Prosesu archebion a thaliadau cwsmeriaid

URN: INSSAL009
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu archebion a thaliadau cwsmeriaid. Mae'n cynnwys cael gwybodaeth gan gwsmeriaid am eu gofynion, nodi ffynonellau ac argaeledd y cynhyrchion a'r gwasanaethau, a phrosesu'r archebion. I wneud hyn, bydd angen i chi roi gwybodaeth gywir i'ch cwsmeriaid a threfnu i gyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau. Mae'r safon yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth briodol, cwblhau manylion archebion, codi anfonebau a hysbysu cwsmeriaid am yr amserlenni ar gyfer cwblhau archebion. Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n prosesu archebion a thaliadau cwsmeriaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a choladu gofynion cwsmeriaid mewn perthynas â'r archeb a gwirio bod yr archeb yn bodloni'r gofynion hynny
  2. gwirio argaeledd eich cynhyrchion a gwasanaethau a hysbysu cwsmeriaid
  3. cadw neu ddiogelu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod ar gael
  4. gwneud yn siŵr bod y wybodaeth am statws yr archeb yn glir ac yn gywir o ran cyflwyno, amseru a phris
  5. gwirio statws credyd y cwsmeriaid a gwneud yn siŵr bod y gwerthiant yn cael ei awdurdodi yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  6. cwblhau gweithdrefnau cyfrifyddu sefydliadol i gwblhau'r trafodiad
  7. gwneud yn siŵr bod y cwsmeriaid yn ymwybodol o'r telerau ac amodau gwerthu
  8. gwneud yn siŵr bod gofynion cwsmeriaid yn cael eu cyfathrebu'n brydlon ac yn gywir i'r rhai sy'n gyfrifol am brosesu archebion
  9. mynd yn ôl at y cwsmeriaid pan fydd eu gofynion yn annerbyniol neu os na all eich sefydliad eu bodloni
  10. diweddaru'r system feddalwedd a hysbysu cwsmeriaid am sut mae’r archeb yn dod yn ei blaen
  11. gwneud yn siŵr bod y rhesymau dros unrhyw oedi wrth brosesu’r archebion yn cael eu nodi a bod y cwsmeriaid yn cael gwybod amdanynt yn brydlon
  12. gwneud yn siŵr bod gwybodaeth am gwsmeriaid yn cael ei storio'n ddiogel a'i bod ar gael i bersonél awdurdodedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau cyfredol mewn perthynas â data cwsmeriaid, gwybodaeth gyfrinachol a phrosesu taliadau
  2. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu archebion cwsmeriaid a thaliadau
  3. y ffynonellau gwybodaeth sydd eu hangen i brosesu archebion yn llawn
  4. yr hawliau a'r cyfrifoldebau sy'n ymwneud â deddfwriaeth diogelu defnyddwyr
  5. amrywiaeth y prosesau ar gyfer archebu cynhyrchion a gwasanaethau
  6. y gwahanol ffynonellau systemau gwybodaeth sydd eu hangen i wirio statws credyd cwsmeriaid
  7. y gwahanol ddulliau talu a dderbynnir gan y sefydliad
  8. defnyddio meddalwedd berthnasol ar gyfer prosesu archebion
  9. y camau i'w cymryd pan fo gofynion cwsmeriaid yn annerbyniol neu nad oes modd eu bodloni
  10. y broses o gwblhau'r archeb a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau
  11. sut i drefnu i gynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad gael eu hanfon
  12. sut i storio gwybodaeth am gwsmeriaid, archebion a thaliadau yn ddiogel

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL022

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Cael gwybodaeth am gwsmeriaid; nodi gofynion cwsmeriaid; nodi'r adnoddau sydd ar gael; prosesu archebion gwerthu; cyflenwi cynhyrchion a/neu wasanaethau; codi anfonebau; awdurdodi gwerthiannau; cyfathrebu; gweithdrefnau gwerthu sefydliadol; defnyddio cronfeydd data gwerthiannau; prosesau ar gyfer archebu cynhyrchion; dulliau talu; cyflawni archebion