Gofalu am ferlod polo cyn, yn ystod ac ar ôl gemau
URN: LANEq334
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys gofalu am ferlod polo cyn, yn ystod ac ar ôl gemau. Dylech allu gosod harneisiau, dewis offer ar gyfer gemau, gosod esgidiau uchel a rhwymau, rhoi bwyd a dŵr a chynhesu'r merlod i lawr ar ôl iddynt chwarae.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn.
Bydd angen i chi adnabod peryglon ac asesu risg yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd
- trin ac atal merlod polo mewn ffordd nad yw'n peryglu lles anifeiliaid, sy'n osgoi ymddygiad sydd yn peri pryder yn ymwneud â lles ac yn cynnal iechyd a diogelwch
- dewis a gosod harneisiau ar ferlod polo, sydd yn briodol ar gyfer hyfforddi, ymarfer a chwarae
- dewis yr offer sydd ei angen cyn, yn ystod ac ar ôl gemau
- sicrhau bod merlod yn cael eu tocio a'u byrhau cyn gêm a bod eu cynffonau'n cael eu rhoi i fyny
- gosod esgidiau uchel a rhwymau yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer amddiffyn a gosod stydiau
- cynhesu merlod cyn ac yn ystod gemau a chynhesu'r merlod i lawr ar ôl iddynt chwarae er mwyn cynnal eu hiechyd a'u lles
- darparu bwyd a dwr cyn, yn ystod ac ar ôl chwarae er mwyn cynnal iechyd a lles
- cynorthwyo'r chwaraewyr trwy gydol y gêm yn cynnwys darparu newidiadau effeithiol o ran merlod a harneisiau
- ymateb yn gyflym ac yn effeithlon i unrhyw argyfwng allai godi
- sicrhau bod amgylchedd glân i'r merlod polo
- nodi unrhyw harneisiau ac offer diffygiol a chymryd y camau priodol, o fewn terfynau eich awdurdod
- monitro a chynnal eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- pwysigrwydd defnyddio technegau trin ac atal er mwyn lleihau straen ar y ceffyl a pherygl i chi eich hun ac i eraill
- effeithiau ymarfer anaerobig ar ferlod polo
- sut i baratoi merlod ac offer polo
- sut i gynhesu merlod polo a'u cynhesu i lawr
- y ffyrdd cywir o fwydo a rhoi dwr i ferlod polo cyn, yn ystod ac ar ôl chwarae
- y ffordd y mae gweithdrefnau'n amrywio yn ôl y tywydd
- sut i ofalu am ferlod polo blinedig
- gweithdrefnau'r gêm polo
- gofynion hyfforddi merlod polo
- yr offer arbenigol a ddefnyddir mewn polo
- y peryglon i geffylau, i chi eich hun ac eraill a sut y caiff y rhain eu rheoli
- sut i drin ac atal ceffylau
- sut i adnabod harneisiau ac offer diffygiol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq334
Galwedigaethau Perthnasol
Goruchwylydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffylau; ceffyl; polo; merlod