Cynnal systemau dyfrhau
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal systemau dyfrhau.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis, paratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar gyfer cynnal systemau dyfrhau yn ddiogel ac yn gywir
- archwilio ac adrodd ynghylch cyflwr systemau dyfrhau yn unol â gofynion sefydliadol
- adnabod problemau gyda systemau dyfrhau, adrodd a gwneud atgyweiriadau yn unol â’r cyfarwyddyd
- cofnodi arolygiadau yn glir ac yn gywir yn unol â’r manylebau
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i’r ardal gyfagos ac yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cynnal systemau dyfrhau
- cynnal perthynas waith gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir i leihau risg amgylcheddol yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon a risg sydd yn gysylltiedig â chynnal systemau dyfrhau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) ar gyfer y gweithgaredd
- sut i ddewis, paratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a chadw a storio offer a pheiriannau ar gyfer cynnal systemau dyfrhau yn ddiogel ac yn gywir
- yr egwyddorion sy’n sylfaenol i ddylunio ac adeiladu systemau dyfrhau
- ffynonellau dŵr posibl ar gyfer systemau dyfrhau a phwysigrwydd ansawdd dŵr
- y gofynion cynnal ar gyfer amrywiaeth o offer a systemau draenio
- gofynion dyfrhau gwahanol arwynebeddau
- amlder a thrylwyrder arolygiadau i nodi namau
- y problemau a allai effeithio ar weithrediadau a sut i’w trin yn effeithiol
- sut i drefnu atgyweiriadau pan fydd problemau’n digwydd
- pa gofnodion sydd angen eu cwblhau a’u cadw a pham
- y risg posibl i iechyd a’r amgylchedd sydd yn gysylltiedig â storio dŵr
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol cyfredol
Cwmpas/ystod
A. cynnal y mathau canlynol o systemau dyfrhau:
1. symudol
2. wedi eu gosod
B. archwilio’r mathau canlynol o arwynebedd:
1. caled/mandyllog
2. synthetig
3. cae
C. defnyddio’r deunyddiau canlynol i gynnal systemau dyfrhau:
1. UPVC
2. MDPE
3. glud
4. cyplysiadau gwasgedd
D. cynnal a chadw’r mathau canlynol o offer heb system ddyfrhau:
1. Ysgeintwyr codi
2. Pibell ac ychwanegiadau
3. Ysgeintwyr teithiol ac annibynnol
4. Falfiau
5. Tapiau
6. Cyplysiadau
7. Solenoidau
8. Blychau cadw ar gyfer dyfrhau
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Systemau dyfrhau yn cynnwys y rheiny sydd yn symudol neu wedi eu gosod.
Manylebau: yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Gallai'r arwynebeddau y darperir ar eu cyfer gan y systemau hyn gynnwys rhai: caled/mandyllog; synthetig; cae pur, cae garw.