Datblygu a gweithredu cynlluniau ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys datblygu a gweithredu cynlluniau ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig a gynhyrchwyd yn y sector amaethyddiaeth. Mae cynllunio a rheoli is-gynnyrch organig mentrau ffermio yn rhan annatod o'r broses reoli.
Dylai'r cynllun ystyried gwerth ariannol cynyddol maeth yng ngwrtaith anifeiliaid fferm ac is-gynnyrch a newidiadau organig eraill sydd yn digwydd wrth gyflwyno Parthau Perygl Nitradau (NVZ).
Yn ystod y cynllun gall fod angen gwneud newidiadau ac mae cynlluniau wrth gefn yn rhan hanfodol o'r broses.
Mae'n rhaid i'r holl gynlluniau gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a deddfwriaeth a chodau ymarfer diwydiant eraill.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am reoli fferm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu cynlluniau ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig yn effeithiol
- ymgynghori â phartïon perthnasol am y cynlluniau a gwneud diwygiadau, fel y bo'n briodol, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd
- cadarnhau bod cynlluniau ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig yn unol â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a pholisïau cnydio sefydliadol
- gofyn am gyngor arbenigol lle bo angen
- adnabod yr adnoddau sy'n ofynnol i weithredu'r cynllun a chadarnhau argaeledd yr adnoddau hynny
- cyfathrebu'r cynlluniau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu ynghyd â phartïon perthnasol eraill
- cadarnhau bod systemau wedi eu sefydlu i ddiogelu pobl ac anifeiliaid rhag peryglon gweithio gydag is-gynnyrch organig (e.e. nwyon)
- cadarnhau bod dulliau ac arferion gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a'u bod yn cyd-fynd â deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â storio a defnyddio is-gynnyrch organig yn defnyddio offer amddiffynnol personol (PPE) priodol
- gweithredu cynlluniau ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig
- monitro'r gwaith o storio a defnyddio is-gynnyrch organig a chymryd camau priodol os oes problemau'n cael eu nodi
- gwerthuso'r gwaith o storio a defnyddio is-gynnyrch organig am eu heffeithiolrwydd yn bodloni cynlluniau, deddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer
- gwerthuso goblygiadau iechyd a diogelwch gweithio gydag is-gynnyrch organig
- cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrwydd ansawdd a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. mathau, cyfansoddiad a meintiau'r is-gynnyrch organig a gynhyrchwyd yn y fenter
2. goblygiadau bod mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ) i'r busnes
3. y dulliau o gynyddu gwerth ariannol y maeth a geir yn yr is-gynnyrch organig sy'n cael ei gynhyrchu
4. gwerth defnyddio is-gynnyrch organig ar y cyd â gwrteithwyr eraill
5. y ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol ar storio a defnyddio is-gynnyrch organig
6. sut i ddatblygu a diwygio cynlluniau rheoli ar gyfer defnyddio'r maeth a geir yn effeithiol, yn cynnwys buddion ariannol (e.e. defnydd mewn cynlluniau cnydio)
7. y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig
8. sut i bennu'r adnoddau dynol, ariannol, materol a chyfalaf sydd yn angenrheidiol i gyflawni'r cynlluniau
9. y dulliau o gyfathrebu'r cynlluniau a'r gweithdrefnau i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'u gweithredu ynghyd â phartïon eraill â diddordeb
10. sut i weithredu cynlluniau ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig yn effeithiol
11. y ffurflenni a'r trwyddedau yn ymwneud â storio a defnyddio is-gynnyrch organig sydd angen eu cwblhau gan aelodau o staff neu asiantau allanol fel contractwyr
12. y dulliau a'r offer priodol sy'n ofynnol i gymhwyso is-gynnyrch organig ar y tir er mwyn cael y gwerth maethol gorau posibl
13. y problemau a allai ddigwydd wrth storio a defnyddio is-gynnyrch organig a sut dylid ymdrin â'r rhain
14. y dulliau o fonitro effeithiolrwydd y cynlluniau rheoli ar gyfer storio a defnyddio is-gynnyrch organig
15. goblygiadau iechyd a diogelwch ymdrin ag is-gynnych organig
16. pwysigrwydd cadarnhau bod yr offer amddiffynnol personol (PPE) cywir yn cael ei ddefnyddio wrth ymdrin ag is-gynnyrch organig
17. sut a phryd i hysbysu'r awdurdod amgylcheddol perthnasol os bydd problem ddifrifol yn datblygu
18. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi'r amser y dylid cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai awdurdod amgylcheddol fod yn un o'r canlynol:
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban
- Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon
- Adran yr amgylchedd mewn awdurdod lleol
Parth Perygl Nitradau (NVZ): Ardal wedi ei dynodi i fod mewn perygl o lygredd nitradau amgylcheddol. Mae'n rhaid i fusnesau ddilyn gofynion cyfreithiol ar gyfer defnyddio gwrtaith nitrogen a gwrtaith organig.
Gallai is-gynnyrch organig gynnwys:
- biswail
- gwrtaith buarth fferm (FYM)
- compost
- digestate