Gwerthuso a gwneud argymhellion ar bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â gwerthuso a gwneud argymhellion ar bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol. Mae polisi Rheolaeth Amgylcheddol yn ddatganiad ysgrifenedig sydd yn crynhoi bwriadau'r sefydliad yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol, ôl troed carbon, prynu moesegol, ymgysylltu cymunedol lleol a llawer mwy.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
Unrhyw un sydd yn gyfrifol am werthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol.
Mae'r safon hon yn cynnwys gwerthuso polisïau rheolaeth amgylcheddol presennol gyda'r bwriad o argymell gwelliannau.
Mae hefyd yn cynnwys gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r polisïau Rheolaeth Amgylcheddol a chyfathrebu'r rhain i uwch reolwyr neu dimau rheoli.
Dylai'r ffocws ar gyfer gwerthuso ac argymell gwelliannau i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol darddu o iechyd ac effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn deillio o broses gylchol, arloesol lle nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, a bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu, ei werthfawrogi a'i adfer mewn ffyrdd sydd yn gwella cadernid cymdeithas. Mae angen i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol ganolbwyntio ar y ffordd y gallwn ddatgysylltu o'r defnydd o adnoddau a gosod safon ar gyfer cymdeithas ddiogel a chynaliadwy.
Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Nodi'r ymrwymiadau sefydliadol mewnol ac allanol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
2. Nodi polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol all fod angen asesiad a gwerthusiad ar gyfer gwella
3. Gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau sefydliadol mewnol ac allanol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
4. Cynnal Asesiadau Effaith perthnasol ar y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol a nodwyd i nodi unrhyw effeithiau tebygol neu wirioleddol y gallai'r polisïau eu cael
5. Adnabod rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig a chael eu safbwyntiau ar gynnwys y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
6. Nodi bylchau, hepgoriadau a gwelliannau i bolisïau ac ymrwymiadau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol o ran perfformiad amgylcheddol y sefydliad
7. Paratoi argymhellion ar bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol a chadarnhau eu bod yn seiliedig ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad, yn berthnasol i ddeddfwriaeth ac yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill
8. Cadarnhau dilysrwydd eich canfyddiadau a chofnodi ar fformat addas sydd yn bodloni gofynion sefydliadol a'r technegau gorau sydd ar gael yn seiliedig ar ddulliau cydnabyddedig, deddfwriaeth berthnasol
9. Cadarnhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn cynnwys ymrwymiad i welliant parhaus ym mherfformiad amgylcheddol y sefydliad
10. Cadarnhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn darparu fframwaith ar gyfer amcanion amgylcheddol
11. Cadarnhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn berthnasol i natur a graddfa'r sefydliad a'u bod yn y fformat sydd yn ofynnol ar gyferrhanddeiliaid, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
12. Ymgysylltu a chyfathrebu'r argymhellion polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol i randdeiliaid yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
13. Nodi mesurau ar gyfer monitro a yw'r argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn gweithredu
14. Gwneud cais am adborth parhaus gan randdeiliaid ar gynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Diben polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
- Y mathau o ganllawiau ac arfer gorau yn ymwneud â chynnwys y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
- Agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
- Gofynion deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r sefydliad a pholisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
- Yr ymrwymiadau sefydliadol presennol sydd yn berthnasol i'r agweddau ac effeithiau amgylcheddol a chynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
- Y systemau, offer a'r dulliau sydd ar waith, os o gwbl, ar gyfer neilltuo a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
- Y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y mae'n ofynnol iddynt adolygu polisïau rheolaeth amgylcheddol sefydliadol presennol
- Y mathau o Asesiadau Effaith sydd yn ofynnol i werthuso ac asesu effaith y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol
- Sut i adnabod meysydd lle gellir gwella polisi ac ymrwymiadau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol
- Pwysigrwydd cadarnhau dilysrwydd y canfyddiadau a'r fformat perthnasol ar gyfer cyflwyno'r canfyddiadau i randdeiliaid perthnasol
- Sut i ddefnyddio'r canfyddiadau o adolygiad polisïau ac ymrwymiadau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r polisïau
- Sut i ymgysylltu a chyfathrebu argymhellion ar bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
- Y mathau o fesurau ar gyfer monitro a yw'r argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn gweithredu
- Pwysigrwydd gwelliant parhaus yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesiadau Effaith:
Asesu Effaith ar Gydraddoldeb (ar bobl yn ymwneud ag anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu oed)
Asesu Effaith Reoliadol
Asesu Risg
Asesu Effaith ar Iechyd a Hawliau Dynol
Asesu Effaith Amgylcheddol