Cynnal hylendid a bioddiogelwch safle
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â lleihau’r potensial i organebau pathogenaidd neu Rywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) fynd i safle neu adael safle trwy gynnal hylendid a bioddiogelwch safle.
Mae trefniadau hylendid a bioddiogelwch effeithiol yn hanfodol ar gyfer ffrwyno lledaeniad clefydau a rhywogaethau estron goresgynnol yn y sector tir. Bydd yr union drefniadau ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch yn dibynnu ar y gweithgareddau a wneir ar safle. Mae pawb sy’n mynd i mewn i’r safle yn gyfrifol am gynnal bioddiogelwch a dylech annog pobl eraill, yn enwedig ymwelwyr, contractwyr a chwsmeriaid, i ddilyn gweithdrefnau sefydledig.
Wrth weithio gyda pheiriannau a chyfarpar neu gemegion, mae’n rhaid eich bod wedi’ch hyfforddi’n briodol a rhaid bod gennych ardystiad cyfredol, lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith, mae’n rhaid i chi ystyried unrhyw effaith y gall ei chael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas i bobl sy’n gweithio mewn sefyllfa lle mae’n rhaid cynnal hylendid a bioddiogelwch safle.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch pobl eraill bob amser, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gweithgarwch sydd i’w gyflawni
- gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) addas
- cynnal y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir ar gyfer y safle, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- cynnal mesurau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer personél, cyfarpar a cherbydau
- gwirio bod ymwelwyr a gyrwyr cerbydau yn defnyddio’r gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch cywir wrth gyrraedd ac ymadael â’r safle
- dilyn y mesurau glanhau a hylendid cywir yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- defnyddio cyfarpar glanhau sy’n addas ar gyfer y gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol
- defnyddio cemegion yn unol â manylebau’r gwneuthurwr o ran cyfraddau gwanedu, defnydd a rhagofalon iechyd a diogelwch
- storio’r holl gemegion yn ddiogel ac yn gywir ar ôl eu defnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- defnyddio mesurau hylendid a bioddiogelwch i osgoi halogi a thraws-halogi ac i leihau lledaeniad pan fyddwch ar safle
- defnyddio cwarantin ac ynysu i leihau risg cyflwyno clefydau a’u lledaeniad
- adnabod pryderon am hylendid a bioddiogelwch a chymryd y camau gofynnol
- defnyddio dulliau priodol i gyfathrebu’n gyson â chydweithwyr ac eraill am hylendid a bioamrywiaeth
- dilyn canllawiau’r diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol i atal neu leihau effaith mesurau hylendid a bioamrywiaeth ar yr amgylchedd
- delio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben o fesurau hylendid a bioddiogelwch yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio’r holl ddogfennaeth berthnasol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r safle a’r gwaith sydd i’w wneud
- y gweithdrefnau iechyd a diogelwch a’r Systemau Gweithio Diogel perthnasol
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n addas ar gyfer y gweithgaredd
- pam mae hylendid a bioddiogelwch yn bwysig i’ch diwydiant a’ch sefydliad a chanlyniadau peidio â chynnal hylendid a bioddiogelwch effeithiol
- codau ymarfer y diwydiant a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch
- pwysigrwydd bod pawb yn dilyn gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch
- y mesurau hylendid personol priodol yn y gwaith, a chanlyniadau peidio â’u dilyn
- y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch ar gyfer ymwelwyr a cherbydau sy’n cyrraedd ac yn ymadael â’r safle
- dulliau glanhau a diheintio’r ardal waith a’r cyfarpar, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- y mathau o gyfarpar y mae eu hangen i gynnal hylendid a bioddiogelwch safle a sut i ddefnyddio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- trin, storio a defnyddio cemegion yn gywir ac yn ddiogel, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau ac effaith bosibl defnyddio cemegion ar yr amgylchedd
- yr arwyddion rhybudd y mae eu hangen a’u lleoliad a’u defnydd cywir
- sut mae organebau pathogenaidd a rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu lledaenu, a’r canlyniadau posibl i gnydau, anifeiliaid, iechyd pobl a’r amgylchedd
- y defnydd o gwarantin i leihau risg cyflwyno clefydau ac ynysu i leihau lledaeniad clefydau
- y pryderon posibl am dor-hylendid a thor-bioddiogelwch, a’r camau i’w cymryd
- pam mae’n bwysig cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr ac eraill ynghylch hylendid a bioddiogelwch
- yr effaith bosibl y gallai mesurau hylendid a bioddiogelwch ei chael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd o allu lleihau’r rhain
- y dulliau cywir o ddelio â deunydd gwastraff a deunydd dros ben o fesurau hylendid a bioddiogelwch yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- eich cyfrifoldeb chi a chyfrifoldeb y sefydliad am amddiffyn yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau a storio dogfennaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch:
· gweithdrefn hylendid personol
· gweithdrefn lanhau
· gweithdrefn mynediad cerbydau
· gweithdrefn mynediad personél
Cyfarwyddiadau a manylebau:
· lluniadau/cynlluniau
· amserlenni
· datganiadau dull
· Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)
· canllawiau’r gwneuthurwyr
· gofynion y cwsmer
· cyfarwyddiadau ar lafar
Mae gweithdrefnau sefydliadol yn cyfeirio at weithdrefnau sydd wedi’u gosod gan y sefydliad sy’n eich cyflogi neu’r sefydliad rydych chi’n gwneud y gwaith ar ei ran (y cleient neu’r cwsmer)
Defnyddir Safle i ddisgrifio pob rhan o’r ardal waith