a chadw’r holl gyfarpar i safon uchel
11. technoleg a ddefnyddir yn eich maes gwaith a sut i’w defnyddio
12. pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â gweithwyr eraill ac unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r gwaith, neu y mae’r gwaith yn effeithio arnynt, a’r dulliau cyfathrebu y dylid eu defnyddio
13. effaith bosibl y gwaith ar y safle a’r ardal gyfagos a sut gellir lleihau’r effaith hon
14. eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
15. pwysigrwydd gwirio bod y gwaith sydd wedi’i gwblhau yn bodloni gofynion, yn unol â’r wybodaeth a ddarperir
16. y problemau a all godi wrth gwympo coed, y camau i’w cymryd a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhoi gwybod am broblemau na ellir eu datrys
17. cwmpas a chyfyngiadau eich cymhwysedd, eich cyfrifoldebau a’ch atebolrwydd
18. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwympo coed canolig
1. sut i nodi pa goed y mae angen eu cwympo yn ôl rhywogaeth, lleoliad, cyflwr a marciau
2. nodweddion pren y coed sy’n cael eu cwympo a sut gall hyn effeithio ar eu hymateb
3. sut i benderfynu ar y dull cwympo a’r cyfeiriad cwympo ar gyfer gwahanol goed a beth mae angen ei ystyried
4. goblygiadau tirwedd, amodau’r tir, y tymor, y tywydd a chyflwr y coed i gwympo coed canolig
5. sut i adnabod arwyddion clefyd a dirywiad mewn coed, y risgiau y gall hyn ei achosi a sut i addasu dulliau cwympo yn unol â hynny
6. sut i adnabod pan fydd coed yn anodd eu cwympo a bydd angen technegau arbenigol, a’r camau i’w cymryd
7. manteision gosod a defnyddio meinciau cwympo naturiol, matiau tocion a chymorth tebyg cyn cwympo
8. y technegau sy’n ofynnol i gwympo gwahanol goed canolig, gan gynnwys y dulliau cwympo cydnabyddedig, gan gynnwys defnyddio toriadau tyllu a chymhorthion cwympo, lle bo angen, fel y bo’n briodol i ffurf y goeden, ei hwynebwedd a’i chyflwr
9. sut a phryd i ddefnyddio cyfarpar ychwanegol i gynorthwyo â chwympo coed canolig a’r camau diogelu ychwanegol sy’n ofynnol
10. y camau diogelu ychwanegol i’w defnyddio wrth gwympo gerllaw rheilffyrdd, ffyrdd, llwybrau ac ardaloedd â mynediad i’r cyhoedd
11. y mannau peryglus wrth gwympo coed a phwysigrwydd gwylio’r goeden a’r ardal weithio trwy gydol y broses

Tynnu coed canolig sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr
1. pwysigrwydd gwylio’r goeden sydd wedi disgyn i goeden arall a’r ardal weithio trwy gydol y broses tynnu i lawr
2. y dulliau tynnu i lawr ar gyfer amrywiaeth o goed â phwysau a diamedrau canolig, gan ddefnyddio’r offer llaw priodol
3. y dulliau tynnu i lawr ar gyfer coed canolig sydd wedi disgyn i goed eraill gan ddefnyddio winshis neu ddulliau â llaw neu ddulliau mecanyddol eraill
4. yr amrywiol fathau o winshis a chyfarpar cyfatebol a ddefnyddir i dynnu i lawr a’r dull gweithredu, gan gynnwys winshis llaw a winshis pŵer
5. y mannau peryglus yn gysylltiedig â’r coed sydd wedi disgyn i goed eraill sy’n cael eu tynnu i lawr
6. defnyddio offer llaw, rhaffau tynnu a winshis i gynorthwyo â thocio/torri canghennau mawr oddi ar goed
7. y camau gweithredu priodol i’w cymryd os na ellir tynnu coeden sydd wedi disgyn i goeden arall i lawr

Cwympo coed canolig â chymorth
1. y cyfarpar ychwanegol sy’n ofynnol i gynorthwyo â chwympo coed canolig a sut caiff gwahanol fathau o offer tynnu eu cymhwyso a’u cyfyngiadau
2. sut i amcangyfrif llwyth y goeden a phenderfynu ar y cyfarpar tynnu y mae ei angen
3. y technegau a ddefnyddir i osod system dynnu i gwympo coeden â chymorth yn ddiogel, sy’n ddigonol ar gyfer llwyth disgwyliedig y goeden sy’n cael ei chwympo
4. pwysigrwydd cyfathrebu clir wrth gyflawni gweithrediadau cwympo â chymorth a’r dulliau cyfathrebu sydd ar gael pan na ellir cynnal llinell olwg glir
5. pwysigrwydd cytuno ar y signalau i’w defnyddio cyn dechrau ar y broses gwympo a winsio
6. yr angen am dynnu yn erbyn wrth weithredu mewn safleoedd cyfyngedig neu ar safleoedd â llethrau serth
7. yr angen am ddewis cyfeiriad cwympo yn gywir a phwysigrwydd defnyddio technegau a thoriadau cwympo priodol
8. budd cynnwys “cynheilydd cefn” (back-hold) yn y toriad cwympo ar gyfer gweithredoedd cwympo â chymorth
9. sut i asesu gofynion dal colfach gwahanol rywogaethau coed
10. sut i wneud toriadau i gynhyrchu dimensiynau colfach i fodloni gofynion gwahanol rywogaethau, cyflwr ac wynebwedd coed


Cwmpas/ystod

Gallai gweithgareddau gynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • cwympo coed canolig gan ddefnyddio llif gadwyn – diffinnir bod coeden ganolig rhwng 380mm (15in) a 760mm (30in) ar uchder cwympo.
  • tynnu coed canolig sydd wedi disgyn i goed eraill i lawr
  • cwympo coed canolig â chymorth

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau cwympo ar gyfer amrywiol goed canolig, gan gynnwys:

  • coed unionsyth/cytbwys
  • coed sydd â’u pwysau am yn ôl
  • coed sydd â’u pwysau am ymlaen
  • coed bach heb eu brig a/neu ganghennau (polion)
  • defnyddio barrau llithro sy’n fwy na diamedr y goeden
  • coed anodd eu cwympo (e.e. oherwydd eu gwerth masnachol uchel, eu cyflwr, eu hwynebwedd neu eu safle)
  • coed sydd wedi disgyn i goed eraill

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae cyfarpar ychwanegol yn cynnwys:

  • winshis sy’n cael eu gweithredu â llaw neu yn fecanyddol
  • rhaffau tynnu
  • dyfeisiau ffrithiant
  • ceblau
  • strapiau
  • ceblau dolen
  • cyplynnau/cysylltwyr
  • cipflociau pwli
  • lletemau hydrolig neu fecanyddol
  • jaciau coed
  • dyfeisiau eraill fel clampiau estyniadau cebl

Cyfathrebu ag aelodau eraill y tîm:

  • arwyddion llaw
  • setiau radio dwyffordd
  • ffonau symudol
  • clustffonau

Arolygwr/arwyddwr – person hyfforddedig a chymwys sy’n rheoli symudiadau peiriannau, gweithdrefnau a phobl ar safle i sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu cyflawni’n ddiogel.
Rhaid sefydlu hierarchaeth o reoliadau rhwng yr arolygwr/arwyddwr a gweithredwyr eraill i sicrhau bod signalau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw yn cael eu trosglwyddo a’u deall yn glir.

Mae offer llaw yn cynnwys:

  • bar torri/lifer cwympo
  • gordd
  • gefelau codi
  • polion bachog
  • bachau troi
  • strapiau troi
  • polion tynnu i lawr
  • lletemau
  • winsh llaw gyda dolen, cebl, pwlïau a strapiau

Gallai gwybodaeth sy’n ofynnol i gyflawni gweithgareddau gwaith gynnwys:

  • lluniadau
  • cynlluniau
  • amserlenni
  • manylebau
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
  • canllawiau’r gwneuthurwr
  • gofynion y cwsmer
  • gofynion sicrhau ansawdd
  • safonau’r diwydiant (e.e. Safonau Prydeinig)
  • cyfarwyddiadau ar lafar neu yn ysgrifenedig
  • canllawiau’r diwydiant (e.e. FISA)

Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)

Parth risg – fe’i gelwir hefyd yn Barth perygl a Pharth gwahardd. Dylid sefydlu’r parth risg cyn dechrau unrhyw waith coed. Fel arfer, bydd y parth yn cyfateb i ddwywaith uchder y goeden sydd i’w chwympo, er bod angen ystyried ffactorau eraill hefyd.

Polion – coed y mae eu canghennau wedi’u torri i ffwrdd

Paratoi’r safle – gallai hyn gynnwys sefydlu mainc, mat tocion neu debyg

Paratoi’r goeden i’w chwympo – a allai gynnwys tocio canghennau is, gwaredu llystyfiant dringo, bwtresi a rhwystrau eraill

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Tirwedd:

  • arwynebau caled
  • arwynebau meddal
  • arwynebau anwastad
  • llethrau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw23; LANTw25

Galwedigaethau Perthnasol

Coedyddiaeth a choedwigaeth

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coed; cwympo; llif gadwyn