Cydlynu a rheoli gweithwyr dros dro

URN: INSREC008
Sectorau Busnes (Cyfresi): Recriwtio
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chydlynu a rheoli gweithwyr dros dro. Mae'n cynnwys gofynion ychwanegol mewn perthynas â gweithwyr dros dro a'u gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae gweithwyr dros dro a gweithwyr asiantaeth yn cael eu hystyried yn weithwyr nad ydynt yn barhaol. Mae’r rhain yn gallu cynnwys gweithwyr achlysurol, gweithwyr tymor byr, gweithwyr hunangyflogedig tymor byr neu weithwyr a gyflogir gan asiantaeth gyflogaeth. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ac arbenigwyr recriwtio sy'n ymwneud â chydlynu a rheoli gweithwyr dros dro.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi swyddi y mae angen eu llenwi â gweithwyr dros dro
  2. cadarnhau cyfraddau tâl fesul awr ar gyfer gweithwyr dros dro
  3. egluro unrhyw gwestiynau, pryderon neu faterion
  4. dilyn gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol wrth gydlynu gweithwyr dros dro
  5. cadw at y gofynion rheoleiddio mewn perthynas â gweithwyr dros dro
  6. gwneud yn siŵr bod amodau gwaith yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau diogelwch perthnasol
  7. cynnal pob gwiriad o gefndir a geirdaon y ceiswyr gwaith
  8. gwneud yn siŵr bod manylion llawn yr aseiniad yn cael eu rhoi i'r gweithwyr dros dro
  9. rhoi gwybodaeth i'r cyflogwyr yn ystod y broses archebu a rhoi manylion llawn y gweithwyr dros dro a neilltuwyd
  10. cynnal cofnodion yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol
  11. ymateb i ofynion cyflogwyr ar gyfer aseiniadau gwaith yn unol ag argaeledd gweithwyr dros dro
  12. gwneud yn siŵr bod yr holl hyfforddiant ymsefydlu iechyd a diogelwch gorfodol a hyfforddiant arall yn cael ei roi i weithwyr dros dro.
  13. cynnal cyswllt y cytunwyd arno â gweithwyr dros dro
  14. rhoi gweithdrefnau cwyno, disgyblu a diswyddo ar waith yn unol â'r math o gontract
  15. prosesu taliadau i weithwyr dros dro yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a rheoleiddiol
  16. monitro archebion gwaith sydd heb eu cyflawni neu sydd wedi'u canslo a rhoi prosesau ar waith i’w llenwi neu wneud yn siŵr bod cyn lleied ohonynt â phosibl
  17. cadw manylion gweithwyr dros dro segur sy’n gallu ymgymryd â gwaith yn y dyfodol
  18. rheoli cynigion i weithwyr symud o waith dros dro i gyflogaeth barhaol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, y codau ymarfer a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gweithwyr dros dro
  2. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  3. y technolegau a'r offer diweddaraf ar gyfer cyrchu, rhag-sgrinio, asesu a chyfweld ceiswyr gwaith
  4. profiad y ceiswyr gwaith a sut mae'n cysylltu â thechnolegau, gwerthoedd a brand y cyflogwyr
  5. sut i drefnu gweithlu ystwyth, hyblyg ac sy’n gallu addasu i newid
  6. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael gafael ar wybodaeth a’i chofnodi
  7. y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer delio â chwynion gan gyflogwyr, rheolwyr recriwtio a gweithwyr dros dro
  8. hawliau cyflogaeth gweithwyr dros dro a rhwymedigaethau eich sefydliad wrth eu cyflawni
  9. y ddogfennaeth berthnasol ar gyfer cydlynu gweithwyr dros dro
  10. y cyfraddau cyflog ar gyfer gweithwyr dros dro yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol
  11. y mathau o faterion, cwestiynau a phryderon sy'n gysylltiedig â chyflogwyr sy’n gallu codi a sut i'w datrys
  12. y gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer gweithwyr dros dro
  13. y mathau o brosesau mewn perthynas â gwiriadau cymhwysedd, profion a geirdaon ar gyfer gweithwyr dros dro
  14. diben cadarnhau ymrwymiad gweithwyr dros dro i aseiniad
  15. pam y dylid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr yn ystod y broses archebu
  16. sut i gynllunio gwaith yn unol ag argaeledd gweithwyr dros dro
  17. pwysigrwydd cynnal sesiwn ymsefydlu a hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer gweithwyr dros dro
  18. pam mae angen cynnal gwerthusiadau parhaus ar gyfer gweithwyr dros dro yn unol â’r math o gontract
  19. y dulliau cynnal cysylltiad â gweithwyr dros dro
  20. y mathau o faterion, cwestiynau a phryderon sy’n gallu codi mewn perthynas â gweithwyr dros dro a sut i'w datrys
  21. y mathau o gontractau y mae gweithdrefnau cwyno, disgyblu a diswyddo yn berthnasol iddynt a sut i ddefnyddio'r gweithdrefnau hyn
  22. sut i fonitro archebion sydd heb eu cyflawni neu sydd wedi'u canslo a rhoi prosesau ar waith fel bod cyn lleied ohonynt â phosibl
  23. diben cynnal cysylltiad â gweithwyr dros dro segur
  24. sut i reoli cynigion i weithwyr symud o waith dros dro i gyflogaeth barhaol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol
  25. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  26. yr ystyriaethau byd-eang a thrawsddiwylliannol wrth recriwtio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAREC8

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol, Galwedigaethau gweinyddol adnoddau dynol, Rheolwyr a chyfarwyddwyr adnoddau dynol

Cod SOC

4138

Geiriau Allweddol

Recriwtio, gweithwyr dros dro, swyddi dros dro, gofynion cyflogwyr