Rhoi proses achub pysgod ar waith

URN: LANFiM24
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd,Rheoli Digwyddiadau yn y Sector Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rhoi proses achub pysgod ar waith i dynnu pysgod rhag perygl. Mae hyn fel arfer yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio cyfuniad o electrobysgota a rhwydo i ddal a symud pysgod yn ddiogel. Ar ôl dal y pysgod, cânt eu cadw dros dro ac wedyn eu trosglwyddo i leoliad cytunedig.

Mae’r safon hefyd yn cynnwys sefydlu’r ardal bysgota a pharatoi’r cyfarpar electrobysgota ynghyd â’r rhwydi a’r unedau cadw a ddefnyddir i gadw a throsglwyddo pysgod byw.

Weithiau, mae angen gostwng lefelau dŵr i gynorthwyo ag achub pysgod.

Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i roi proses achub pysgod ar waith yn ddiogel yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith
  3. egluro’r gofynion ar gyfer y broses achub pysgod
  4. asesu amodau’r dŵr (h.y. gwelededd, llif y dŵr, dyfnder) i bennu’r dulliau dal pysgod mwyaf priodol i’w defnyddio
  5. paratoi a chynnal a chadw’r cyfarpar dal pysgod i’r safon ofynnol
  6. paratoi’r ardal bysgota i hwyluso achub pysgod a lleihau faint o bysgod sy’n dianc
  7. paratoi unedau cadw pysgod addas i dderbyn a chynnal cyflwr y pysgod sydd wedi’u dal, gan gynnwys darparu awyru, lle bo gofyn
  8. cynnal asesiad risg i bennu a yw’n ddiogel electrobysgota
  9. cadarnhau bod y trwyddedau/hawlenni perthnasol ar gyfer electrobysgota yn eu lle cyn dechrau’r gweithgaredd
  10. defnyddio cyfarpar dal pysgod yn ddiogel i ddal y pysgod, ond peidio â’u niweidio
  11. trin pysgod wedi’u dal mewn modd sy’n lleihau straen
  12. sefydlu’r pysgod yn ddiogel mewn unedau cadw pysgod
  13. monitro ac arsylwi’r pysgod a rhoi gwybod am arwyddion o straen, trafferth neu abnormaledd i’r person priodol
  14. cynnal cyfathrebu effeithiol gyda phawb sy’n ymwneud â’r broses achub pysgod
  15. rhoi gwybod am unrhyw broblemau gyda’r broses cadw pysgod i’r person priodol
  16. sterileiddio a storio cyfarpar dal pysgod ar ôl ei ddefnyddio, yn unol â gofynion y bysgodfa a gofynion cyfreithiol
  17. cynnal lefelau addas o fioddiogelwch wrth ddal pysgod

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig ag achub pysgod a defnyddio electrobysgota
  2. pwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
  3. y dulliau dal pysgod cyfreithiol perthnasol a’r gwahanol sefyllfaoedd pan y gellir eu defnyddio
  4. sut i bennu’r dull mwyaf priodol o ddal pysgod ar gyfer y pysgod sy’n cael eu hachub ac amodau’r dŵr
  5. sut i baratoi a chynnal a chadw cyfarpar priodol ar gyfer dal pysgod mewn cyflwr gweithredu diogel
  6. sut dylai’r ardal gael ei pharatoi er mwyn hwyluso’r broses o achub pysgod a lleihau nifer y pysgod sy’n dianc
  7. sut i ddewis a pharatoi unedau cadw addas
  8. sut i gynnal asesiad risg i bennu a yw’n ddiogel defnyddio electrobysgota i ddal pysgod
  9. y trwyddedau/hawlenni cywir sy’n ofynnol i gyflawni electrobysgota
  10. pam mae gallu gweld yr holl bobl sy’n ymwneud â’r gweithgaredd electrobysgota yn bwysig i’r broses electrobysgota
  11. dargludedd dŵr a’i bwysigrwydd i osod a defnyddio cyfarpar electrobysgota yn effeithiol
  12. pam mae’n bwysig tynnu pysgod yn gyflym o’r maes trydan wrth ddefnyddio electrobysgota
  13. sut a phryd y gall cyfarpar dal pysgod niweidio pysgod
  14. sut i drin pysgod sydd wedi cael eu dal a’u sefydlu’n ddiogel yn yr unedau cadw
  15. pryd mae angen awyru unedau cadw a sut gellir ei ddarparu
  16. sut i adnabod arwyddion straen, trafferth neu abnormaledd mewn pysgod wedi’u dal
  17. pwysigrwydd cynnal cyfathrebu yn ystod proses achub pysgod a’r ffordd orau o wneud hyn
  18. pwysigrwydd bioddiogelwch a’i rôl o ran lleihau risgiau yn ystod proses achub ac adleoli pysgod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2028

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM24

Galwedigaethau Perthnasol

Tywysydd Pysgota, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

pysgod; pysgodfa; achub