Tywys ceffyl o dan oruchwyliaeth
URN: LANEq212
Sectorau Busnes (Cyfresi): Ceffylau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â thywys ceffyl o dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn cynnwys tywys ystod o geffylau.
Byddai'r gwaith a ddisgrifir yn y safon hon yn cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda goruchwylydd am gyfrifoldebau a dulliau gweithio.
Bydd angen i chi fod yn gwbl ymwybodol o bwysigrwydd iechyd, diogelwch a lles anifeiliaid mewn cysylltiad â'r gweithgaredd hwn
Bydd angen i chi allu adnabod peryglon yn y gweithle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis a gwisgo'r dillad a'r offer amddiffynnol personol priodol ar gyfer y gweithgaredd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwirio bod yr ardal ymarfer yn addas ar gyfer tywys ystod o geffylau, o dan oruchwyliaeth
- gwirio bod y ceffyl mewn cyflwr addas i gael ei dywys
- dewis, gwirio a gosod harneisiau ac offer tywys addas ar y ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cadw rheolaeth dros y ceffyl bob amser, sy'n briodol i'r amodau
- tywys y ceffyl, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- tynnu a storio harneisiau ac offer y ceffyl yn gywir
- cynnal eich iechyd a'ch diogelwch chi ac eraill, a lles y ceffyl, yn ystod y gweithgaredd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddewis, defnyddio a gofalu am offer amddiffynnol personol
- y rhesymau dros dywys ceffyl
- y gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â thywys ceffylau
- y mathau a'r defnydd o harneisiau ac offer ceffylau yn cynnwys penwar, llinell dywys a ffrwynau ochr
- sut i wirio bod y ceffyl yn addas i gael ei dywys ac adnabod arwyddion salwch, cloffni neu anaf fyddai'n effeithio ar les y ceffyl pe byddai'n cael ei weithio
- y ffyrdd y mae amodau, fel y tywydd, yr arwyneb a cheffylau eraill yn effeithio ar y broses o dywys
- y cyfnod y dylid tywys ceffyl penodol a pham y mae hyn yn bwysig
- peryglon i geffylau, i chi eich hun ac i eraill a sut y gellir lleihau'r peryglon hyn
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer iechyd a lles anifeiliaid ac iechyd a diogelwch perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANEq212
Galwedigaethau Perthnasol
Cynorthwyydd Ceffylau
Cod SOC
Geiriau Allweddol
ceffyl; ceffylau; tywys; marchogaeth; iechyd a lles anifeiliaid; harneisiau