Gweinyddu meddyginiaeth i gleifion milfeddygol
URN: LANRVN24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Nyrsio Milfeddygol a Gwasanaethau Ategol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gweinyddu meddyginiaeth i gleifion milfeddygol gan ddefnyddio nifer o ddulliau yn cynnwys rhai trwy’r geg, lleol, o dan y croen, mewnwythiennol a thrwy’r cyhyrau a monitro canlyniad y feddyginiaeth.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer nyrsys milfeddygol cofrestredig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. asesu’r risg posibl i’ch iechyd a’ch lles eich hun a chydweithwyr wrth weinyddu meddyginiaeth i gleifion milfeddygol
2. cadarnhau’r driniaeth sy’n ofynnol ar gyfer y claf milfeddygol gyda’r llawfeddyg milfeddygol
3. dewis a rhoi’r gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar waith ar gyfer yr ardal o’r filfeddygfa lle’r ydych yn gweithio
4. cael y feddyginiaeth filfeddygol sydd wedi ei pharatoi sy’n ofynnol gan y claf milfeddygol
5. cyfrifo’r dogn a faint o feddyginiaeth filfeddygol sy’n ofynnol ar gyfer y claf milfeddygol
6. paratoi a thrin y feddyginiaeth filfeddygol ar gyfer ei gweinyddu gan ddefnyddio’r offer perthnasol
7. asesu cyflwr y claf milfeddygol cyn gweinyddu’r feddyginiaeth
8. trin ac atal y claf milfeddygol, gan gael cymorth os oes angen
9. gweinyddu’r feddyginiaeth filfeddygol trwy’r llwybr gofynnol gan ddefnyddio technegau aseptig
10. asesu a monitro’r claf milfeddygol ar ôl gweinyddu meddyginiaeth filfeddygol
11. gwaredu deunydd gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
12. cofnodi’r driniaeth a weinyddwyd yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol
13. cydymffurfio â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
14. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, defnydd diogel o reoliadau meddyginiaethau, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i asesu'r risg i'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun a chydweithwyr wrth weinyddu meddyginiaeth filfeddygol ar gyfer anifeiliaid
- pam y mae'n bwysig bod llawfeddygon milfeddygol yn cadarnhau'r feddyginiaeth sy'n ofynnol cyn ei gweinyddu
- y gweithdrefnau rheoli heintiau ymarfer milfeddygol gofynnol ar gyfer yr ardal o'r filfeddygfa yr ydych yn gweithio ynddi
- sut i gyfrifo'r dognau meddyginiaeth filfeddygol sy'n ofynnol, yn cynnwys trosi unedau yn gyfaint
- y rhesymau dros ddefnyddio a'r dull gweithredu ar gyfer meddyginiaeth filfeddygol
- yr unedau crynodiad sy'n ofynnol wrth baratoi meddyginiaeth ar gyfer cleifion milfeddygol
- pwysigrwydd amlder a chyfradd gweinyddu
- y dulliau monitro ac arsylwi i'w defnyddio cyn, yn ystod ac ar ôl gweinyddu meddyginiaeth
- y termau canlynol mewn perthynas â ffarmacoleg; effaith therapiwtig, amsugno, hanner bywyd, sgil-effaith, adwaith, rhyngweithio a mynegai therapiwtig
- sut i baratoi a thrin meddyginiaeth ac offer ar gyfer gweinyddu yn cynnwys paratoi a gweinyddu sterilaidd
- sut i adnabod gwrtharwyddion, adweithiau i feddyginiaeth a gorddos a'r camau gofynnol i'w cymryd yn yr amgylchiadau hyn
- sut i waredu meddyginiaeth, offer a meddyginiaeth filfeddygol halogedig neu y mae ei oes wedi darfod
- sut i weinyddu amrywiaeth o feddyginiaethau milfeddygol trwy'r llwybrau gofynnol a deall y rhesymau dros y dewisiadau a wnaed
- sut i baratoi a chadw siartiau gweinyddu meddyginiaeth yn unol â gweithdrefnau ymarfer milfeddygol, yn cynnwys cyffuriau wedi eu rheoli
- y defnydd o'r system raeadru
- rolau proffesiynol a chyfrifoldebau'r aelodau amrywiol o'r tîm milfeddygol
- eich cyfrifoldebau o ran iechyd a lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldeb yn unol â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
6131
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANRVN30
Galwedigaethau Perthnasol
Nyrs milfeddygol
Cod SOC
6131
Geiriau Allweddol
milfeddygol; nyrsio