Adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau

URN: LANTw1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth, Gwaith coed
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau sy’n ofynnol i adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau, mewn cyd-destun masnachol neu hamdden. Gall hyn gynnwys adnabod coed sy’n sefyll a phren sydd wedi cwympo.

Mae adnabod rhywogaethau coed yn agwedd hollbwysig i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant coed a phren, ac mae dealltwriaeth o briodweddau coed yn hanfodol wrth weithio gyda choed.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
  2. asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w gyflawni cyn dechrau gweithio a thrwy gydol y gweithgaredd, gan wirio a chadarnhau canfyddiadau unrhyw asesiadau risg presennol
  3. cadarnhau bod y cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith i’w gyflawni yn cael ei wisgo drwy’r amser
  4. cael a defnyddio’r offer adnabod a’r ffynonellau cyfeirio perthnasol er mwyn adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau yn gywir
  5. defnyddio nodweddion coed i gynorthwyo â’u hadnabod
  6. defnyddio nodweddion yr ardal gyfagos i gynorthwyo ag adnabod
  7. adnabod rhywogaethau coed ym mhob tymor
  8. adnabod coed cyffredin sy’n cael eu tyfu yn y DU gan ddefnyddio dosbarthiad a chyfundrefn enwau botanegol
  9. adnabod sut mae priodweddau coed yn dylanwadu ar ddulliau gweithio
  10. adnabod sut mae priodweddau pren yn dylanwadu ar y defnydd ohono
  11. adnabod genera coed o samplau o bren
  12. cynnal cofnodion adnabod coed cywir yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w wneud, a phwysigrwydd asesiad risg penodol i’r safle a mesurau rheoli sy’n briodol i’ch maes gwaith
  2. y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
  3. sut i ddefnyddio offer adnabod a ffynonellau cyfeirio i helpu ag adnabod rhywogaethau coed a’u priodweddau, gan gynnwys defnyddio technoleg ddigidol
  4. sut i ddefnyddio allweddi adnabod
  5. egwyddorion sylfaen dosbarthiad a chyfundrefn enwau botanegol
  6. pwysigrwydd defnyddio’r fformatau cywir wrth ddefnyddio enwau botanegol
  7. sut gall nodweddion coed gynorthwyo â’u hadnabod
  8. sut gall nodweddion yr ardal gyfagos gynorthwyo ag adnabod
  9. sut i adnabod coed mewn tymhorau gwahanol
  10. amrywiol gylchred bywyd planhigion a choed (dosbarthiadau oedran)
  11. yr amodau tyfu sy’n cael eu ffafrio gan wahanol rywogaethau coed
  12. sut mae effeithiau priodweddau coed yn dylanwadu ar ddulliau gweithio
  13. sut mae pren gwahanol rywogaethau coed yn cael ei ddefnyddio
  14. defnydd gwahanol rywogaethau coed yn y dirwedd mewn cyd-destun masnachol neu hamdden
  15. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai nodweddion yr ardal gyfagos gynnwys:

  • lleoliad – ardal yn y DU
  • tirwedd – mynyddog, bryniog, gwastadedd, arfordirol ac ati
  • amodau’r ddaear – creigiog, sych, llaith, tir prysg, corsiog ac ati
  • nodweddion lleol – llystyfiant, gwrychoedd, caeau, coedwig, coetir, parc, gerllaw dŵr ac ati

System Weithio Ddiogel (SSoW) – dyma ddull gweithio sy’n rhoi mesurau rheoli ar waith sy’n deillio o asesiad risg, er mwyn rheoli peryglon a nodwyd, a rhennir y mesurau hyn yn bedair elfen: person diogel; cyfarpar diogel; lle diogel; ac arfer diogel.

Mae nodweddion coed yn cynnwys:

  • dail neu nodwyddau – math, siâp, maint, golwg, ansawdd a lliw
  • maint a siâp cyffredinol y goeden
  • blagur dail a brigau – trefn, siâp a golwg
  • rhisgl – golwg, ansawdd, marciau a lliw
  • cynefin tyfu
  • blodau
  • hadau a ffrwythau

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANTw76

Galwedigaethau Perthnasol

Ceidwad Parc, Ceidwad y Grîn, Coedyddiaeth a choedwigaeth, Garddwr, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

coed; rhywogaeth; dail; rhisgl; pren