Rheoli mewnforio/allforio deunydd planhigion
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio yn y sector garddwriaeth sydd yn rheoli mewnforio ac allforio deunydd planhigion, gan sicrhau bod gofynion cyfreithiol, yn cynnwys cwarantîn, yn cael eu bodloni.
At ddiben y safon hon, mae'r term 'deunydd planhigion' yn cynnwys deunydd brigdorri planhigion byw a deilliannau planhigion.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud cais am drwydded mewnforio/allforio ar gyfer deunydd planhigion
- gwneud cais am basbort planhigion
- gwneud cais am ganiatâd i gasglu deunydd planhigion o'r Casgliadau Planhigion Cenedlaethol a'r gwyllt
- sicrhau trwydded Confensiwn Masnach Rhyngwladol Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt (CITES) er mwyn symud deunydd wedi ei reoli
- cadarnhau bod deunydd planhigion yn dod o ffynonellau cyfrifol
- cynnal data er mwyn olrhain deunydd planhigion, yn amodol ar gyfyngiadau
- cadarnhau bod deunydd planhigion yn cael ei baratoi'n gywir ar gyfer ei gludo
- gweithredu proses reoli ar gyfer rhoi deunydd planhigion mewn cwarantîn
- gweithredu proses reoli ar gyfer rheoli chwyn dieithr a rhywogaethau ymledol
- gweithredu proses reoli ar gyfer rheoli plâu neu glefydau
- cadarnhau bod glanhau hadau'n cael ei wneud yn gywir
- cadarnhau bod trosglwyddo deunydd planhigion in vitro yn cael ei wneud yn briodol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
gofynion deddfwriaethol perthnasol sy'n effeithio ar ddod o hyd i blanhigion, brigdorri a dosbarthu yn cynnwys CITES, y Confensiwn Amrywiaeth Biolegol (CBD) a deddfwriaeth rhywogaethau ymledol
y goblygiadau ar gyfer symud planhigion yn unol â CBD
- sut i adnabod y planhigion sy'n cael eu cynnwys yn CITES a'r gofynion ar gyfer trwyddedau CITES
- gofynion deddfwriaethol, adran y llywodraeth a rhyngwladol ar gyfer mewnforio planhigion, iechyd planhigion a symud deunydd planhigion
- diogelwch eiddo deallusol (IP) ar gyfer amrywiadau newydd o blanhigion, nodau masnachu cofrestredig a hawliau tyfwyr planhigion mewn lleoliadau gwahanol
- systemau pasbortau planhigion
- gweithdrefnau cwarantîn ar gyfer deunydd planhigion
- rheoli a rheoleiddio chwyn dieithr, rhywogaethau wedi eu diogelu, plâu a chlefydau, bioddiogelwch a rhywogaethau planhigion ymledol.
- ffyrdd o leihau colli deunydd planhigion byw darfodus
- pwysigrwydd tynnu pridd a'r straen y gallai hyn ei achosi i'r planhigyn
- gofynion iechyd planhigion ac effaith mewnforio ac allforio
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol