Monitro cynnydd ceiswyr gwaith a chau swyddi gwag

URN: INSREC007
Sectorau Busnes (Cyfresi): Recriwtio
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro cynnydd ceiswyr gwaith a chau swyddi gwag. Mae'n cynnwys adolygu cynnydd ceiswyr gwaith, cytuno ar gamau dilynol a chwblhau'r broses recriwtio. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ac arbenigwyr recriwtio sy'n ymwneud â monitro cynnydd ceiswyr gwaith a chau swyddi gwag.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi ceiswyr gwaith unigol a chofnodi eu cynnydd
  2. monitro canlyniadau pob proses asesu
  3. trafod camau dilynol i'w cymryd pan fydd ceiswyr gwaith yn aflwyddiannus
  4. ymdrin ag unrhyw gwynion a gwrthwynebiadau gan geiswyr gwaith
  5. cytuno ar gynlluniau gweithredu unigol ar gyfer pob ceisiwr gwaith a’u cofnodi
  6. egluro sefyllfa bresennol ceiswyr gwaith
  7. nodi unrhyw ofynion pellach a gwneud yn siŵr bod y rhain yn cael eu diwallu cyn y cyfweliadau
  8. cynnal cyfweliad dilynol gyda cheiswyr gwaith llwyddiannus
  9. cael geirdaon a chadarnhad o gymhwysedd i weithio ar gyfer ceiswyr gwaith llwyddiannus
  10. cynnal pob gwiriad o gefndir a geirdaon y ceiswyr gwaith
  11. rheoli'r cynigion recriwtio ar gyfer ceiswyr gwaith a chyflogwyr
  12. trefnu'r rhaglenni ymgynefino ar gyfer ceiswyr gwaith
  13. cwblhau unrhyw drafodion ariannol angenrheidiol
  14. cau'r swyddi gwag sydd wedi'u llenwi
  15. annog a rheoli adborth gan gyflogwyr a cheiswyr gwaith
  16. dadansoddi'r adborth ac adolygu'r gweithdrefnau gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, y codau ymarfer a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â recriwtio
  2. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  3. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael gafael ar wybodaeth a’i chofnodi
  4. y technolegau a'r offer diweddaraf ar gyfer cyrchu, rhag-sgrinio, asesu a chyfweld ceiswyr gwaith
  5. profiad y ceiswyr gwaith a sut mae'n cysylltu â thechnolegau, gwerthoedd a brand y cyflogwyr
  6. sut i drefnu gweithlu ystwyth, hyblyg ac sy’n gallu addasu i newid
  7. sut i drefnu hyfforddiant ar gyfer recriwtio a dethol
  8. y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer delio â chwynion gan gyflogwyr a cheiswyr gwaith
  9. y technegau holi a gwrando’n astud
  10. sut i fonitro a chofnodi cynnydd ceiswyr gwaith unigol a chanlyniadau pob asesiad
  11. sut i drafod camau gweithredu a chytuno arnynt a chynnig cyngor neu wasanaethau ychwanegol i geiswyr gwaith sy'n aflwyddiannus
  12. dulliau goresgyn sefyllfaoedd anodd ac ymdrin â gwrthwynebiadau ceiswyr gwaith
  13. sut i gytuno ar gynllun gweithredu a'i gofnodi gyda cheiswyr gwaith
  14. ystod y gofynion pellach cyn penodi, megis geirdaon, tystiolaeth o gymwysterau, cymhwysedd i weithio a sut i'w cael
  15. sut i reoli'r cynigion recriwtio ar gyfer ceiswyr gwaith a chyflogwyr
  16. sut i reoli'r broses ymgynefino
  17. y mathau o drafodion ariannol y gallai fod angen eu cwblhau a sut i wneud hynny
  18. sut i gau swyddi gwag a lenwyd
  19. y gwahanol ddulliau o gael adborth gan geiswyr gwaith a chyflogwyr
  20. y ffyrdd o gynnal perthnasoedd hirdymor gyda cheiswyr gwaith
  21. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  22. yr ystyriaethau byd-eang a thrawsddiwylliannol wrth recriwtio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAREC7

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol, Galwedigaethau gweinyddol adnoddau dynol, Rheolwyr a chyfarwyddwyr adnoddau dynol

Cod SOC

4138

Geiriau Allweddol

Recriwtio, proses recriwtio, ceiswyr gwaith, adolygu cynnydd ceiswyr gwaith, cau swyddi gwag