Paratoi, monitro a chynnal systemau amgylcheddol anifeiliaid sydd wedi eu rheoli’n fecanyddol

URN: LANLP12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi, monitro a chynnal systemau amgylcheddol anifeiliaid sydd wedi eu rheoli’n fecanyddol, fel y rheiny a ddefnyddir mewn diwydiannau moch a dofednod. 

Mae systemau amgylcheddol wedi eu rheoli’n fecanyddol yn rheoli pethau fel llif aer, awyru, tymheredd, golau a lleithder. Bydd y rheiny sydd yn gweithio yn y maes yma’n gyfrifol am gynnal yr amgylchedd, yn unol â gofynion cynhyrchu, a bydd ganddynt felly gyfrifoldeb sylweddol.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
   
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am baratoi, monitro a chynnal systemau amgylcheddol anifeiliaid sydd wedi eu rheoli’n fecanyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  4. gwirio a chadarnhau bod system amgylcheddol anifeiliaid a reolir yn fecanyddol yn addas ar gyfer niferoedd a math o anifeiliaid sydd yn cael eu cadw
  5. gwirio a chadarnhau bod y system amgylcheddol mewn cyflwr gweithredol da a bod unrhyw larymau, rhybuddion neu ddyfeisiadau methu diogel yn gweithio
  6. paratoi’r system amgylcheddol a chadarnhau ei fod wedi ei sefydlu’n gywir, yn unol â gofynion cynhyrchu
  7. monitro gweithrediad y system amgylcheddol a chadarnhau ei fod yn cynnal yr amodau cywir ar gyfer yr anifeiliaid
  8. gwneud addasiadau i’r system amgylcheddol, lle bo angen, mewn ymateb i newidiadau yn y tywydd allanol, lefelau stoc a ffactorau eraill 
  9. monitro cyflwr yr anifeiliaid a chymryd y camau angenrheidiol os yw eu hymddygiad neu eu cyflwr yn annormal neu’n achosi pryder
  10. cymryd y camau angenrheidiol os bydd cyfarpar yn methu yn y system amgylcheddol anifeiliaid sydd wedi ei rheoli’n fecanyddol
  11. cadarnhau bod y system amgylcheddol yn cael ei chynnal a’i chadw’n iawn, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg a pholisïau busnes
  14. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â systemau amgylcheddol anifeiliaid sydd wedi eu rheoli’n fecanyddol
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  4. yr amodau amgylcheddol sydd eu hangen ar anifeiliaid yn ystod cyfnodau gwahanol o gynhyrchu a’r dylanwad y mae amodau amgylcheddol yn ei gael ar gynhyrchu anifeiliaid
  5. y mathau gwahanol o systemau amgylcheddol anifeiliaid sydd wedi eu rheoli’n fecanyddol 
  6. y larymau, y rhubuddion a’r dyfeisiadau methu diogel a ddefnyddir gyda systemau amgylcheddol wedi eu rheoli’n fecanyddol
  7. y ffordd y dylai systemau amgylcheddol gael eu paratoi a’u sefydlu i ddarparu’r amodau amgylcheddol cywir ar gyfer gofynion cynhyrchu anifeiliaid penodol
  8. diben monitro a chofnodi amodau amgylcheddol a’r ffyrdd y gellir gwneud hyn
  9. effaith amodau amgylcheddol ar les ac ymddygiad anifeiliaid
  10. y rhesymau pam y gallai fod gwyriadau mewn amodau amgylcheddol a’r ffordd y dylid ymdrin â’r rhain
  11. y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda systemau amgylcheddol a’r camau y dylech eu cymryd i ddatrys problemau a nodwyd
  12. y ffynonellau cyngor a chymorth wrth ddefnyddio systemau amgylcheddol
  13. y gofynion ar gyfer cynnal a chadw cyfarpar yn y system amgylcheddol a phwy sy’n gyfrifol am hyn
  14. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  15. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer ac arferion busnes
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Mae systemau amgylcheddol a reolir yn fecanyddol yn rheoli:
llif aer
awyru
tymheredd
golau
lleithder

Problemau: 
gwyriadau o’r amodau amgylcheddol gorau
camweithrediad cyfarpar 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP12

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Uned, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Gweithiwr Dofednod, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

moch; dofednod; fferm; uned; deorfa; uned; dan do