Rheoli tiriogaethau neu bortffolios gwerthu

URN: INSSAL0011
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwerthu
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli tiriogaethau neu bortffolios gwerthu Mae'n cynnwys dadansoddi'r farchnad, gwerthuso opsiynau ar gyfer diffinio tiriogaethau neu bortffolios, a sut maent yn cael eu dyrannu. Mae angen i chi ddeall sut i olrhain effeithiolrwydd y dyraniadau hyn, nodi gwelliannau a gwneud y newidiadau hynny i roi’r ymdrech orau bosibl i werthu ar waith. Mae hefyd yn cynnwys dylunio, cynllunio a darparu adnoddau ar gyfer gwaith y tîm gwerthu. Mae'r safon hon ar gyfer uwch-weithwyr gwerthu proffesiynol sy'n rheoli tiriogaethau neu bortffolios gwerthu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r ffactorau allweddol ar gyfer dewis neu gadw dull rheoli tiriogaeth neu bortffolio
  2. diffinio tiriogaethau neu bortffolios addas drwy ymchwilio i'r ffactorau cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol, ariannol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol
  3. cynnal asesiad o’r farchnad ar gyfer tiriogaeth neu bortffolio yn seiliedig ar feini prawf y sefydliad ei hun, gan gynnwys gwybodaeth allanol am y farchnad a rhagolygon gwerthu
  4. dyrannu'r adnoddau sydd eu hangen i gwmpasu tiriogaeth neu bortffolio
  5. asesu a gwerthuso’r risgiau a’r manteision sy’n diffinio tiriogaethau neu bortffolios gwerthu newydd
  6. optimeiddio'r defnydd o adnoddau gwerthu fel bod modd cynnwys cymaint â phosibl o bob tiriogaeth
  7. cynllunio gofynion adnoddau gwerthu yn seiliedig ar wybodaeth am nifer, maint a lleoliad cwsmeriaid
  8. pennu targedau o ran gweithgareddau ariannol a gwerthu ar gyfer y tîm gwerthu
  9. pennu ffiniau ar gyfer pob tiriogaeth neu bortffolio gwerthu
  10. neilltuo tiriogaethau neu bortffolios i aelodau'r tîm gwerthu, yn unol â'u gwybodaeth, cymhwysedd a sgiliau
  11. recriwtio neu adleoli aelodau’r tîm gwerthu i weithio yn y tiriogaethau neu'r portffolios gwerthu newydd
  12. monitro a rheoli perfformiad mewn perthynas â thiriogaeth neu bortffolios gwerthu
  13. cymryd camau unioni os nad yw perfformiad gwerthu yn cyrraedd targedau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr agweddau cyfreithiol a rheoleiddiol presennol mewn perthynas â rheoli tiriogaethau neu bortffolios gwerthu
  2. yr amrywiaeth o weithgareddau a gynhelir gan gystadleuwyr mewn perthynas â thiriogaethau neu bortffolios gwerthu
  3. strwythur y diwydiant neu’r sector a’r cwmpas daearyddol
  4. lledaeniad daearyddol cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid eich sefydliad
  5. strategaethau a chynlluniau gwerthu eich sefydliad
  6. y rhesymau pam mae eich sefydliad yn sefydlu neu'n newid tiriogaethau neu bortffolios gwerthu
  7. strategaethau segmentu marchnad a chwsmeriaid eich sefydliad
  8. sut i gynnal ymchwiliad a gwerthusiad o diriogaethau neu bortffolios gwerthu
  9. sut i ddiffinio systemau cymorth economaidd a allai ddylanwadu ar ffiniau tiriogaethau neu bortffolios
  10. sut i werthuso trosiant, elw a thwf posibl tiriogaeth neu bortffolio
  11. sut i asesu pa adnoddau fydd eu hangen ar gyfer tiriogaeth neu bortffolio o ran gweithgareddau gwerthu
  12. sut i ddylunio tiriogaethau neu bortffolios gwerthu o ran maint, lleoliad, nifer y cwsmeriaid, darpar gyfrifon, ystod cynnyrch, a nifer y cysylltiadau
  13. sut i fonitro, gwerthuso a mesur tiriogaeth neu bortffolio a pherfformiad gwerthu
  14. sut i gynnal dadansoddiad cymharol o diriogaethau neu bortffolios i sefydlu meincnodau ar gyfer perfformiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFASAL007

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwyr gwerthiannau busnes, Rheolwyr marchnata a gwerthu, Rheolwyr cyfrifon gwerthu a datblygu busnes, Gwerthwyr dros y ffôn, Galwedigaethau sy’n gysylltiedig â gwerthu

Cod SOC

7129

Geiriau Allweddol

Tiriogaethau gwerthu; portffolios gwerthu; tîm gwerthu; cynllunio gwaith timau gwerthu; gweithgareddau tîm gwerthu; rheoli tiriogaeth; rheoli portffolio; asesiadau o’r farchnad; gofynion adnoddau gwerthu; targedau ariannol; targedau gweithgaredd gwerthu; recriwtio aelodau tîm gwerthu; gweithgaredd cystadleuwyr; strategaethau a chynlluniau gwerthu