Rheoli gweithrediadau busnes a marchnata mewn busnes blodeuwriaeth
URN: LANFLR11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Blodeuwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys rheoli gweithrediadau busnes a marchnata mewn busnes blodeuwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu strategaethau, dadansoddi ymchwil i’r farchnad, datblygu cynlluniau, yn ogystal â rheoli Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) staff.
Mae’r NOS hwn yn gofyn am sgiliau cyfathrebu datblygedig a’r defnydd o dechnoleg i helpu i gynnal gweithrediadau busnes a marchnata blodeuwriaeth.
Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Datblygedig gyda rhywfaint o gyfrifoldeb am staff.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Creu cynllun gweithredol ar gyfer gweithredu strategaeth gweithrediadau a marchnata ar gyfer y busnes blodeuwriaeth, yn seiliedig ar amcanion CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol)
- Cynnal dadansoddiad SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau) mewn perthynas â gweithrediadau a marchnata gweithgareddau busnes blodeuwriaeth
- Ffurfio dulliau ymchwil i’r farchnad i ddadansoddi effeithiolrwydd gweithgareddau marchnata/hyrwyddo ac arddangosiadau blodau
- Dadansoddi a nodi sylfaen cwsmeriaid y busnes blodeuwriaeth gan ddefnyddio dulliau ymchwil dadansoddi’r farchnad
- Dadansoddi canlyniadau’r ymchwil i’r farchnad i gynorthwyo’r gwaith o reoli cynllunio’r gweithrediadau’r busnes a marchnata mewn busnes blodeuwriaeth
- Cwblhau rhagolygon ariannol ar gyfer y busnes blodeuwriaeth, gan roi cyfrif am gyfnodau brig
- Datblygu busnes blodeuwriaeth sydd yn defnyddio ymchwil i’r farchnad a rhagolygon ariannol, gan ystyried y ddemograffeg leol, hunaniaeth diwylliannol, cystadleuaeth ac ystyriaethau daearyddol
- Cynllunio a rheoli amserlen ar gyfer gweithgaredd hyrwyddo a marchnata o fewn gofynion y busnes blodeuwriaeth
- Rheoli’r gwaith o weithredu’r strategaeth frandio a delweddau corfforaethol ar gyfer y busnes blodeuwriaeth
- Rheoli’r gwaith o gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau’r busnes a marchnata y busnes blodeuwriaeth, neu wedi eu heffeithio ganddo
- Rheoli cynlluniau hyfforddiant staff a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), adolygiadau perfformiad ac anghenion hyfforddiant pellach trwy ddadansoddi’r bwlch sgiliau
- Arddangos ymddygiad proffesiynol a dilyn polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, i reoli gweithrediadau’r busnes blodeuwriaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i greu cynllun gweithredol i weithredu strategaeth gweithrediadau a marchnata ar gyfer y busnes blodeuwriaeth, yn seiliedig ar amcanion CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol)
- Pwysigrwydd cynnal dadansoddiad SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau) mewn perthynas â gweithredu a marchnata gweithgareddau busnes blodeuwriaeth
- Sut i ffurfio dulliau ymchwil i’r farchnad i ddadansoddi effeithiolrwydd gweithgareddau marchnata/hyrwyddo ac arddangosfeydd blodau
- Sut i ddadansoddi a nodi sylfaen cwsmeriaid busnes blodeuwriaeth gan ddefnyddio dulliau ymchwil dadansoddi’r farchnad
- Sut i ddadansoddi canlyniadau ymchwil i’r farchnad i gynorthwyo’r gwaith o reoli cynllunio gweithrediadau’r busnes a marchnata mewn busnes blodeuwriaeth
- Sut i greu rhagolwg ariannol ar gyfer y busnes blodeuwriaeth a phwysigrwydd rhoi cyfrif am gyfnodau brig
- Sut i ddatblygu’r busnes blodeuwriaeth gan ddefnyddio ymchwil i’r farchnad a rhagolygon ariannol, gan ystyried y ddemograffeg leol, hunaniaeth ddiwylliannol, cystadleuaeth ac ystyriaethau daearyddol
- Sut i gynllunio a rheoli amserlen ar gyfer gweithgaredd hyrwyddo a marchnata o fewn gofynion busnes blodeuwriaeth
- Sut i reoli’r gwaith o weithredu strategaeth frandio a delwedd gorfforaethol ar gyfer y busnes blodeuwriaeth
- Sut i reoli’r gwaith o gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau’r busnes a marchnata y busnes blodeuwriaeth, neu wedi eu heffeithio ganddo
- Sut i reoli cynlluniau hyfforddiant staff a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), adolygiadau perfformiad ac anghenion hyfforddiant pellach trwy ddadansoddi’r bwlch sgiliau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFLR6
Galwedigaethau Perthnasol
Gwerthwr Blodau Datblygedig
Cod SOC
5443
Geiriau Allweddol
Blodau; planhigion; marchnata; gwerthwr blodau; gwerthiannau;