Dyfeisio strategaethau gwerthu i ennill busnes caffael

URN: INSSAL005
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dyfeisio strategaethau gwerthu i ennill busnes caffael. Os ydych chi'n ymwneud ag ennill busnes cwsmeriaid presennol neu newydd, rhaid i chi wybod sut mae sefydliadau'n dewis eu cyflenwyr. Mae angen i chi gydnabod y prosesau caffael y mae darpar gwsmeriaid yn eu defnyddio i ddewis eu cyflenwyr cyn mynd ati i ddyfeisio strategaeth werthu sy'n manteisio i’r eithaf ar eich cyfle i ennill unrhyw fusnes a gaiff ei gaffael yn y dyfodol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n dyfeisio strategaethau gwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi’r meini prawf a ddefnyddir gan ddarpar gwsmeriaid i ddewis cyflenwyr
  2. gwerthuso'r effaith y gall cyflenwyr ei chael ar arferion caffael darpar gwsmeriaid
  3. sefydlu'r dull a ddefnyddir gan ddarpar gwsmeriaid er mwyn rhagweld y galw yn y dyfodol ar gyfer eu hanghenion cyflenwi
  4. penderfynu sut mae cwsmeriaid yn pennu eu hanghenion gwybodaeth a sut maent yn dod o hyd i wybodaeth am gyflenwyr
  5. sefydlu sut gall y cyflenwr ddylanwadu ar y meini prawf y mae darpar gwsmeriaid yn eu defnyddio
  6. nodi’r cyflenwyr y mae darpar gwsmer yn eu defnyddio ar hyn o bryd a chynnal dadansoddiad o gystadleuwyr i nodi eu cryfderau a'u gwendidau
  7. dod i wybod pa mor hir y mae contractau presennol rhwng cystadleuwyr a'r darpar gwsmeriaid yn para a phryd y maent ar gael i'w hadnewyddu
  8. canfod arferion darpar cwsmeriaid o ran manylebau, prosesau prynu a thendro
  9. nodi disgwyliadau'r darpar gwsmeriaid o ran y gydbwysedd rhwng ansawdd, prisiau ac amserlenni
  10. nodi'r ystod o asesiadau a gynhelir gan sefydliadau darpar gwsmeriaid i fesur gallu a chapasiti cyflenwyr
  11. defnyddio gwybodaeth am feini prawf a ddefnyddir i ddewis cyflenwyr i ennill busnes tymor hir gan ddarpar gwsmeriaid a bod yn gyflenwr dewisol iddynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a rheoleiddio cyfredol sy'n effeithio ar arferion caffael
  2. yr amrywiaeth o arferion cystadleuol sy'n ymwneud â chaffael
  3. gweithdrefnau eich sefydliad sy’n ymwneud â chynnig a thendro
  4. amcanion gwerthu, targedau a chynlluniau gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â chyfrifon
  5. meini prawf y cyflenwyr wrth ddewis cyflenwyr a sut mae'r rhain yn effeithio ar arferion caffael
  6. y cysyniad o statws 'cyflenwr dewisol'
  7. yr amrywiaeth o arferion caffael a ddefnyddir gan ystod o sefydliadau
  8. yr amrywiaeth o ddulliau mesur ansawdd sy'n ymwneud â chaffael
  9. y mathau o asesiadau a ddefnyddir gan ddarpar gwsmeriaid i weld beth yw gallu cyflenwyr
  10. sut y gall sefydliadau leihau risg o ran cyflenwyr drwy werthuso cyflenwyr yn fanwl
  11. y mathau o feini prawf, dulliau a gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso cyflenwyr
  12. sut mae sefydliadau'n datblygu manylebau o ran cynnyrch a gwasanaethau at ddiben caffael cyflenwadau
  13. yr amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir i wneud penderfyniadau caffael
  14. pwysigrwydd cyflwyno dibynadwy yng nghyd-destun caffael
  15. y mathau o gymorth technegol ac adnoddau a ddarperir gan gyflenwyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL025

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Dewis cyflenwadau; rheoli cadwyn gyflenwi; manteisio’n llawn ar gyfleoedd gwerthu; caffael; deall arferion caffael y cwsmer; dadansoddi cystadleuwyr; nodi arferion cwsmeriaid; meini prawf dewis cyflenwyr; arferion cystadleuol; statws cyflenwr a ffefrir; asesiadau gallu