Asesu ceiswyr gwaith ar gyfer lleoliadau gwaith

URN: INSREC006
Sectorau Busnes (Cyfresi): Recriwtio
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud ag asesu'r ceiswyr gwaith ar gyfer lleoliadau gwaith. Mae'n cynnwys asesu eu haddasrwydd ar gyfer rolau penodol, trefnu cyfweliadau a chynnal technegau asesu eraill sy'n berthnasol i'r broses ddethol. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ac arbenigwyr recriwtio sy'n ymwneud ag asesu ceiswyr gwaith ar gyfer lleoliadau gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. pennu amcanion y broses asesu
  2. pennu'r dulliau a'r technolegau asesu mwyaf priodol
  3. nodi'r meini prawf perthnasol ar gyfer asesu
  4. pennu'r strwythur, yr amserlenni a'r adnoddau ar gyfer yr asesiad
  5. paratoi ar gyfer yr asesiad drwy gasglu’r holl fanylion perthnasol
  6. cynllunio strwythur yr asesiad
  7. cadarnhau argaeledd y ceiswyr gwaith sydd ar y rhestr fer a chyfleu'r broses asesu lawn a'r amserlenni
  8. rhannu manylion trefniadau’r cyfweliad a’r asesiad â cheiswyr gwaith
  9. cadarnhau amser a lleoliad y cyfweliad a'r asesiad
  10. gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn briodol ar gyfer yr asesiad
  11. cyfarch y ceiswyr gwaith a sefydlu perthynas â nhw
  12. cynnal gwiriadau perthnasol cyn yr asesiad
  13. amlinellu'r broses asesu i'r ceiswyr gwaith
  14. gwneud yn siŵr bod y broses gyfweld yn cael ei chynnal yn erbyn manyleb y person
  15. defnyddio technegau holi i alluogi'r ceiswyr gwaith i roi gwybodaeth berthnasol
  16. gwrando ar ymatebion y ceiswyr gwaith a chofnodi gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr asesiad
  17. annog y ceiswyr gwaith i ofyn unrhyw gwestiynau
  18. rhannu 'camau nesaf' y broses ddethol a recriwtio â cheiswyr gwaith
  19. cau'r asesiad
  20. casglu'r holl gofnodion asesu
  21. cofnodi casgliadau o'r asesiad i ategu'r broses o wneud penderfyniadau
  22. rhoi adborth a gwybodaeth am y camau dilynol i'r ceiswyr gwaith
  23. gwneud trefniadau priodol i symud y broses recriwtio a dethol ymlaen
  24. cofnodi canlyniadau'r broses ddethol ar gyfer pob ceisiwr gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, y codau ymarfer a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â recriwtio
  2. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  3. y dulliau a'r gweithdrefnau ar gyfer cael gafael ar wybodaeth a’i chofnodi
  4. y technolegau a'r offer diweddaraf ar gyfer cyrchu, rhag-sgrinio, asesu a chyfweld ceiswyr gwaith
  5. profiad y ceiswyr gwaith a sut mae'n cysylltu â thechnolegau, gwerthoedd a brand y cyflogwyr
  6. sut i drefnu gweithlu ystwyth, hyblyg ac sy’n gallu addasu i newid
  7. sut i drefnu hyfforddiant ar gyfer recriwtio a dethol
  8. y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer delio â chwynion gan gyflogwyr a cheiswyr gwaith
  9. y technegau holi a gwrando’n astud
  10. y meini prawf perthnasol ar gyfer asesu
  11. sut i benderfynu ar amcanion yr asesiad
  12. sut i baratoi ar gyfer yr asesiad a'i strwythuro
  13. sut i drefnu asesiad priodol
  14. diben cadarnhau trefniadau asesu gyda'r ceiswyr gwaith
  15. diben a natur amgylchedd priodol ar gyfer asesiadau
  16. sut i gynnal cyfweliadau ac asesiadau
  17. diben defnyddio meini prawf dethol sy'n seiliedig ar amcanion
  18. sut i sefydlu perthynas â cheiswyr gwaith
  19. y mathau o gwestiynau cyfweliad
  20. diben caniatáu i'r ceiswyr gwaith ofyn unrhyw gwestiynau
  21. effaith iaith y corff a chyfathrebu di-eiriau mewn asesiad
  22. y mathau o asesiadau a sut i'w defnyddio
  23. diben amlinellu'r broses asesu i'r ceiswyr gwaith
  24. y dulliau cynnal rheolaeth dros asesiad
  25. sut i gofnodi gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr asesiad
  26. sut i gau'r asesiad
  27. sut i gofnodi canlyniadau asesiadau
  28. sut i dynnu casgliadau o'r asesiad
  29. diben rhoi adborth a gwybodaeth am y camau dilynol i'r ceiswyr gwaith
  30. diben cyfathrebu â chyflogwyr am y ceiswyr gwaith
  31. y trefniadau perthnasol ar gyfer symud y broses recriwtio a dethol ymlaen
  32. sut i gofnodi canlyniadau pob cam o'r broses recriwtio a dethol ar gyfer pob ceisiwr gwaith
  33. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  34. yr ystyriaethau byd-eang a thrawsddiwylliannol wrth recriwtio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAREC6

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol, Galwedigaethau gweinyddol adnoddau dynol, Rheolwyr a chyfarwyddwyr adnoddau dynol

Cod SOC

4138

Geiriau Allweddol

Recriwtio, ceiswyr gwaith, asesu, cynllunio, cyfweld, gweithdrefnau sefydliadol, gofynion deddfwriaethol