Rheoli’r amgylchedd cynhyrchu dyfrol ar gyfer pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol ar gyfer unrhyw bysgod neu gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio. Mae'n ymwneud â datblygiad rhaglenni i fonitro a chynnal yr amgylchedd cynhyrchu mewn unedau cadw.
Mae'n gofyn bod gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol y safle ac yn unol â chodau ymarfer y diwydiant.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith iach, diogel a chadarn
cynllunio'r adnoddau sydd yn ofynnol i fonitro a chynnal yr amgylchedd cynhyrchu
- pennu paramedrau amgylcheddol y safle dyframaethu
- datblygu gweithdrefnau i fonitro a chofnodi cyflwr unedau cadw â'r amodau amgylcheddol ynddynt
- dadansoddi data i gynnal asesiad cywir o'r amgylchedd cynhyrchu dyfrol
- datblygu cynllun stocio
- rheoli rhaglenni cynnal amgylcheddol i gynnal iechyd, lles a diogeledd stoc sydd yn cael ei ffermio
- sicrhau bod systemau larwm priodol yn cael eu sefydlu i gefnogi'r amgylchedd cynhyrchu
- datblygu gweithdrefnau brys
- datblygu gweithdrefnau i reoli hylendid a bioddiogelwch
- rheoli cofnodion amgylchedd cynhyrchu dyfrol yn unol â'r gofynion cyfreithol a gweithdrefnau'r safle
- gwerthuso llwyddiant gweithgareddau i reoli'r amgylchedd cynhyrchu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer iechyd, diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â'r amgylchedd cynhyrchu
nodweddion a gallu stocio y safle dyframaethu â'r uned gadw
- y gofynion amgylcheddol y pysgod/cregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- y ffordd y mae deddfwriaeth amgylcheddol yn rheoli'r ffordd y mae dyframaethu yn defnyddio'r amgylchedd dyfrol
- y prosesau a ddefnyddir i fonitro cyflwr unedau cadw
- y data sydd yn ofynnol i fonitro'r amgylchedd dyfrol
- y ffordd y gellir gwneud addasiadau i unedau cadw i leihau effaith amodau amgylcheddol niweidiol
- unedau cadw a dwysedd stocio gorau, yn dibynnu ar y pysgod sydd yn cael eu ffermio
- y gofynion iechyd a lles ar gyfer pysgod/cregynbysgod a sut mae'r rhain yn cael eu cynnal o fewn yr unedau cadw sydd ar gael
- y ffordd y gall ffactorau amgylcheddol effeithio ar les pysgod/cregynbysgod
- sut mae codau ymarfer perthnasol y diwydiant a deddfwriaeth yn dylanwadu ar raglenni cynnal amgylcheddol
- sut mae gweithdrefnau fferm yn cael eu datblygu i ystyried cryfderau a gwendidau uned gadw
- sut i leihau effaith argyfyngau ar y pysgod/cregynbysgod
- deddfwriaeth sydd yn effeithio ar waredu gwastraff, yn cynnwys elifiant o ffermydd
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch i'r amgylchedd cynhyrchu
- y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar ynysu, yn cynnwys y ffordd y gellir rheoli gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
- achosion methiant ynysu a physgod yn dianc, yn cynnwys dyluniad fferm
- y ffordd y mae deddfwriaeth yn rheoli arferion ffermio ac ynysu stoc
- y fframwaith â'r goblygiadau deddfwriaethol presennol yn dilyn torri rheolau ynysu
- dulliau a ddefnyddir i werthuso rheolaeth yr amgylchedd cynhyrchu
- y gofynion cyfreithiol a gweithdrefnau'r safle ar gyfer rheoli cofnodion amgylchedd cynhyrchu
Cwmpas/ystod
datblygu cynllun stocio i:
- wneud y defnydd gorau o unedau cadw sydd ar gael
- cyflawni'r cynhyrchiant gofynnol
- cynnal anghenion iechyd a lles pysgod neu gregynbysgod sydd yn cael eu ffermio
- rheoli rhaglenni cynnal amgylcheddol yn cynnwys:
- gofalu am unedau cadw, ynysu a diogeledd fferm
- rheoli dwysedd stocio
- rheoli plâu ac ysglyfaethwyr
- gwaredu gwastraff
- rheoli elifiant fferm
- datblygu gweithdrefnau brys i gael eu dilyn os bydd:
- digwyddiadau llygredd
- methiant cyfarpar
- amrywiadau mewn ansawdd dŵr
- pysgod yn dianc