Gwneud argymhellion ar gyfer darparu anifeiliaid mewn addysg neu adloniant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud argymhellion ar gyfer darparu anifeiliaid mewn addysg neu adloniant, pan fydd cyllidebau cynhyrchu yn cynnwys anifeiliaid.
Mae'n cynnwys canfod beth yw'r gofynion cynhyrchu a pharu anifeiliaid a chyflenwyr gyda'r anghenion hynny, yn seiliedig ar wybodaeth â’r ffordd y mae anifeiliaid penodol yn debygol o berfformio ar y set.
Mae'r safon hefyd yn cynnwys amlinellu cyllideb ar gyfer rôl yr anifail yn y cynhyrchiad. Dylai'r gyllideb ystyried cost gofal a chludo yn ogystal â chost unrhyw anghenion arbennig sydd gan yr anifail (anifeiliaid).
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn argymell anifeiliaid ar gyfer addysg ac adloniant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gweithio'n broffesiynol ac yn foesegol ac o fewn terfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
cadarnhau bod yr holl ofynion cyfreithiol a statudol perthnasol ar gyfer gweithio gydag anifeiliaid yn cael eu cynnal
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- dadansoddi rhaniad y sgript er mwyn nodi'r gofynion ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad addysg neu adloniant
- gwneud argymhellion ar gyfer darparu anifeiliaid penodol, y gellir eu cyflenwi'n gyfreithiol, i fodloni'r gofynion ar gyfer y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- argymell cyflenwyr addas ac anifeiliaid unigol sydd yn bodloni'r gofynion ar gyfer y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- nodi argaeledd ac addasrwydd anifeiliaid i gymryd rhan yn y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- rhoi gwybodaeth am anifeiliaid sydd wedi eu dewis i dîm y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- cadarnhau y bydd anghenion lles yr anifail yn cael eu cynnal yn iawn trwy gydol eu harhosiad yn amgylchedd y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- pennu unrhyw anghenion penodol ar gyfer yr anifail sydd wedi ei ddarparu a allai effeithio ar gostau cynhyrchu
- paratoi cyllideb ddrafft ar gyfer costau anifeiliaid i'w chyflwyno ar gyfer ei thrafod gyda thîm y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- darparu gwybodaeth i alluogi'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'r cynhyrchiad addysg neu adloniant i asesu'r effaith y byddai unrhyw gynlluniau wrth gefn mawr posibl yn ei gael ar y gallu i gadw at gyllideb y cynhyrchiad
- cadarnhau bod y cofnodion â’r cyfrifiadau a ddefnyddir i baratoi cyllidebau yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
eich cyfrifoldebau proffesiynol wrth argymell anifeiliaid ar gyfer cynyrchiadau addysg neu adloniant a therfynau eich awdurdod, arbenigedd, hyfforddiant, cymhwysedd a'ch profiad
y gofynion cyfreithiol a statudol perthnasol sydd yn gysylltiedig â gweithio gydag anifeiliaid a sut i sicrhau bod y rhain yn cael eu cynnal
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer cysylltiedig a pholisïau sefydliadol
- eich cyfrifoldeb yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid ac yn ymwneud ag anifeiliaid a chodau ymarfer cysylltiedig
- sut i ddadansoddi'r ffordd y mae sgript wedi cael ei rhannu, yn cynnwys lleoliad, math o weithredu a hyd y ffilmio, i nodi gofynion yr anifeiliaid mewn cynhyrchiad addysg neu adloniant
- sut i adnabod, a ble i gael gafael ar, anifeiliaid addas i fodloni gofynion gwahanol cynhyrchiad addysg neu adloniant
- y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn ymwneud â chyflenwi anifeiliaid ar gyfer cynyrchiadau addysg neu adloniant
- sut i gynnal anghenion lles anifail trwy gydol eu cyfnod yn amgylchedd y cynhyrchiad addysg neu adloniant
- anghenion lles penodol yr anifail yn ystod eu cyfnod ar y set
- y ffactorau ymddygiadol a seicolegol a allai effeithio ar allu anifail i gyflawni gofynion cynhyrchiad addysg neu adloniant
- pryd i argymell defnyddio anifeiliaid byw neu animatronig i gyflawni'r effaith greadigol ddymunol
- pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gywir wrth wneud argymhellion ar gyfer darparu anifeiliaid
- y defnydd o ddelweddau o anifeiliaid i gefnogi argymhellion
- y dulliau perthnasol o gyfathrebu gwybodaeth am anifeiliaid
- egwyddorion cyllidebu a pharatoi cyllideb mewn perthynas â chynyrchiadau ffilm a theledu
- sut i adnabod yr ystod lawn o gostau y gall ddigwydd wrth ddefnyddio anifeiliaid ar gyfer cynyrchiadau addysg ac adloniant
- y prif beryglon neu gynlluniau wrth gefn a allai effeithio ar gyllidebau cynhyrchiadau addysg neu adloniant a pha wybodaeth sydd angen i chi ei darparu mewn perthynas â'r rhain
- y dulliau o gyflwyno gwybodaeth ariannol mewn perthynas â chynyrchiadau ffilm a theledu
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â gwneud argymhellion ar gyfer darparu anifeiliaid ar gyfer cynyrchiadau addysg neu adloniant, a phwysigrwydd cwblhau'r rhain yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol a pholisi sefydliadol
Cwmpas/ystod
Gofynion yr anifeiliaid mewn perthynas â:
- faint o amser fydd eu hangen
- y math o weithredu sydd yn ofynnol, yn cynnwys unrhyw ryngweithio gyda phobl ac anifeiliaid eraill
- y math o amgylchedd lle bydd y ffilmio yn digwydd
gofynion yr anifail:
- brîd cywir
- rhyw cywir
- natur
- ymddangosiad dymunol
- rhychwant oes yn cyd-fynd â'r gofynion ffilmio
- oed addas
- cyflawni gofynion iechyd a diogelwch
Prif gynlluniau wrth gefn posibl:
- ffilmio yn mynd dros yr amser sydd wedi ei neilltuo
- ceisiadau am fwy o saethu
- aildrefnu saethu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deddfwriaeth gyfredol lles anifeiliaid:
- Cymru a Lloegr, Deddf Lles Anifeiliaid
- Yr Alban, Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gogledd Iwerddon, Deddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon)