Datblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu. Rhaid i'r strategaethau a’r cynlluniau gwerthu ystyried amcanion y sefydliad a'r egwyddorion moesegol yn llawn, yn ogystal â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chyfrifoldebau cymdeithasol. Wrth ddatblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu, mae angen i chi ystyried materion a allai effeithio ar y rhain, pennu amcanion a thargedau clir ar gyfer timau, a pharatoi staff ar gyfer unrhyw newidiadau. Mae'r safon hon ar gyfer uwch-weithwyr gwerthu proffesiynol sy'n datblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi'r rolau a'r gweithgareddau sydd eu hangen ar gyfer datblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu
- cynnal dadansoddiad segmentu cwsmeriaid i nodi grwpiau a segmentau pwysig o gwsmeriaid i'w targedu er mwyn cyflawni’r perfformiad gorau posibl o ran gwerthu
- ymchwilio i ddewisiadau prynu cwsmeriaid i bennu sianeli gwerthu priodol
- rhoi ystyriaeth lawn i ofynion cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol a chyfrifoldebau cymdeithasol mewn cysylltiad â strategaethau a chynlluniau gwerthu
- pennu amcanion gwerthu yn unol â strategaethau busnes y sefydliad
- dadansoddi strwythur y timau gwerthu i werthuso eu gallu i gyrraedd targedau gwerthu penodedig
- ymchwilio i weithdrefnau gwerthu o ran cost effeithiolrwydd
- gwneud argymhellion priodol ar gyfer gwneud gwelliannau mewn strategaethau a chynlluniau gwerthu yn seiliedig ar ganlyniadau ymchwiliad
- pennu gofynion adnoddau dynol, ffisegol ac ariannol ar gyfer y broses werthu ac argymell newidiadau, lle bo'n briodol
- cau pen y mwdwl ar ddatblygu strategaethau a chynlluniau gwerthu yn unol â gofynion cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol a chyfrifoldebau cymdeithasol
- monitro a gwerthuso perfformiad y strategaethau a’r cynlluniau gwerthu drwy ddefnyddio targedau a meini prawf penodedig
- rhoi gwybod i randdeiliaid pwysig am bob newid mewn strategaethau a chynlluniau
- nodi pob maes o gydymffurfio a diffyg cydymffurfio â gofynion gwerthu cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol a chyfrifoldebau cymdeithasol
- nodi rhesymau dros beidio â chyflawni’r perfformiad disgwyliedig o ran gwerthu ac addasu’r polisïau a’r gweithdrefnau i wneud methiannau’n llai tebygol yn y dyfodol
- cywiro unrhyw fethiannau i fodloni'r gofynion gwerthu cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol a chyfrifoldebau cymdeithasol
- adolygu strategaethau a chynlluniau gwerthu yn unol â gofynion gwerthu cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol a chyfrifoldebau cymdeithasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion gwerthu cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol cyfredol a'r cyfrifoldebau cymdeithasol ar gyfer y diwydiant neu'r sector
- strategaethau, amcanion a chynlluniau busnes a marchnata'r sefydliad
- sut mae'r swyddogaethau marchnata a gwerthu yn berthnasol i'w gilydd ac yn cyfrannu at strategaeth fusnes
- y broses ar gyfer dadansoddi segmentu sy'n cynnwys ystyriaethau demograffig, daearyddol, ffyrdd o fyw ac ymddygiad
- yr offer perthnasol sydd eu hangen i gynnal dadansoddiad bwlch drwy ddefnyddio technegau PSTLE a SWOT
- y dull Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol (CAMPUS) o bennu amcanion gwerthu
- y gwahanol fathau o strwythurau trefniadol ar gyfer gwerthu, gan gynnwys rhai daearyddol, yn seiliedig ar gynnyrch, yn seiliedig ar gwsmeriaid neu frand
- yr amrywiaeth o sianeli dosbarthu (i ddenu cwsmeriaid).
- nodweddion caffael sy'n effeithio ar y penderfyniadau a wneir am sianeli dosbarthu
- yr amrywiaeth o adnoddau, megis adnoddau dynol, cyllid a thechnoleg
- yr offer monitro perthnasol ar gyfer gwerthuso perfformiad gwerthu
- y dulliau ymgynghori a chyfathrebu â'r tîm gwerthu ynghylch datblygu strategaeth
- pwysigrwydd cael dull llywodraethu moesegol ac sy'n seiliedig ar werth a sut i roi hyn ar waith
- y gweithdrefnau i'w dilyn os nad yw'r sefydliad yn bodloni'r gofynion gwerthu cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol a'r cyfrifoldebau cymdeithasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae dadansoddiad PESTLE yn astudio’r ffactorau allanol allweddol (Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasegol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol) sy’n dylanwadu ar sefydliad. Gellir ei ddefnyddio mewn ystod o wahanol senarios, a gall arwain pobl broffesiynol ac uwch-reolwyr wrth wneud penderfyniadau strategol. (Ffynhonnell: CIPD)
Offeryn cynllunio yw dadansoddiad SWOT sy'n ceisio nodi'r Cryfderau, y Gwendidau, y Cyfleoedd a’r Bygythiadau sy'n gysylltiedig â phrosiect neu sefydliad. Mae'n fframwaith ar gyfer paru nodau, rhaglenni a galluoedd sefydliad â'r amgylchedd y mae'n gweithredu ynddo. (Ffynhonnell: CIPD)
Amcanion CAMPUS sy'n Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol yw'r ffordd i bennu’r hyn y mae unigolyn, tîm neu sefydliad yn ceisio ei gyflawni.