Lleihau a rheoli gwastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb

URN: LANCS27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol,Crofftwyr a Thyddynwyr,Rheoli Amaethyddol,Blodeuwriaeth,Gofal Anifeiliaid
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2020

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys y camau y dylid eu cymryd i leihau a rheoli gwastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb. Ar gyfer y safon hon, mae "gwastraff" yn cyfeirio at unrhyw beth sy'n cael ei greu fel is-gynnyrch neu sydd ar ôl yn dilyn proses; unrhyw beth nad yw bellach yn addas at y diben neu unrhyw beth y mae gormodedd ohono.

Mae'r safon yn hybu'r defnydd o'r hierarchaeth rheoli gwastraff er mwyn symud tuag at ddileu gwastraff (yr economi gylchol) trwy chwilio am ffyrdd o leihau, ailddefnyddio, ailgylchu neu adfer ynni o'r gwastraff ac ymdrin â'r hyn sydd ar ôl mewn ffordd sydd yn cael yr effaith leiaf negyddol ar yr amgylchedd.

Trwy ymchwilio i opsiynau rheoli gwastraff, gallwch leihau costau neu hyd yn oed ennill incwm o wastraff yn ogystal â chyfrannu at ddiogelu'r amgylchedd.

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau rheoli gwastraff perthnasol.

Mae'r safon hon ar gyfer pob gweithiwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r mathau gwahanol o wastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb
  2. archwilio a gweithredu ffyrdd y gellir lleihau gwastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb
  3. archwilio ble gellir ailddefnyddio gwastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb, a chymryd camau i roi hyn ar waith
  4. archwilio cyfleoedd i ailgylchu gwastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb, a chymryd camau i roi hyn ar waith
  5. archwilio cyfleoedd i adfer ynni a chreu tanwydd o wastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb
  6. nodi gwastraff â gofynion arbennig ar gyfer ailgylchu neu waredu
  7. nodi a gweithredu ffyrdd o reoli gwastraff y mae angen ei waredu, mewn ffordd sydd yn cael yr effaith leiaf negyddol ar yr amgylchedd
  8. cael arweiniad ar ddefnyddio a gwaredu gwastraff o fewn eich maes cyfrifoldeb, lle bo angen
  9. ymdrin, cludo a storio gwastraff ar gyfer ei waredu neu ei brosesu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion eich sefydliad
  10. cwblhau'r cofnodion neu'r dogfennau sy'n ymwneud â gwaredu gwastraff fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
  11. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd lleihau gwastraff
  2. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau gwastraff sydd yn effeithio ar eich maes cyfrifoldeb
  3. y ffyrdd y gallai gwastraff gael ei leihau o fewn eich maes cyfrifoldeb
  4. y ffyrdd y gallai gwastraff gael ei ailddefnyddio, yn eich sefydliad eich hun neu'r tu allan iddo, a sut i nodi allfeydd ar gyfer deunyddiau neu gyfarpar gwastraff
  5. y ffyrdd y gallai gwastraff gael ei ailgylchu, naill ai ar ei ffurf presennol neu ar ôl ei brosesu
  6. y ffyrdd y gellir defnyddio gwastraff i adfer ynni neu gynhyrchu biodanwydd
  7. y mathau o wastraff sydd â gofynion arbennig ar gyfer ailgylchu neu waredu
  8. y ffyrdd o ymdrin â gwastraff bioddiraddiadwy (compostio, treulio anaerobig) a'r rheoliadau ar gyfer eu defnyddio
  9. y dulliau gwaredu ar gyfer mathau gwahanol o wastraff a'u heffaith ar yr amgylchedd
  10. y ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad ynghylch sut i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu, adfer ynni neu waredu gwastraff
  11. ble i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau ailgylchu a gwaredu gwastraff yn eich lleoliad
  12. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer ymdrin â, cludo a storio mathau gwahanol o wastraff
  13. y gofynion ar gyfer trwydded amgylcheddol neu eithriad cofrestredig ar gyfer storio neu gludo gwastraff
  14. y trefniadau adrodd a chofnodi sy'n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth berthnasol a'ch sefydliad
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae'r economi gylchol yn ddewis amgen i'r economi linellol draddodiadol (gwneud, defnyddio, gwaredu) lle'r ydym yn cadw adnoddau i'w defyddio cyhyd â phosibl, yn tynnu'r gwerthu uchaf posibl allan ohonynt tra'u bod yn cael eu defnyddio, yna'n adfer ac yn adfywio cynnyrch a deunyddiau ar ddiwedd eu bywyd gwasanaethu.

Prosesu e.e. gwasgu, naddu, torri lawr yn gydrannau

Adfer ynni a chreu tanwydd o wastraff gan ddefnyddio:

  • Treulio Anaerobig (AD)
  • nwyeiddio
  • pyrolysis
  • llosgi

Gall ailddefnyddio fod ar lefel cynnyrch neu gydran e.e.

  • ailddefnyddio uniongyrchol
  • adnewyddu
  • atgyweirio ac uwchraddio
  • ailgynhyrchu

Hierarchaeth rheoli gwastraff:

  • lleihau
  • ailddefnyddio
  • ailgylchu
  • adfer
  • gwaredu

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2025

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCS27

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, Swyddog Rheoli Amgylcheddol, Swyddog Polisi Amgylcheddol

Cod SOC

3553

Geiriau Allweddol

lleihau; ailddefnyddio; ailgylchu; adfer; gwaredu; gwastraff; amgylchedd