Cynllunio a rheoli prosiect neu ddigwyddiad diwydiannau’r tir
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio a rheoli prosiect neu ddigwyddiad diwydiannau'r tir. Mae'n cynnwys cynllunio a rheoli adnoddau a chyllidebau yn ogystal â monitro'r gwaith o gyflwyno'r prosiect neu'r digwyddiad. Mae'n cynnwys cynllunio a rheoli adnoddau a chyllidebau yn ogystal â monitro'r gwaith o gyflwyno'r prosiect neu'r digwyddiad i nodi gwelliannau yn y dyfodol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd sydd yn ystyried ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer rheolwyr prosiect nad ydynt yn arbenigol, er enghraifft, staff sy'n gyfrifol am brosiect syml i wella safle neu ddigwyddiad ymwelwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro cwmpas ac amcanion y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- egluro'r graddfeydd amser a lleoliad y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- asesu risg posibl wrth gyflwyno'r prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- nodi'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- sefydlu cyllideb ar gyfer y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- datblygu cynllun ar gyfer cynnal y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- rhoi prosesau ac adnoddau ar waith i reoli'r risgiau posibl sydd yn deillio o'r prosiect diwydiannau'r tir, ac ymdrin â chynlluniau wrth gefn
nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau'r staff, contractwyr neu'r gwirfoddolwyr sydd yn gysylltiedig â'r prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
cyfathrebu'r cynllun yn glir i bawb sydd yn gysylltiedig â chyflwyno'r prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- rheoli'r dyraniad o adnoddau i gyflawni amcanion y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- ymdrin ag unrhyw broblemau sydd yn codi gyda'r prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- cael ac adolygu adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- gwerthuso llwyddiant y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir a nodi ble gellir gwneud gwelliannau yn y dyfodol
- cadarnhau bod yr holl weithgareddau'n cael eu gwneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- cadarnhau bod y cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd egluro'r gofynion ar gyfer y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- egwyddorion, prosesau, offer a thechnegau sylfaenol rheoli prosiect
- sut i gynnal asesiad risg
- y materion deddfwriaethol, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a allai effeithio ar y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- sut i gynllunio a rheoli adnoddau
- sut i gynllunio a rheoli cyllideb
- yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun ar gyfer y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- pwysigrwydd cynllunio wrth gefn a'r hyn y dylid ei ystyried
- sut i gyfathrebu'r cynllun i'r rheiny sydd yn gysylltiedig
- sut i reoli adnoddau i gyflwyno prosiect neu ddigwyddiad diwydiannau'r tir yn llwyddiannus
- pwysigrwydd monitro cynnydd y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- sut i werthuso llwyddiant y prosiect neu'r digwyddiad diwydiannau'r tir
- eich cyfrifoldebau fel rheolwr prosiect/digwyddiad yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad
- y gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau a storio cofnodion