Paratoi safleoedd ar gyfer adeiladu a gosod tirwedd
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi ac yn gosod safleoedd ar gyfer adeiladu a gosod tirwedd galed a meddal.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle adeiladu a gosod tirwedd a'r gwaith arfaethedig
- cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau ar gyfer adeiladu a gosod tirwedd yn cael eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw yn ddiogel ac yn gywir
- dehongli manylebau a darluniau ar gyfer adeiladu a gosod tirwedd
- sicrhau bod y dulliau gwaith yn cael eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â pharatoi safleoedd ar gyfer adeiladu a gosod tirwedd
- mesur, nodi a gosod y safle adeiladu a gosod tirwedd i fodloni'r manylebau
- ffurfio proffiliau sydd yn bodloni'r manylebau
- paratoi'r arwyneb yn unol â'r manylebau
- cadarnhau bod y safle adeiladu a gosod tirwedd yn daclus ac mewn cyflwr addas ar gyfer gwaith dilynol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'r gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod gwaredu gwastraff yn lleihau'r risg amgylcheddol yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi safleoedd ar gyfer adeiladu a gosod safleoedd
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y safonau adeiladu a'r rheoliadau ar gyfer gweithrediadau yn cynnwys newidiadau mewn lefel
- sut i ddehongli cynlluniau a manylebau tirwedd
- pwysigrwydd rhaglenni gwaith a'r graddfeydd amser cysylltiedig
- y dulliau a'r offer ar gyfer gosod ar y lefelau llorweddol a fertigol
- yr egwyddorion mathemategol a geometrig ar gyfer gosod safleoedd adeiladu a gosod tirwedd
- cyfrifiad graddiant, wyneb a grisiau
- dewis a defnyddio offer ar gyfer gweithrediadau cloddio a thirffurf yn ddiogel
- y dulliau o ganfod gwasanaethau tanddaearol
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- y problemau a allai ddigwydd wrth baratoi safleoedd ar gyfer adeiladu a gosod tirwedd a sut i ymdrin â nhw
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. paratoi safleoedd adeiladu a gosod tirwedd ar gyfer y mathau canlynol o waith dilynol:
1. adeiladu tirwedd feddal
2. adeiladu tirwedd galed
B. paratoi’r mathau canlynol o arwynebeddau yn unol â’r fanyleb:
1. gwastad
2. graddiant
3. grisiau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol