Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
URN: LANGa23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw boblogaeth o helfilod mewn unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
Gellir disgrifio rheoli bywyd gwyllt fel ymyrraeth wedi ei thargedu i newid poblogaeth, strwythur neu ddosbarthiad rhywogaethau gwyllt. Gall gynnwys eu cadwraeth, eu hailgyflwyno neu eu trawsleoli, diogelu eu hiechyd a’u lles neu eu didol a’u difa i reoli eu niferoedd a’u heffaith ar gynefinoedd neu rywogaethau eraill.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith sydd yn gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• cyfrannu at ddatblygiad cynlluniau rheoli helfilod a bywyd gwyllt
• cyfrannu at weithredu cynlluniau rheoli helfilod a bywyd gwyllt
• goruchwylio gweithgareddau sydd â’r nod o gynnal helfilod gwyllt.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod y gweithgaredd yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cynnal asesiad cywir o nodweddion poblogaeth helfilod gwyllt
- sefydlu potensial yr ardal rheoli bywyd gwyllt i gefnogi poblogaethau helfilod gwyllt
- datblygu dealltwriaeth glir o’r holl ddylanwadau hysbys a allai effeithio ar reoli poblogaethau helfilod gwyllt
- cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt i gynyddu potensial saethu cynaliadwy poblogaethau helfilod gwyllt yn yr hirdymor
- cadarnhau bod y cynllun yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer cenedlaethol perthnasol
- cael adborth ar y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt arfaethedig a thrafod hyn gyda’r rheolwr saethu
- cyfrannu at weithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt i gyflawni’r amcanion a gynlluniwyd
- cyfrannu at gynnal y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, o fewn cyfyngiadau adnoddau a gofynion sefydliadol hysbys
- cadarnhau mai nod y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yw gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i, a lleddfu effeithiau newid hinsawdd
- gweithredu i gywiro unrhyw wyriadau o’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- parhau i gyfathrebu gyda’r bobl berthnasol i hwyluso rheoli poblogaethau helfilod gwyllt yn effeithiol
- cadw cofnodion rheoli cywir yn ymwneud â rheoli poblogaethau helfilod gwyllt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â rheoli poblogaethau helfilod gwyllt
- y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cenedlaethol perthnasol yn ymwneud â rheoli poblogaethau helfilod gwyllt
- beth yw’r potensial chwaraeon a sut gellir cyflawni potensial chwaraeon hirdymor cynaliadwy
- yr hanes o helfilod gwyllt sy’n berthnasol i’r ardal rheoli bywyd gwyllt, a phwysigrwydd hyn i ddatblygu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
- gyda phwy sydd angen ymgynghori am y cynllun arfaethedig a'r camau i’w cymryd os na ellir dod i gytundeb
- sut i asesu nodweddion stoc helfilod gwyllt
- gofynion cynefin helfilod gwyllt, a sut i asesu cynefin helfilod am ei botensial i gadw helfilod
- y dulliau arolygu a ddefnyddir i fonitro poblogaethau helfilod gwyllt
- y dulliau a ddefnyddir i bennu strwythur poblogaeth a goblygiadau strwythur poblogaeth ar botensial chwaraeon
- clefydau cyffredin helfilod, achosion posibl heintio a dulliau atal a rheoli
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoleiddio lles anifeiliaid, bioddiogelwch, rheoli clefydau a rheoli plâu
- y dulliau o reoli poblogaethau helfilod gwyllt a sut mae’r rhain yn amrywio trwy gydol y flwyddyn galendr
- y ffordd y gall adnoddau ategol gael eu defnyddio i gefnogi poblogaethau helfilod gwyllt
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar ddyrannu adnoddau ychwanegol
- ble gellir defnyddio meddyginiaeth i reoli iechyd helfilod a’r rheoliadau sydd yn rheoli hyn
- y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol mewn perthynas â monitro a rheoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Asesu nodweddion poblogaeth helfilod o ran:
• maint a strwythur
• dosbarthiad
• rhyngweithio gyda bywyd gwyllt a chynefin
Datblygu dealltwriaeth glir o dri o’r dylanwadau canlynol ar helfilod gwyllt:
• cynefin
• gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
• lles a maeth helfilod
• clefydau
• defnydd o dir
• dylanwadau dynol
Cynnal y gweithgareddau rheoli canlynol:
• monitro helfilod, bywyd gwyllt a chynefin
• rheoli plâu ac ysglyfaethwyr
• cymhwyso adnoddau ategol i gefnogi helfilod
Cynnal y defnydd o’r adnoddau canlynol, o fewn cyfyngiadau hysbys:
• pobl
• cyfarpar
• deunydd
• amser
Gweithredu yn ymwneud â thri o’r gwyriadau canlynol:
• dirywiad cynefin
• gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
• diffygion maeth helfilod
• clefydau
• prinder adnoddau
• dylanwadau dynol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyrff cynghori – er enghraifft: Ymddiriedolaeth Gwarchod Helfilod, BASC, ac ati
Gallai codau ymarfer gynnwys:
• Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Menter Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Cyfleusterau – ardaloedd o dir a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cymhwyso adnoddau
Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Gwybodaeth reoli – gwybodaeth a gesglir i gefnogi gweithgareddau, er enghraifft:
• cofnodion saethu
• cofnodion helfilod
• defnydd o adnoddau
• data wedi ei gyhoeddi
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureSco
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Rheoli plâu
• plaladdwyr
• gwenwyn llygod
• trapiau a maglau
• saethu
Potensial saethu – helfilod sydd ar gael i gefnogi gweithgareddau saethu
Adnoddau – er enghraifft: bwyd, dŵr, lloches, meddyginiaeth, ac ati
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa23
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; bywyd gwyllt; rheoli; cynllun