Monitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd wrth weithio gyda cheffylau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys y prif weithgareddau sydd eu hangen i fonitro a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd wrth weithio gyda cheffylau.
Er mwyn cynnal iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle, mae angen i chi gymryd gofal rhesymol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac unrhyw un sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo. Mae hefyd yn ofynnol arnoch gydweithredu a gweithio gydag eraill i'w helpu i gydymffurfio â'u dyletswyddau yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r prif beryglon i iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich gweithle yn ogystal ag unrhyw fesurau rheoli neu systemau gwaith diogel sydd wedi eu sefydlu. Mae'n rhaid eich bod yn gallu dilyn y gweithdrefnau gofynnol os bydd damwain neu argyfwng.
Byddwch yn dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch penodol ac yn gallu adnabod sefyllfaoedd gwaith anniogel neu beryglon a chymryd camau i ymdrin â'r rhain neu dynnu sylw'r person cyfrifol atynt. Byddwch hefyd yn ystyried effaith eich gweithredoedd ar yr amgylchedd ac yn lleihau niwed amgylcheddol.
Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun a chadarnhau eich bod yn bodloni'r cyfrifoldebau cyfreithiol perthnasol ar gyfer darparu eich dyletswydd gofal yn unol â'r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau'r busnes.
Gall y person cyfrifol fod yn unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros y ceffyl fel y perchennog, hyfforddwr, gwas stabl neu weithiwr proffesiynol gofal carnau.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gyda cheffylau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, eich arbenigedd, eich hyfforddiant, eich cymhwysedd a'ch profiad
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar iechyd a lles anifeiliaid, Rheoliadau anifeiliaid perthnasol eraill a chodau ymarfer cysylltiedig
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau'r busnes
- dewis a gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- nodi risgiau i iechyd, diogelwch neu ddiogeledd yn y gweithle
- monitro a chynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- cael arweiniad ar fesurau i reoli risg anghyfarwydd sydd yn deillio o sefyllfaoedd gwaith nad ydynt yn rhan o'r drefn arferol
- dilyn gweithdrefnau i fabwysiadu system waith ddiogel wrth weithio ar eich pen eich hun neu mewn sefyllfa a allai fod yn fygythiad
- defnyddio offer a deunyddiau yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd ac unrhyw hyfforddiant yr ydych wedi ei gael
dilyn gweithdrefnau perthnasol yn ddiogel a heb oedi mewn argyfwng
cludo unrhyw offer a deunyddiau yn ddiogel a'u storio mewn lleoliad wedi ei gymeradwyo pan na fyddant yn cael eu defnyddio
- cynnal diogelwch a diogeledd offer a pheiriannau ar y safle
- defnyddio dulliau wedi'u cymeradwyo ar gyfer symud, codi a thrafod offer
- gwneud eich gwaith mewn ffordd sy'n lleihau niwed amgylcheddol
- cymryd camau lle mae digwyddiadau'n effeithio ar eich iechyd a'ch diogelwch eich hun ac unrhyw un arall sydd yn gysylltiedig â'r gwaith
- ymdrin â gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau, eu
cynnal a’u cadw fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion
busnes.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau proffesiynol a'r angen i gynnal cymhwysedd proffesiynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol iechyd a lles anifeiliaid, rheoliadau anifeiliaid perthnasol eraill a chodau ymarfer
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch personol a'r gweithle a'r dulliau ar gyfer cyflawni'r hyn
- y risg i iechyd a diogelwch wrth fynd at, trin a gweithio gyda cheffylau
pam y mae'n bwysig cynnal diogelwch a diogeledd offer a pheiriannau ar y safle
y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio unig a'r angen am systemau diogel o waith
risgiau anaf personol neu broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â'ch gwaith a sut y gellir lleihau'r rhain
- effeithiau mabwysiadu arferion gwaith diogel ar eich iechyd personol a'ch gyrfa
gweithdrefnau cymorth cyntaf brys sylfaenol a chofnodi damweiniau
pam y dylid hysbysu'r person cyfrifol ynghylch mesurau annigonol i reoli risg a bod angen cymryd camau cywiro
pwysigrwydd dilyn taflenni data'r cynhyrchydd a chyfarwyddiadau sefydliadol ar ddefnyddio sylweddau peryglus a'r risg o beidio â gwneud hyn
y gweithdrefnau ar gyfer mathau gwahanol o argyfyngau sy'n berthnasol i'ch gwaith gyda cheffylau
- y ffordd y gallai'r gweithdrefnau i'w dilyn ar gyfer argyfyngau penodol gael eu heffeithio gan eich lleoliad
- y mathau gwahanol o ddiffoddwyr tân a'u defnydd, sy'n berthnasol i'r ardal lle'r ydych yn gweithio
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- sut i gludo a storio offer a deunyddiau yn ddiogel, yn cynnwys nwy, lle y bo'n berthnasol
- y gofynion sefydliadol yn ymwneud â diogeledd y gweithle a'r berthynas rhwng diogeledd a diogelwch yn y gweithle
- sut a pham y dylid hysbysu ynghylch damweiniau
- y ffordd y gellir trosglwyddo clefydau i anifeiliaid eraill neu bobl
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a'r ffordd y dylid gwneud hyn
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu llenwi yn unol â chodau ymarfer â'r ddeddfwriaeth drefniadol berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ceffylau: ceffyl neu aelod arall o deulu'r ceffyl yn cynnwys asynnod, mulod, asennod a mwlsod.
Perygl: unrhyw beth all achosi niwed; gall y rhain fod yn beryglon i iechyd corfforol fel cemegau, trydan, gweithio ar ysgolion, drôr agored neu iechyd meddwl - er enghraifft, os nad yw'r achosion cyffredin o afiechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwaith e.e. galw, rheolaeth a chymorth i unigolion yn cael eu rheoli'n briodol yn y gweithle
Risg: y siawns, uchel neu isel, y gallai rhywun gael ei niweidio gan beryglon, ynghyd ag arwydd ynghylch pa mor ddifrifol y gallai'r niwed fod.
Asesiad risg: fel rhan o'r gwaith o reoli iechyd a diogelwch eich busnes, mae'n rhaid i chi reoli'r risgiau yn eich gweithle. I wneud hyn bydd angen i chi feddwl beth allai achosi niwed i bobl a phenderfynu a ydych yn cymryd camau rhesymol i atal y niwed hwnnw.