Goruchwylio’r gwaith o osod ac atgyweirio ffensys

URN: LANFe15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ffensio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio sut i oruchwylio'r gwaith o osod ac atgyweirio ffensys.

Mae'r safon hon yn cynnwys:

  • cadarnhau manylebau ffensys
  • sicrhau bod y gosodiadau neu'r atgyweiriadau yn bodloni'r manylebau
  • monitro ansawdd gosodiadau ac atgyweiriadau ffensys.

     Mae'r safon hon yn addas ar gyfer goruchwylwyr gosod ffensys. Gellir ei chymhwyso i gefnogi unrhyw osodiad ffensys neu weithrediad atgyweirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cwblhau asesiad risg sy'n benodol i'r safle i nodi peryglon
  2. cadarnhau bod polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  3. cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo ar y safle
  4. cael manylebau ffensys a chyfathrebu'r gofynion gosod neu atgyweirio i gydweithwyr
  5. trefnu'r adnoddau sy'n ofynnol i wneud y gwaith gosod neu atgyweirio ffensys
  6. parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith
  7. cadarnhau bod offer, cyfarpar a deunyddiau'n cael eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u cadw a'u storio'n ddiogel, ac yn cael eu cadw mewn cyflwr sydd yn hawdd eu gwasanaethu
  8. gwirio bod arwyddion a rhwystrau'n cael eu sefydlu, lle bo angen, i ddiogelu pobl a chreu amgylchedd gwaith diogel
  9. goruchwylio'r prosesau gosod neu atgyweirio a sicrhau bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau a ddarparwyd 
  10. cynnal arolygiadau i ddilysu ansawdd y gwaith, yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  11. cadarnhau bod ansawdd a gwneuthuriad y deunyddiau'n cydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  12. nodi unrhyw waith sydd yn methu â bodloni gofynion y fanyleb a gwneud gwaith cywiro, yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  13. cadarnhau bod gwastraff a deunyddiau dros ben yn cael eu gwaredu'n ddiogel i leihau perygl amgylcheddol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  14. gwirio bod y gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sydd yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
  15. cwblhau cofnodion yn unol â gofynion y cwmni a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  16. cwblhau a throsglwyddo'r dogfennau gofynnol ar ddiwedd y gwaith
  17. cynnal cysylltiad da â'r cleient trwy gydol y gwaith gosod neu atgyweirio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gynnal asesiad risg a pham mae hyn yn bwysig
  2. sut i gyfathrebu polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg i'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith, a chadarnhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau
  3. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) y dylid eu gwisgo ar y safle
  4. y gofynion cyfreithiol a gofynion y safle ar gyfer defnyddio arwyddion, rhwystrau amddiffynnol a systemau rheoli traffig
  5. ble i gael y cyfarwyddiadau a'r manylebau ar gyfer y gwaith a sut dylid cyfathrebu'r rhain i'r rheiny sydd yn gwneud y gwaith
  6. yr adnoddau a'r offer sy'n ofynnol ar gyfer y math o waith gosod neu atgyweirio ffensys
  7. y deunyddiau ffensio gwahanol a'u cymwysiadau
  8. sut i baratoi'r ddaear neu'r arwyneb ar gyfer gosod ffensys
  9. sut caiff lefelau daear eu haddasu wrth baratoi'r safle a pham y gwneir hyn
  10. sut i osod, alinio, lefelu a gosod pyst
  11. sut i addasu gosodiadau pyst i roi cyfrif am fathau o ddaear a chyfuchliniau
  12. sut i ddehongli'r manylebau yn ymwneud â chydosod, gosod a sefydlu'r cydrannau ffensio
  13. pryd mae angen addasu cydrannau ffensio a sut caiff hyn ei wneud
  14. sut i densiynu ffensys ac osgoi afluniad
  15. sut i gynnal atgyweiriadau i ffensys presennol
  16. sut i oruchwylio'r gwaith o osod ac atgyweirio ffensys
  17. y ffynonellau gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gofynion ansawdd ar gyfer ffensio
  18. rôl safonau ansawdd yn i ddiwydiant ffensio
  19. sut i arolygu, dilysu ac adrodd ar ansawdd a phwysigrwydd cadarnhau bod y rheolau ansawdd yn cael eu bodloni
  20. y rhesymau pam nad yw'r gwaith, efallai, yn bodloni'r gofynion ansawdd
  21. pwysigrwydd monitro gwaith nad yw'n bodloni'r fanyleb ansawdd a roddwyd a rhoi camau cywiro ar waith
  22. pwysigrwydd gwerthuso camau cywiro
  23. y systemau rheoli ansawdd, yn cynnwys y gofyniad ar gyfer hyfforddiant staff
  24. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
  25. sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall a allai fod wedi ei effeithio
  26. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
  27. y dogfennau y dylid eu cwblhau ar ddiwedd y gwaith ac i bwy dylid eu rhoi 
  28. pwysigrwydd cynnal cyswllt da gyda chleientiaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Gallai'r cyfarwyddiadau a'r manylebau gynnwys:

  • cynlluniau/darluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • canllawiau'r cynhyrchydd
  • gofynion y cwsmer
  • safonau ansawdd e.e. BSI, CE
  • cyfarwyddiadau llafar

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFe15

Galwedigaethau Perthnasol

Ffensio

Cod SOC

5319

Geiriau Allweddol

ansawdd; archwilio; cydrannau; postyn; gosod; ffensio