Paru ceiswyr gwaith â swyddi gwag addas

URN: INSREC005
Sectorau Busnes (Cyfresi): Recriwtio
Datblygwyd gan: Instructus
Wedi'i gymeradwyo: 2025

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharu ceiswyr gwaith â swyddi gwag addas. Mae'n cynnwys dewis cyfleoedd priodol i geiswyr gwaith yn erbyn manylebau swyddi, cyn mynd ati i ddilyn gweithdrefnau paru swyddi, dewis ceiswyr gwaith addas, trefnu cyfweliadau a gweithgareddau ar ôl y cyfweliad. Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ac arbenigwyr recriwtio sy'n ymwneud â pharu ceiswyr gwaith â swyddi gwag addas.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi a dewis darpar geiswyr gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  2. diffinio cyfleoedd sy'n diwallu anghenion darpar geiswyr gwaith
  3. gwirio sgiliau a phrofiad ceiswyr gwaith yn erbyn manylebau swyddi
  4. sicrhau cywirdeb y paru rhwng ceiswyr gwaith a chyflogwyr
  5. rhoi gwybod i geiswyr gwaith am gyfleoedd addas
  6. hyrwyddo rolau a nodwyd ymhlith ceiswyr gwaith
  7. cadarnhau diddordeb ceiswyr gwaith mewn swyddi gwag a gwneud yn siŵr eu bod ar gael i'w dewis
  8. cynnal pob gwiriad o gefndir a geirdaon y ceiswyr gwaith
  9. hyrwyddo ceiswyr gwaith a ddewiswyd ymlaen llaw i'r cyflogwyr
  10. rhoi manylion ceiswyr gwaith i'r cyflogwyr a thrafod eu haddasrwydd
  11. rhoi gwybod i geiswyr gwaith am ymatebion y cyflogwyr mewn perthynas â chyfweliadau
  12. cadarnhau argaeledd ceiswyr gwaith ar gyfer cyfweliadau gyda chyflogwyr
  13. trefnu cyfweliadau a dulliau asesu perthnasol
  14. rhoi cefnogaeth ac adborth i geiswyr swyddi sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn ystod y broses cyflwyno cais
  15. rhoi gwybod i geiswyr gwaith am ganlyniad eu cyfweliadau
  16. cytuno ar y ffordd ymlaen gyda cheiswyr gwaith
  17. diweddaru pob rôl barhaus a chau swyddi gwag a lenwyd
  18. casglu adborth gan gyflogwyr
  19. adolygu eich dulliau a'ch prosesau paru swyddi yn rheolaidd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, y codau ymarfer a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â recriwtio
  2. y gweithdrefnau diogelu cyfrinachedd yn unol â rheoliadau diogelu data
  3. y gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cael gafael ar wybodaeth a’i chofnodi
  4. y technolegau a'r offer diweddaraf ar gyfer cyrchu, rhag-sgrinio, asesu a chyfweld ceiswyr gwaith
  5. profiad y ceiswyr gwaith a sut mae'n cysylltu â thechnolegau, gwerthoedd a brand y cyflogwyr
  6. sut i drefnu gweithlu ystwyth, hyblyg ac sy’n gallu addasu i newid
  7. sut i drefnu hyfforddiant ar gyfer recriwtio a dethol
  8. y gweithdrefnau a'r canllawiau ar gyfer delio â chwynion gan gyflogwyr a cheiswyr gwaith
  9. y technegau holi a gwrando’n astud
  10. pwysigrwydd paru'r ceiswyr gwaith â manylebau cyflogwyr
  11. sut i nodi a dewis ceiswyr gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  12. sut i ddiffinio cyfleoedd i ddiwallu anghenion darpar geiswyr gwaith
  13. sut i ddehongli gwybodaeth o fewn disgrifiadau swyddi a manylebau person i baru ceiswyr gwaith â chyfleoedd priodol
  14. sut i ystyried anghenion a gofynion y ceiswyr gwaith a rhai’r cyflogwyr
  15. sut i hyrwyddo'r swyddi gwag ymhlith ceiswyr gwaith
  16. sut i werthuso addasrwydd ceiswyr gwaith yn erbyn manylebau
  17. sut i gyflwyno manylion ceiswyr gwaith i'r cyflogwr a thrafod eu haddasrwydd
  18. dulliau hyrwyddo ceiswyr gwaith i gyflogwyr yn rhagweithiol
  19. diben rhoi gwybodaeth i geiswyr gwaith am ymateb cychwynnol y cyflogwr
  20. sut i drefnu cyfweliadau a dulliau asesu eraill
  21. sut i roi gwybodaeth i geiswyr gwaith sydd wedi cyrraedd y rhestr fer cyn yr asesiad a'r cyfweliad
  22. y gefnogaeth y gallai fod ei hangen ar geiswyr gwaith a sut i'w rhoi
  23. y gweithdrefnau sy'n ymwneud â chwblhau cynigion swyddi'r cyflogwyr i geiswyr gwaith
  24. diben cael adborth gan gyflogwyr
  25. pwysigrwydd adolygu eich gweithdrefnau paru swyddi yn rheolaidd
  26. arferion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  27. yr ystyriaethau byd-eang a thrawsddiwylliannol wrth recriwtio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2030

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAREC5

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol, Galwedigaethau gweinyddol adnoddau dynol, Rheolwyr a chyfarwyddwyr adnoddau dynol

Cod SOC

4138

Geiriau Allweddol

Recriwtio, ceiswyr gwaith, rheoli ceiswyr gwaith