Asesu, dadansoddi a gwerthuso risgiau

URN: INSRMA004
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Risg
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2024

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu, dadansoddi a gwerthuso risgiau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheoli risg cymeradwy. Yn rhan o'r asesiad, mae'r dadansoddiad risg yn cynnwys dulliau adnabod, disgrifiadau ac amcangyfrif, a chynnal gwerthusiad wedi hynny. Mae'n briodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli risg a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gyfrifol am asesu, dadansoddi a gwerthuso risgiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.      monitro'r amgylchedd gweithredol drwy ddefnyddio data priodol a nodi risgiau mewnol a rhai y tu allan i'ch sefydliad
2.      asesu risgiau a nodi eu heffaith bosibl a chyd-ddibyniaethau, gan gadw at bolisïau a gweithdrefnau rheoli risg y cytunwyd arnynt
3.      cynorthwyo staff mewnol i nodi risgiau sy'n berthnasol i'w rolau a'u cyfrifoldebau
4.      ystyried canfyddiadau, ymddygiadau a thueddiadau o ran risg wrth asesu, dadansoddi a gwerthuso risgiau
5.      defnyddio technegau priodol o adnabod a dadansoddi risg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheoli risg y cytunwyd arnynt
6.      gwerthuso'r risgiau yn erbyn meini prawf sefydledig i nodi eu harwyddocâd
7.       gwneud yn siŵr bod risgiau a chyfrifoldebau yn cael eu dyrannu yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
8.      sefydlu rheolaethau priodol ar gyfer risgiau a nodwyd a’r rhai sy'n dod i'r amlwg
9.      gwneud yn siŵr bod asesiadau risg yn ystyried ffactorau eraill o ran materion cyfreithiol, rheoleiddiol a chydymffurfio
10.  gwneud yn siŵr bod asesu risg yn ystyried ffactorau eraill o ran moeseg a chyfrifoldeb cymdeithasol
11.  creu cofrestr risg a’i defnyddio yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheoli risg
12.  gwerthuso'r gofrestr risg a'i hadolygu'n rheolaidd, gan nodi gwelliannau a meysydd lle ceir diffyg cydymffurfio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.      nodau, amcanion a chynlluniau busnes eich sefydliad
2.      strwythur eich sefydliad a'i gynhyrchion a'i wasanaethau
3.      diwylliant eich sefydliad a chwmpas y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef
4.      y gofynion a'r safonau cyfreithiol a rheoliadol cyfredol sy'n berthnasol i reoli risg
5.      y technegau nodi a dadansoddi risg sy'n berthnasol i'ch sefydliad a’ch sector yn y diwydiant
6.      egwyddorion llywodraethu da, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol, ac arferion moesegol sy'n berthnasol i reoli risg
7.      cysyniadau rheoli risg ac ymwybyddiaeth o risg
8.      yr amgylchedd busnes a'r farchnad y mae eich sefydliad yn gweithredu ynddynt
9.      polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli risg a dogfennaeth ategol
10.  y mathau o wybodaeth am risg a’u ffynonellau
11.  sut i nodi, categoreiddio, disgrifio, gwerthuso a blaenoriaethu risgiau
12.  dulliau dadansoddi a gwerthuso risg
13.  sut i nodi cyd-ddibyniaethau
14.  y canfyddiadau, yr ymddygiadau a’r tueddiadau o ran risg a sut maent yn effeithio ar reoli risg
15.  dulliau modelu ystadegol a dadansoddi achosion sylfaenol
16.  y rheolaethau priodol ar gyfer gwahanol fathau o risgiau
17.  y mathau o feddalwedd rheoli risg ac offer perthnasol eraill
18.  sut i greu cofrestr risg a’i defnyddio
19.  pam mae’n bwysig adolygu perfformiad y gofrestr risg a'i hadolygu'n rheolaidd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2029

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

CFARMA004

Galwedigaethau Perthnasol

Ymgynghorwyr rheoli a dadansoddwyr busnes, Gweithwyr proffesiynol cyswllt a busnes n.e.c

Cod SOC

2431

Geiriau Allweddol

Strategaeth rheoli risg; strategaeth sefydliadol; cynllun busnes; parodrwydd i dderbyn risg; agwedd at risg; ffactorau risg; diwylliant risg; amcanion rheoli risg