Gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau o bell
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau o bell. Mae'n cynnwys gweithgareddau gwerthu i mewn ac allan drwy wefannau e-fasnach, apiau symudol, siopau ar-lein, marchnadoedd, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a thechnolegau eraill. Mae'r safon yn cynnwys nodi eich cynulleidfa darged, ymchwilio i'w hanghenion prynu, hyrwyddo buddion a nodweddion cynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad, ymateb i wrthwynebiadau cwsmeriaid a'u datrys, a chytuno ar delerau ac amodau sydd o fudd i bawb. Mae'r safon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o gynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad, gan gynnwys technolegau digidol, llwyfannau e-fasnach, systemau ac offer. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr gwerthu proffesiynol sy'n gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau o bell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud ymchwil marchnad i nodi maes penodol arbenigol neu gystadleuol o’r farchnad ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau
- sefydlu'r cynulleidfaoedd targed ar gyfer eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn rhan o segmentu cwsmeriaid
- nodi a gwerthuso eich cystadleuwyr i greu cynnig sydd o werth unigryw ar gyfer y cynhyrchion a'r gwasanaethau
- nodi'r amcanion a'r targedau ar gyfer gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau o bell
- dewis y sianeli gwerthu ar gyfer y cynhyrchion a'r gwasanaethau
- cyfrannu at greu gwybodaeth am gynhyrchion a gwasanaethau
- diffinio pwyntiau gwerthu unigryw a phwyntiau gwahaniaethu
- hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau, gan roi manylion am eu buddion a'u gwerth
- cynllunio gweithgareddau gwerthu, gan nodi sut i ddenu sylw cwsmeriaid a chyfleu negeseuon gwerthu allweddol
- defnyddio'r sianeli cyfathrebu a'r technolegau perthnasol i ryngweithio â chwsmeriaid
- nodi a chytuno ar sail dewisiadau'r cwsmeriaid a'u gofynion
- gwneud yn siŵr bod cyfleoedd ychwanegol, uwch-werthu neu groes-werthu yn cael eu darparu cyn dod i gytundeb ar y gwerthiant
- gwneud yn siŵr bod yr holl delerau ac amodau yn cael eu cyfleu'n glir i'r cwsmeriaid
- cael cadarnhad gan y cwsmeriaid a dod i gytundeb ar y gwerthiant
- prosesu archebion cwsmeriaid yn unol â'u hanghenion ac o fewn terfynau amser penodedig
- gweithio gyda chydweithwyr i fynd i'r afael â materion a datrys unrhyw oedi wrth ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau, pan fydd hyn yn digwydd
- trefnu ad-daliadau ac amnewid cynhyrchion a gwasanaethau, os oes angen
- datblygu perthynas barhaus a chadarnhaol gyda chwsmeriaid
- coladu adborth cwsmeriaid i gynhyrchion a gwasanaethau a gwneud argymhellion perthnasol ar gyfer gwella gwerthiannau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gwahaniaethau rhwng gwerthu o bell ar gyfer cynnyrch sy’n dod i mewn ac yn mynd allan
- yr ystyriaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol cyfredol sy'n ymwneud â gweithrediadau gwerthu o bell
- y gofynion rheoleiddio sy'n ymwneud â phrosesu trafodion cwsmeriaid ar-lein
- gweithdrefnau ac arferion eich sefydliad mewn perthynas â gwerthu ar-lein
- pwysigrwydd diogelu brand, delwedd ac enw da'r cwmni wrth werthu
- amcanion a thargedau eich sefydliad ar gyfer gwerthu ar-lein
- gweithgareddau, cynnyrch a gwasanaethau'r cystadleuwyr ar y marchnadoedd
- nodweddion a gwerth y cynhyrchion a'r gwasanaethau
- y telerau ac amodau gwerthu a phwysigrwydd cyfathrebu'r rhain i'r cwsmeriaid
- pwyntiau gwerthu unigryw y cynhyrchion a'r gwasanaethau a phwyntiau gwahaniaethu
- yr amrywiaeth o sianeli gwerthu ar gyfer gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau o bell
- y cylch gwerthu a sut mae'n helpu aelodau'r tîm gwerthu i strwythuro a datblygu eu gweithgareddau gwerthu
- y gwahaniaethau rhwng gwerthu rhagweithiol ac adweithiol
- y technegau ar gyfer traws-werthu, uwch-werthu a gwerthu ychwanegion
- y sianeli cyfathrebu a thechnolegau ar gyfer gwerthu o bell
- y mathau o foesau a chyfathrebu sy’n berthnasol wrth ryngweithio â chwsmeriaid o bell
- sut i gynnwys cwsmeriaid wrth ddatblygu a dod i gytundeb ar werthiant
- y technegau ar gyfer dod i gytundeb ar werthiant yn ystod camau olaf y broses werthu
- ystod yr ymddygiadau a ddangosir gan gwsmeriaid a sut i'w rheoli
- sut i weithio gyda chydweithwyr perthnasol i ddatrys gwrthwynebiadau a chwynion cwsmeriaid
- sut i ddelio â materion, megis oedi wrth gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau, ad-daliadau, dychwelyd cynhyrchion a nwyddau newydd
- sut gellir defnyddio adborth cwsmeriaid fel offeryn mesur a gwella ar gyfer gweithgareddau gwerthu