Cyflwyno arddangosiadau neu gyflwyniadau gwerthu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno arddangosiadau neu gyflwyniadau gwerthu. Mae wedi’i gynllunio i alluogi aelodau'r tîm gwerthu i baratoi ar gyfer arddangosiadau neu gyflwyniadau o gynhyrchion a gwasanaethau eu sefydliad i gwsmeriaid, a rhoi arddangosiadau ohonynt. Mae angen i chi feddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a chymhwysedd am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gallu ateb cwestiynau cwsmeriaid a delio â gwrthwynebiadau i werthu. Dylech nodi anghenion y cwsmeriaid a gwneud yn siŵr bod yr arddangosiadau neu'r cyflwyniadau'n dangos sut mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau yn bodloni'r anghenion hyn a pha werth sydd mewn buddsoddi yn y cynhyrchion hyn i fusnes y cwsmeriaid. Mae angen i chi roi arddangosiad neu gyflwyniad proffesiynol o gynhyrchion a gwasanaethau a manteisio ar gyfleoedd i fynd â'r broses werthu yn ei blaen. Gellir rhoi arddangosiadau a chyflwyniadau gwerthu yn bersonol neu ar-lein. Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cyflwyno arddangosiadau neu gyflwyniadau gwerthu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu sut mae eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau yn diwallu anghenion cwsmeriaid
- cytuno ar yr amcanion, y cynnwys a’r dull arddangos neu gyflwyno gyda'r cwsmeriaid
- nodi'r adnoddau a'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer yr arddangosiad neu'r cyflwyniad i ddangos gwerth y cynhyrchion a'r gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig
- asesu'r amgylchedd ffisegol ac ar-lein i'w ddefnyddio ar gyfer yr arddangosiad neu'r cyflwyniad
- paratoi’r arddangosiad neu’r cyflwyniad, gan wneud yn siŵr ei fod yn cynnwys manylion perthnasol a phwyntiau gwahaniaethu, gan gyfeirio at rolau’r bobl o blith y cwsmeriaid a fydd yn bresennol
- gwneud yn siŵr bod cynigion, dogfennau eraill neu ddeunyddiau ar gyfer yr arddangosiad neu’r cyflwyniad yn cael eu paratoi cyn cwrdd â’r cwsmeriaid yn y lleoliad neu ar-lein
- rhagweld unrhyw broblemau, cyfyngiadau neu wrthwynebiadau a allai godi a pharatoi ymatebion posibl iddynt
- rhoi’r arddangosiad a'r cyflwyniad yn unol â'i amcanion ac anghenion cwsmeriaid
- ymgysylltu â'r gynulleidfa yn ystod yr arddangosiad neu'r cyflwyniad
- gwahodd y gynulleidfa i ofyn cwestiynau a’u hateb, ymateb i ymholiadau a phryderon
- achub ar gyfleoedd i symud y broses werthu yn ei blaen ar adeg yr arddangosiad neu’r cyflwyniad
- nodi cyfleoedd cynnar ar gyfer uwch-werthu, traws-werthu a gwerthu ychwanegion
- gwerthuso perfformiad yr arddangosiad neu’r cyflwyniad a nodi unrhyw gryfderau, a meysydd i'w gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol cyfredol mewn perthynas ag arddangosiadau a chyflwyniadau gwerthu
- sut i bennu anghenion a diddordebau cwsmeriaid
- dibenion arddangosiadau neu gyflwyniadau o gynhyrchion a gwasanaethau
- pwyntiau gwerthu unigryw y cynhyrchion a'r gwasanaethau a phwyntiau gwahaniaethu
- sut i bennu amcanion ar gyfer arddangosiadau a chyflwyniadau
- sut i gyflwyno arddangosiadau neu gyflwyniadau o gynhyrchion a gwasanaethau wyneb yn wyneb neu ar-lein
- sut i addasu arddangosiad neu gyflwyniad o gynhyrchion a gwasanaethau i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd
- yr ystod o adnoddau a deunyddiau i gynorthwyo’r arddangosiad neu’r cyflwyniad wyneb yn wyneb ac ar-lein
- sut i nodi cyfleoedd i symud y broses werthu yn ei blaen ar y pryd neu ar ôl yr arddangosiad neu'r cyflwyniad
- sut i wneud yn siŵr bod gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni yn ystod yr arddangosiad neu'r cyflwyniad
- sut i baratoi ar gyfer y sesiwn holi ac ateb
- y problemau, y cyfyngiadau neu’r amcanion posibl a sut i fynd i'r afael â'r rhain
- amrywiaeth y technegau holi a gwrando er mwyn ymgysylltu â chwsmeriaid
- sut i fanteisio ar y cyfleoedd i uwch-werthu, traws-werthu a gwerthu ychwanegion
- sut i werthuso perfformiad arddangosiadau a chyflwyniadau gwerthu