Ymgysylltu â’r cyhoedd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd ar safleoedd awyr agored. Mae’n rhaid i chi ddangos eich bod yn gallu cyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd sy’n ymweld â’r safle a gofalu am eu lles a’u diogelwch, yn ogystal ag amddiffyn y safle, ei gymeriad a’i gynnwys.
Dylech fod yn ymwybodol o fygythiadau, peryglon neu dor-cyfraith gwirioneddol neu bosibl, o ran rhai cyffredinol a’r rhai sy’n gysylltiedig yn benodol â’r safle rydych chi’n gweithio arno. Hefyd, mae angen i chi wybod sut i ddelio ag ymddygiad di-hid a gwrthgymdeithasol a thorri deddfwriaeth amgylcheddol yn gysylltiedig â rhywogaethau a safleoedd gwarchodedig. Gallai hyn gynnwys rhoi gwybod i aelodau’r cyhoedd am beryglon a bod yn effro i ymddygiad amheus.
Hefyd, mae’n cynnwys ymgysylltu â chymunedau lleol.
Mae’r safon hon yn addas i’r rhai sy’n gweithio mewn Cadwraeth, Rheoli Ystâd, Gwaith Ciper, Ffermio, Coedwigaeth, Garddwriaeth ac ati.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch eich hun a’ch sefydliad
- croesawu aelodau’r cyhoedd sy’n ymweld â’r safle, yn unol â pholisïau’r sefydliad
- hyrwyddo nodweddion a gwerth y safle i ymwelwyr, i ychwanegu at eu mwynhad a’u dealltwriaeth o’r safle a’i ddiben
- darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol i wahanol aelodau’r cyhoedd i fodloni eu hanghenion yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gofalu am ymwelwyr yn unol â’u hanghenion a pholisïau sefydliadol
- annog ymwelwyr i ddefnyddio’r safle yn gyfrifol, mewn ffordd sy’n gyson â’i ddiben a’i gyflwr
- annog ymwelwyr i gynnal eu diogelwch eu hunain a diogelwch unrhyw bobl, plant neu gŵn sydd gyda nhw yn ystod ymweliadau â’r safle, a rhoi gwybod iddynt am beryglon
- tynnu sylw ymwelwyr at bolisïau’r safle ar gŵn
- annog ymwelwyr i wneud y mwyaf o botensial eu hymweliad ac i fanteisio ar yr hyn sydd gan y safle i’w gynnig, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd i gynorthwyo â chadwraeth natur
- gweithredu i reoli pwysau ymwelwyr, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- nodi unrhyw ymddygiad di-hid neu wrthgymdeithasol gan aelodau’r cyhoedd a gweithredu, fel bo angen
- nodi aelodau’r cyhoedd sy’n torri’r gyfraith, casglu tystiolaeth o’r digwyddiad, heb roi eich hun mewn perygl, a gweithredu fel bo’r angen i roi gwybod amdano i’r heddlu neu i awdurdod priodol arall
- ymgysylltu â chymunedau lleol i hyrwyddo gweithgareddau sefydliadol a meithrin perthnasoedd yn unol â pholisïau’r sefydliad
- archwilio cyfleoedd i’r gymuned gymryd rhan yng ngweithgareddau’r sefydliad, yn unol â pholisïau’r sefydliad
- gwneud eich gwaith yn ddiogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesiadau risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- annog adborth ar ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfleu eich canfyddiadau i’r person perthnasol
- gwneud newidiadau i ymateb i adborth, o fewn eich awdurdod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben a gwerth cyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch eich hun a’ch sefydliad
- deddfwriaeth, codau ymarfer a gofynion perthnasol eich sefydliad ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd
- pwysigrwydd a diben ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau lleol, o fewn eich cylch gwaith
- nodweddion a gwerth y safle awyr agored – i’ch galluogi i ddarparu gwybodaeth ac ymateb i ymholiadau
- ffyrdd o ymgysylltu â’r cyhoedd, annog rhyngweithio cadarnhaol ac addasu arddulliau cyfathrebu yn ôl y gynulleidfa
- y mathau o wybodaeth, cyngor ac arweiniad sy’n ofynnol gan aelodau’r cyhoedd a sut i ddarparu hyn
- yr amrywiaeth o wahanol aelodau’r cyhoedd y gallech ddod ar eu traws yn eich lle gwaith
- pam mae gan y sefydliad bolisïau mynediad neu ardaloedd dynodedig penodol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd
- pwysigrwydd annog ymwelwyr i gynnal eu diogelwch wrth ddefnyddio’r safle, gan dynnu’u sylw at beryglon
- pwysigrwydd ymwelwyr yn rheoli cŵn i amddiffyn staff, ymwelwyr eraill, da byw, bywyd gwyllt a diogelwch y ci
- anghenion y safle a’r effeithiau y gallai ymwelwyr eu cael arno
- pwysigrwydd cydbwyso anghenion y safle ag anghenion ymwelwyr, a’r camau i’w cymryd i reoli pwysau ymwelwyr
- y ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â throseddau yn erbyn bywyd gwyllt a’r amgylchedd, a deddfwriaeth arall sy’n berthnasol i’r safle
- y bygythiadau y gallai’r cyhoedd eu peri i safleoedd a sut i ddelio ag aelodau’r cyhoedd sy’n achosi bygythiad i safleoedd neu sy’n ymddwyn yn ddi-hid neu’n wrthgymdeithasol
- sut i ddefnyddio tactegau tawelu i ddelio â gwrthdaro
- y weithdrefn i’w dilyn wrth ddelio â thor-cyfraith, gan gynnwys gofynion adrodd a phwy i adrodd iddynt
- ffyrdd o gynnal cysylltiad â chymunedau lleol a meithrin perthynas
- amrywiol lefelau ymgysylltu â chymunedau lleol a dulliau o hwyluso ymgynghoriad effeithio â’r gymuned
- pwysigrwydd hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y gymuned o rôl a diben y sefydliad fel rhan o ymgynghori a chydweithredu
- y cyfleoedd i’r gymuned gymryd rhan yng ngweithgareddau’r sefydliad a’r ffactorau amrywiol i’w hystyried wrth werthuso cyfleoedd posibl
- sut i ddatrys gwrthdaro posibl a gwirioneddol mewn buddiannau wrth weithio gyda chymunedau lleol
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn gysylltiedig â chi, eich cydweithwyr a’r cyhoedd, gan gynnwys yn gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun
- sut i gael a monitro adborth gan y cyhoedd
- cyfyngiadau eich awdurdod a’ch cymhwysedd ac at bwy i gyfeirio os bydd angen cyngor neu arweiniad arnoch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Tor-cyfraith:
- dwyn
- difrod troseddol
- cynnau tân
- defnydd anghyfreithlon ar ddatgelydd metel
- defnydd anghyfreithlon ar ddronau gan ladron i weld beth sydd ar gael ar safle
- taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon
- ymosodiad
- ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, bywyd gwyllt a phobl
- troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
- tresmasu/torri rheoliadau mynediad
- troseddau treftadaeth
- troseddau bywyd gwyllt e.e.
- tarfu
- erlid
- herwhela
- rhyddhau rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) i’r gwyllt neu ryddhau rhywogaethau planhigion neu anifeiliaid y tu hwnt i’w cynefin cynhenid
Bygythiadau:
- i’r safle a’i gynnwys
- i’r dreftadaeth naturiol ac adeiledig
- i fflora a ffawna
- i’ch iechyd, diogelwch neu ddiogeledd personol chi
- i iechyd, diogelwch a diogeledd pobl eraill
Gwerth safleoedd awyr agored:
- gwerth cymdeithasol
- gwerth economaidd
- gwerth cynhenid (aer glân/gostwng CO2, cyfalaf naturiol)
- iechyd a lles
- gwerth hanesyddol/diwylliannol
Ymwelwyr:
- oedolion
- plant a phobl ifanc
- teuluoedd
- pobl llai abl a bregus
- grwpiau diddordeb cyffredinol
- grwpiau diddordeb arbennig
- defnyddwyr hamdden
- pobl â gofynion arbennig
- pobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf